<p>Model Newydd ar gyfer Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:08, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod: bod cydwasanaethau’r GIG wedi bod yn llwyddiant amlwg. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i newid o’r patrwm gwreiddiol, lle’r oedd bron bob un o sefydliadau iechyd Cymru yn darparu’r holl wasanaethau hyn drostynt eu hunain, i bwynt lle mae gennym un sefydliad cydwasanaethau ar gyfer Cymru gyfan. Rhan o’r rheswm pam y cymerodd gymaint â hynny o amser oedd oherwydd bod pobl yn gweithio ym mhob un o’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i chi ystyried safbwynt y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn. Yn ein Papur Gwyn, gofynnwyd yn benodol a oedd mwy y gallai cydwasanaethau’r GIG ei wneud i weithio dros awdurdodau lleol yn y maes hwn, neu a fyddai’n well i awdurdodau lleol ddatblygu eu model cydwasanaethau eu hunain. Mae rhywfaint o amharodrwydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru i droedio llwybr cydwasanaethau, ac mae angen i’n partneriaid llywodraeth leol glywed y neges yn glir fod y symudiad tuag at gydwasanaethau yn daith y mae pob un ohonynt wedi cychwyn arni. Byddaf yn barod i fod yn oddefgar ac yn bragmataidd gyda hwy ynglŷn â faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyrraedd y pwynt lle y ceir mwy o gydweithredu, ond ni ddylai unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru fod ag unrhyw amheuaeth o gwbl fod pob un ohonom ar y daith hon a’u bod hwy arni hefyd.