Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, mae’r Aelod yn llygad ei le wrth roi’r hanes a nododd ynglŷn â’r ymdrechion i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Credaf ei fod yn rhy llym ynglŷn ag i ba raddau y gallodd llywodraeth leol yng Nghymru fyw o fewn ei modd a llwyddo i gyfrannu, gyda’i gilydd, at raglenni strategol pwysig. Ond yn sicr, yr angen i ddod ynghyd er mwyn gallu cyflawni cyfrifoldebau strategol ar sail ehangach a arweiniodd at y 10 awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i ffurfio bargen ddinesig prifddinas Caerdydd a’r pedwar awdurdod lleol a lwyddodd i gael bargen ddinesig ar gyfer Abertawe. Drwy ddod at ei gilydd yn y ffordd honno, maent yn sicr yn gallu gweithio’n well ar draws eu ffiniau, er mwyn creu cyllidebau y gallant i gyd gyfrannu atynt, defnyddio arian o gyllidebau canolog a chyllidebau Llywodraeth Cymru, a chyflawni’n well mewn perthynas â’r math o gyfrifoldebau a nododd yr Aelod.