Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch i Weinidog y Cabinet am ei ateb. Ond i fynd ar ôl nifer o sylwadau a wnaed gennych yn gynharach, onid ydych yn cytuno bod sawl ymgais wedi bod i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys yr ymgais aflwyddiannus i gyflwyno argymhellion comisiwn Williams, a bod y drefn bresennol o 22 awdurdod lleol wedi bod yn annerbyniol yn ariannol ac yn strategol? Ar wahân i’r ffaith fod gennym 22 o brif weithredwyr ar gyflogau uchel iawn, gyda 22 set o staff i’w cynorthwyo wrth gwrs, nid yw’r awdurdodau yn ddigon mawr i roi unrhyw brosiectau seilwaith ar waith gan fod eu cyllidebau yn annigonol. Felly, onid yw’n derbyn bod arnom angen newid gwirioneddol i lywodraeth leol, yn hytrach na’r trefniadau anghydlynol sydd ar waith ar hyn o bryd?