1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dalu’r cyflog byw sylfaen gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(FLG)
Diolch am eich cwestiwn. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhoi amryw o gamau gweithredu ar waith ar gyflogau isel. Mae rhai’n talu’r cyflog byw i’w gweithwyr, rhai’n bwriadu ei gyflwyno, ac eraill yn symud yn agosach tuag ato drwy gael gwared ar bwyntiau cyflog is.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd wedi cynnal arolwg diweddar o’r cyflogwyr hynny ledled y DU sydd wedi dewis bod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig, hynny yw, talu’r cyflog byw sylfaen, sef £8.45, wrth gwrs—bron i £1 yn fwy nag isafswm cyflog cenedlaethol y DU—a sicrhau bod y contractwyr a ddefnyddiant yn talu cyfraddau’r cyflog byw sylfaen. Nododd mwyafrif llethol y rhai a holwyd nid yn unig fod y manteision yn llawer mwy nag unrhyw gostau, ond bod llai nag un o bob pump wedi gorfod newid contractwyr, gan eu bod hwythau wedi bod yn fodlon talu’r cyflog byw sylfaen hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod awdurdodau lleol, mewn sawl ardal yng Nghymru, ymhlith y cyflogwyr mwyaf, a wnewch chi ymuno â mi i annog pob cyngor yng Nghymru i ddarparu arweiniad yn eu cymunedau lleol nid yn unig drwy dalu’r cyflog byw sylfaen i staff a gyflogir yn uniongyrchol, ond i fynd gam ymhellach a cheisio cyflawni’r safonau achredu drwy sicrhau bod eu contractwyr yn ei dalu hefyd?
Wel, Llywydd, credaf fod Dawn Bowden wedi gwneud pwynt pwysig iawn ar ddechrau ei chwestiwn atodol, pan nododd ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i lawer o sefydliadau dalu cyflogau o’r math hwn, sy’n golygu y gallant recriwtio a chadw staff. Yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, buom yn siarad yn fyr am ofal cymdeithasol fel enghraifft o’r union ffenomen honno. Gall trosiant staff ym maes gofal cymdeithasol fod hyd at 30 y cant yn flynyddol, ac eto gwyddom, lle mae awdurdodau lleol a chwmnïau gofal yn talu eu staff ac yn eu trefnu’n unol â thelerau ac amodau sy’n ei gwneud yn ddeniadol i bobl wneud y swyddi hynny, i aros yn y swyddi hynny, i fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael o ganlyniad i hynny, fod hwnnw’n fodel busnes mwy llwyddiannus i’r cwmnïau hynny ac i’r awdurdodau hynny na’u bod yn ceisio talu ar waelod y raddfa gyflogau, ac yna’n gorfod ymdopi â holl gostau eraill recriwtio, ailhyfforddi a gorfod cyflogi staff dros dro i gyflenwi pan fo bylchau yn y gweithlu. Felly, credaf ei bod wedi dadlau’r achos dros dalu cyflog byw sylfaen mewn termau y gall awdurdodau lleol a chyflogwyr eu deall, ac rwy’n awyddus iawn, fy hun, i ddadlau’r achos hwnnw gyda hwy pan gaf y cyfle i wneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd ychwanegu fy nghefnogaeth i’r duedd hon sy’n datblygu? Deallaf fod dros 80 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru bellach yn talu’r cyflog byw sylfaen, gan gynnwys, Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd. Credaf fod y pwynt a wnewch yn hollol gywir. Mae gennym argyfwng cynhyrchiant yn y wlad hon, ac mae llawer ohono’n deillio o gyflogau sy’n rhy isel, yn syml iawn. Mae angen i’r rhan honno o’r economi arloesi, a hefyd, yn amlwg, darparu safonau byw gweddus i’r rhai a gyflogir ynddi. Felly, credaf fod y ddadl ynglŷn â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn bwysig tu hwnt, a byddwn yn gweld hyn yn cael ei arfer fwy a mwy gan yr 80 o gwmnïau a’r rhai a fydd yn ymuno â hwy dros y blynyddoedd i ddod, rwy’n siŵr.
Wel, cytunaf yn llwyr â David Melding mai cyflogau isel yw gelyn cynhyrchiant, ac rydym wedi gweld hynny yn economi’r DU dros y saith mlynedd diwethaf. Pan fo cyflogau’n cael eu cadw’n isel, mae’n dod yn gymhelliant gwrthnysig i gyflogwyr gadw gweithwyr, lle y gallent fod wedi cymryd camau eraill a fyddai wedi arwain at fwy o gynhyrchiant, ac o ganlyniad, cyflogau gwell i’r bobl a gyflogir ganddynt. Rwy’n falch o ddweud, Llywydd, yn ogystal â’r Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd, fel y dywedodd yr Aelod, fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gyflogwr cyflog byw achrededig gyda’r Living Wage Foundation, ac nid yn unig ein bod yn sicrhau y telir y cyflog byw i’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol, gan gynnwys prentisiaid, ond mae ein cytundeb fel Llywodraeth yn mynd y tu hwnt i staff a gyflogir yn uniongyrchol. Yng nghontractau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl i ddarparwyr pob gwasanaeth a gontractir allan dalu’r cyflog byw i’w staff ar safle hefyd.