<p>Y Cyflog Byw Sylfaen</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:10, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd wedi cynnal arolwg diweddar o’r cyflogwyr hynny ledled y DU sydd wedi dewis bod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig, hynny yw, talu’r cyflog byw sylfaen, sef £8.45, wrth gwrs—bron i £1 yn fwy nag isafswm cyflog cenedlaethol y DU—a sicrhau bod y contractwyr a ddefnyddiant yn talu cyfraddau’r cyflog byw sylfaen. Nododd mwyafrif llethol y rhai a holwyd nid yn unig fod y manteision yn llawer mwy nag unrhyw gostau, ond bod llai nag un o bob pump wedi gorfod newid contractwyr, gan eu bod hwythau wedi bod yn fodlon talu’r cyflog byw sylfaen hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod awdurdodau lleol, mewn sawl ardal yng Nghymru, ymhlith y cyflogwyr mwyaf, a wnewch chi ymuno â mi i annog pob cyngor yng Nghymru i ddarparu arweiniad yn eu cymunedau lleol nid yn unig drwy dalu’r cyflog byw sylfaen i staff a gyflogir yn uniongyrchol, ond i fynd gam ymhellach a cheisio cyflawni’r safonau achredu drwy sicrhau bod eu contractwyr yn ei dalu hefyd?