Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Yr her i bobl yn y gogledd sy’n bidio ar y deal yw i fod yn glir eu bod nhw’n creu rhywbeth sy’n mynd i weithio dros ogledd Cymru i gyd. Pan gwrddais i ag arweinyddion newydd Ynys Môn a Gwynedd, siaradais i â nhw am beth sy’n mynd ymlaen gydag Wylfa Newydd a’r pwysigrwydd o fod yn glir y bydd Wylfa newydd yn rhan o beth sy’n dod ymlaen fel rhan sylweddol o’r deal. Ond, wrth gwrs, mae’r deal yn fwy na Wylfa. Ar yr ochr arall, mae’r gogledd-ddwyrain, ac rwy’n gwybod, pan fyddaf i’n siarad â phobl sy’n byw, ac sy’n gyfrifol am bethau, ar ffin Cymru a Lloegr, eu bod nhw’n awyddus i esbonio’r pwysigrwydd o weithio dros y ffin gyda phobl sy’n byw yn Lloegr hefyd. Mae hynny’n bwysig. Ond, dyna’r her, sef i drio creu rhywbeth sy’n gweithio dros y gogledd i gyd ac i Wylfa a phethau eraill yn y gogledd-orllewin. Mae’n hollbwysig i hynny fod yng nghanol y deal hefyd.