<p>Bargen Dwf Gogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:40, 5 Gorffennaf 2017

Mi fyddai pobl Ynys Môn yn hoffi sicrwydd bod bargen dwf y gogledd yn mynd i fod yn chwilio i dyfu’r economi ar draws holl siroedd y gogledd ac nid clymu siroedd y dwyrain i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr yn unig. Mae yna gyfleoedd i’r gorllewin hefyd yn Iwerddon, heb sôn am yng ngweddill Cymru, ac nid dim ond yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Mae yna berig, er enghraifft, fod Wylfa Newydd yn mynd i gael ei weld yn ticio’r bocs o ran Ynys Môn neu o ran y gogledd-orllewin yn ehangach hyd yn oed. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gytuno bod yn rhaid inni beidio â dibynnu ar Wylfa achos os ydy’r sefyllfa’n codi lle nad yw hwnnw’n cael ei ddelifro, mi fyddwn ni mewn twll.