<p>Y Cyflog Byw Sylfaen</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:13, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd ychwanegu fy nghefnogaeth i’r duedd hon sy’n datblygu? Deallaf fod dros 80 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru bellach yn talu’r cyflog byw sylfaen, gan gynnwys, Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd. Credaf fod y pwynt a wnewch yn hollol gywir. Mae gennym argyfwng cynhyrchiant yn y wlad hon, ac mae llawer ohono’n deillio o gyflogau sy’n rhy isel, yn syml iawn. Mae angen i’r rhan honno o’r economi arloesi, a hefyd, yn amlwg, darparu safonau byw gweddus i’r rhai a gyflogir ynddi. Felly, credaf fod y ddadl ynglŷn â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn bwysig tu hwnt, a byddwn yn gweld hyn yn cael ei arfer fwy a mwy gan yr 80 o gwmnïau a’r rhai a fydd yn ymuno â hwy dros y blynyddoedd i ddod, rwy’n siŵr.