<p>Model Newydd ar gyfer Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:07, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw yn y gorffennol at wariant cyrff cyhoeddus ar ymgynghorwyr allanol—£56 miliwn y llynedd—ac wedi nodi, os nad ydynt yn rheoli gwasanaethau ymgynghori yn effeithiol, y gallant fod yn ffordd ddrud o ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfamser, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi sicrhau dros £20 miliwn mewn arbedion caffael yn 2015-16, dros £27.5 miliwn yn 2014-15, a £26.9 miliwn yn 2013-14. O ystyried maint yr arbedion hynny, sy’n ganmoladwy, ni ellir ond dychmygu beth y gellid ei gyflawni ar lefel llywodraeth leol ledled Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn ceisio annog y broses o gyflwyno arferion gorau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar draws yr awdurdodau lleol drwy eich cynigion diwygio eich hun?