<p>Bargen Dwf Gogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:38, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Gan adeiladu ar ddogfen weledigaeth twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yr haf diwethaf, mae’r tîm sy’n datblygu cais y fargen dwf wedi galw am bwerau datganoledig i’r rhanbarth, gan gynnwys sgiliau, trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol, arloesi busnes, swyddogaethau cynghori, cyngor ar yrfaoedd a threthiant. O ran trethiant, nid ydynt yn cyfeirio at ardrethi busnes, ond at ariannu drwy gynyddrannau treth. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi, neu rydych yn ei rhoi i’r alwad honno, lle mae cyllid o’r fath, sydd ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr rwy’n credu, yn ymwneud â benthyca a gyllidir gan y cynnydd mewn derbyniadau ardrethi busnes yn y dyfodol sy’n deillio o’r prosiectau a ddatblygwyd drwy’r fargen dwf?