Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, cytunaf yn llwyr â David Melding mai cyflogau isel yw gelyn cynhyrchiant, ac rydym wedi gweld hynny yn economi’r DU dros y saith mlynedd diwethaf. Pan fo cyflogau’n cael eu cadw’n isel, mae’n dod yn gymhelliant gwrthnysig i gyflogwyr gadw gweithwyr, lle y gallent fod wedi cymryd camau eraill a fyddai wedi arwain at fwy o gynhyrchiant, ac o ganlyniad, cyflogau gwell i’r bobl a gyflogir ganddynt. Rwy’n falch o ddweud, Llywydd, yn ogystal â’r Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd, fel y dywedodd yr Aelod, fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gyflogwr cyflog byw achrededig gyda’r Living Wage Foundation, ac nid yn unig ein bod yn sicrhau y telir y cyflog byw i’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol, gan gynnwys prentisiaid, ond mae ein cytundeb fel Llywodraeth yn mynd y tu hwnt i staff a gyflogir yn uniongyrchol. Yng nghontractau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl i ddarparwyr pob gwasanaeth a gontractir allan dalu’r cyflog byw i’w staff ar safle hefyd.