1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr arbedion a ragwelir o ganlyniad i fodel newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol? OAQ(5)0147(FLG)
Wel, Llywydd, fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Janet Finch-Saunders, bydd y costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r model newydd ar gyfer llywodraeth leol yn cael eu cyhoeddi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â’r Bil llywodraeth leol arfaethedig, wrth ei gyflwyno. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn natganiad y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos diwethaf y byddai Bil llywodraeth leol yn cael ei gynnwys yn rhaglen y Llywodraeth ar gyfer ail flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.
Diolch i Weinidog y Cabinet am ei ateb. Ond i fynd ar ôl nifer o sylwadau a wnaed gennych yn gynharach, onid ydych yn cytuno bod sawl ymgais wedi bod i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys yr ymgais aflwyddiannus i gyflwyno argymhellion comisiwn Williams, a bod y drefn bresennol o 22 awdurdod lleol wedi bod yn annerbyniol yn ariannol ac yn strategol? Ar wahân i’r ffaith fod gennym 22 o brif weithredwyr ar gyflogau uchel iawn, gyda 22 set o staff i’w cynorthwyo wrth gwrs, nid yw’r awdurdodau yn ddigon mawr i roi unrhyw brosiectau seilwaith ar waith gan fod eu cyllidebau yn annigonol. Felly, onid yw’n derbyn bod arnom angen newid gwirioneddol i lywodraeth leol, yn hytrach na’r trefniadau anghydlynol sydd ar waith ar hyn o bryd?
Wel, mae’r Aelod yn llygad ei le wrth roi’r hanes a nododd ynglŷn â’r ymdrechion i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Credaf ei fod yn rhy llym ynglŷn ag i ba raddau y gallodd llywodraeth leol yng Nghymru fyw o fewn ei modd a llwyddo i gyfrannu, gyda’i gilydd, at raglenni strategol pwysig. Ond yn sicr, yr angen i ddod ynghyd er mwyn gallu cyflawni cyfrifoldebau strategol ar sail ehangach a arweiniodd at y 10 awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i ffurfio bargen ddinesig prifddinas Caerdydd a’r pedwar awdurdod lleol a lwyddodd i gael bargen ddinesig ar gyfer Abertawe. Drwy ddod at ei gilydd yn y ffordd honno, maent yn sicr yn gallu gweithio’n well ar draws eu ffiniau, er mwyn creu cyllidebau y gallant i gyd gyfrannu atynt, defnyddio arian o gyllidebau canolog a chyllidebau Llywodraeth Cymru, a chyflawni’n well mewn perthynas â’r math o gyfrifoldebau a nododd yr Aelod.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw yn y gorffennol at wariant cyrff cyhoeddus ar ymgynghorwyr allanol—£56 miliwn y llynedd—ac wedi nodi, os nad ydynt yn rheoli gwasanaethau ymgynghori yn effeithiol, y gallant fod yn ffordd ddrud o ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfamser, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi sicrhau dros £20 miliwn mewn arbedion caffael yn 2015-16, dros £27.5 miliwn yn 2014-15, a £26.9 miliwn yn 2013-14. O ystyried maint yr arbedion hynny, sy’n ganmoladwy, ni ellir ond dychmygu beth y gellid ei gyflawni ar lefel llywodraeth leol ledled Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn ceisio annog y broses o gyflwyno arferion gorau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar draws yr awdurdodau lleol drwy eich cynigion diwygio eich hun?
Llywydd, wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod: bod cydwasanaethau’r GIG wedi bod yn llwyddiant amlwg. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i newid o’r patrwm gwreiddiol, lle’r oedd bron bob un o sefydliadau iechyd Cymru yn darparu’r holl wasanaethau hyn drostynt eu hunain, i bwynt lle mae gennym un sefydliad cydwasanaethau ar gyfer Cymru gyfan. Rhan o’r rheswm pam y cymerodd gymaint â hynny o amser oedd oherwydd bod pobl yn gweithio ym mhob un o’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i chi ystyried safbwynt y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn. Yn ein Papur Gwyn, gofynnwyd yn benodol a oedd mwy y gallai cydwasanaethau’r GIG ei wneud i weithio dros awdurdodau lleol yn y maes hwn, neu a fyddai’n well i awdurdodau lleol ddatblygu eu model cydwasanaethau eu hunain. Mae rhywfaint o amharodrwydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru i droedio llwybr cydwasanaethau, ac mae angen i’n partneriaid llywodraeth leol glywed y neges yn glir fod y symudiad tuag at gydwasanaethau yn daith y mae pob un ohonynt wedi cychwyn arni. Byddaf yn barod i fod yn oddefgar ac yn bragmataidd gyda hwy ynglŷn â faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyrraedd y pwynt lle y ceir mwy o gydweithredu, ond ni ddylai unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru fod ag unrhyw amheuaeth o gwbl fod pob un ohonom ar y daith hon a’u bod hwy arni hefyd.