Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’n dda gennyf gefnogi’r cynnig, wrth gwrs, fel y mae, a gwrthod y gwelliannau, er gwaethaf rhai o’r rhesymau sydd wedi cael eu gwneud. A gaf i ddechrau gyda hefyd nodi fy niolchgarwch a bodlonrwydd gyda phenderfyniad Cyngor Sir Powys i gadw’r ffrwd Cymraeg yn yr ysgol yn Aberhonddu, a hefyd tynnu sylw’r Cynulliad at pam y gwnaed hynny? Fe’i rhoddwyd tri rheswm dros wyrdroi’r bwriad y cau’r ffrwd Cymraeg yn Aberhonddu. Y trydydd rheswm oedd hyn: i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Felly, i fi, dyma’r tro cyntaf gweld penderfyniad cyngor sir yn cael ei wyrdroi neu newid oherwydd y bwriad yna. Rwy’n croesawu hynny, ac rydw i jest eisiau ymhelaethu ar beth sydd ymhlyg yn hynny nawr, yn enwedig ym maes addysg.
Os ŷch chi’n ystyried bod, o’r holl siaradwyr Cymraeg sy’n dros 65 ar hyn o bryd, wyth o bob 10 ohonyn nhw wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, ac, o’r holl siaradwyr Cymraeg sydd hyd at 15, dau o bob 10 ohonyn nhw sydd wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, rŷch chi’n gweld y gwahaniaeth sydd wedi digwydd dros y cenedlaethau. Ydym, rydym ni wedi cadw’r iaith mewn ffordd ryfeddol yn y byd modern, mae’n rhaid dweud, ond rydym ni wedi ei wneud ef drwy weld trosglwyddiad o le yr oedd yr iaith yn iaith aelwyd, fferm, capel, gwaith, ac ati, i sefyllfa lle mae’r iaith yn dibynnol, i raddau helaeth iawn, ar addysg.
Nawr, nid drwg o beth yn gyfan gwbl yw hynny, achos mae yna fanteision, wrth gwrs, fel mae’n digwydd bod—manteision penodol addysgiadol—o fod yn ddwyieithog, ac nid oes ots pa ddwy iaith yr ŷch chi’n ddwyieithog ynddyn nhw. Mae yna fanteision mwy o fod yn deirieithog, hyd yn oed, ond mae tystiolaeth ryngwladol mor gryf bod bod yn ddwyieithog yn cryfhau sgiliau mathemateg, sgiliau crebwyll, sgiliau dehongli, sgiliau dadansoddi. Mae’n dda o beth bod gyda ni system, ac ein bod ni’n symud at system, addysg ddwyieithog. Ond mae hefyd yn gofyn sawl cwestiwn ynglŷn â’r ffordd rydym ni’n mynd i gyrraedd yna.
Felly, a gaf i ofyn yn gyntaf—? Byddai’n dda gen i glywed gan y Gweinidog wrth ymateb i’r ddadl yma lle mae’r cynlluniau Cymraeg mewn addysg erbyn hyn, a gwaith Aled Roberts yn edrych ar rheini i sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer y targed newydd yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Jest i rannu, yn y cyd-destun yna, gyda’r Cynulliad rhai o’r pethau mae’n golygu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ychydig o dan 100,000 sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Felly, i gyrraedd miliwn, mae yna dipyn o ffordd i fynd. Mae modd ei wneud e, dros 30 mlynedd, ond mae yna ffordd i fynd. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd miliwn, bydd rhaid i 77.5 y cant o blant Cymru gael addysg drwy’r Gymraeg erbyn 2040. Dyna pam roedd Plaid Cymru’n dadlau yn ein maniffesto ni yn etholiad y Cynulliad diwethaf bod angen i bob un plentyn dderbyn addysg Gymraeg yng Nghymru, o leiaf yn yr ysgol gynradd, fel bod seiliau ddwyieithog i bob un plentyn yng Nghymru, ac efallai mwy o ddewis iaith yn dilyn hynny, gan ddibynnu pa ardal rydych chi’n byw ynddo fe.
Mae angen ewyllys benderfynol mewn ambell i ardal yng Nghymru. Er enghraifft, os ydych chi’n edrych o dan y ffigyrau yna, mae’n rhaid cynyddu’r ffigwr addysg Gymraeg o 10 y cant o blant saith oed yn Nhorfaen i 62 y cant; o 5.6 y cant yn y Fflint fel y mae hi ar hyn o bryd i 46.5 y cant. Nawr, nid pwynt defnyddio’r ffigyrau hyn yw collfarnu’r ardaloedd sydd ar ei hôl hi—rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwella—ond i ddangos bod modd gosod targedau, bod modd gosod targedau fesul ardal, fesul cyngor sir, fesul rhanbarth, fesul ysgol, ac mae modd, felly, mesuro. Dyna pam rydw i’n siomedig bod y Llywodraeth yn gwyrdroi ein gwelliant ni yn fan hyn sydd yn gosod allan yr angen am dargedau ac yn ceisio dweud stori eto. Wel, ie, gwerthwch stori ar bob cyfrif, ond fe awn ni am dargedau hefyd, os gwelwch yn dda, fel ein bod ni’n gallu mesuro a ydy’r miliwn yma o fewn cyrraedd mewn pum mlynedd, mewn 10 mlynedd, mewn 15 mlynedd. Dyma’r fath o ffigyrau mae’n rhaid i ni weld yn digwydd.
Wrth gwrs, rydw i wedi sôn am nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg, ond mae’n rhaid meddwl hefyd am y proffesiwn. Mae’n wir i ddweud, efallai, yn draddodiadol, mai ffermio ac addysg oedd y ddau weithlu Cymraeg eu hiaith yng Nghymru. Mae wedi syrthio yn ôl yn y ddau faes, i raddau, ond mae’n dal i fod yn wir bod un o bob tri athro yng Nghymru yn medru’r Gymraeg. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn medru’r Gymraeg. Felly, mae yna sgiliau cynhenid yna. Serch hynny, mae nifer y myfyrwyr Cymraeg sy’n hyfforddi i fod yn athrawon wedi cwympo i’r lefel isaf ers bron i ddegawd, ac mae angen hyfforddi 3,000 o athrawon ar gyfer y sector cynradd a 2,600 o athrawon ar gyfer y sector uwchradd er mwyn jest dechrau ar y cynllun o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Dyma’r swmp, dyma’r targedau a dyma’r ffordd rydym ni’n mynd i fesuro a yw’r Llywodraeth ar y trywydd iawn ai peidio.