Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Fel sydd wedi ei leisio’n barod gan ein siaradwyr eraill, mae Plaid Cymru yn gefnogol iawn o’r uchelgais i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’n bwysig cydnabod nad trwy gyfres o bolisïau tymor byr y mae newid sefyllfa’r Gymraeg. Yn wir, os yw’r nod uchelgeisiol yma am gael ei wireddu, yna mae’n rhaid i’r strategaeth hon fod yn un a all wrthsefyll newid gwleidyddol—hynny yw, newid mewn Gweinidog a hefyd newid mewn plaid wleidyddol sydd yn llywodraethu. Felly, mae’n rhaid sicrhau elfen o barhad a chysondeb dros gyfnod estynedig o amser.
Rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw i sôn yn benodol am un elfen sydd yn sicr angen parhad a chysondeb, elfen sydd yn greiddiol bwysig os yw’r Llywodraeth am ennill cefnogaeth gan y cyhoedd ar y daith i gyrraedd yr 1 filiwn, sef hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym ni wedi clywed ambell gyfraniad da iawn—Jeremy Miles ac Adam yn benodol, ond eraill hefyd, a Sian. Fel rhan o’r gyllideb ar gyfer 2017-18, a gytunwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, yr oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth hyd braich i’r Gymraeg er mwyn rhoi cyfle i osod sylfaen newydd a mwy cadarn i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywhau’r iaith a chreu Cymru sydd yn wirioneddol ddwyieithog. Mae angen cynyddu’r pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg ac nid dim ond ar sicrhau hawliau i’w siaradwyr. Fel y mae’n sefyll, rôl Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo, ond mae Plaid Cymru o’r farn mai rôl i gorff hyd braich arbenigol arall, gydag arbenigwyr, polisïau a chynllunio ieithyddol sydd wedi eu hadeiladu dros nifer o flynyddoedd, sydd fwyaf addas yn awr ar gyfer dyfeisio, hwyluso a monitro’r math o gynlluniau hyrwyddo sydd nawr eu hangen. Dyna pam fod angen asiantaeth—neu beth bynnag y bydd yn cael ei alw—sydd yn arwain ar bolisi, sydd yn gyfrifol am orolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymysg adrannau Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor y celfyddydau.
Pam mai hyrwyddo yw un o’r elfennau pwysicaf er mwyn ehangu defnydd y Gymraeg? Wel, hyd yn oed heddiw, yn 2017, mae yna ddiffyg dealltwriaeth eang am ba fanteision y mae dysgu yn y Gymraeg yn eu cynnig a hyd yn oed sut y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu. Bob ryw chwe mis, yn ddi-ffael, cawn ni erthygl gan un o’r papurau newydd Prydeinllyd yn honni bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn atal plant rhag cyrraedd eu potensial, bod, rywsut, dysgu iaith sydd ar farw yn anfantais i unrhyw blentyn neu oedolyn sydd eisiau swydd o ansawdd, a’i bod yn well dysgu iaith dramor megis Ffrangeg neu Sbaeneg. Yr esiampl fwyaf diweddar, wrth gwrs, oedd erthygl yn ‘The Guardian’ bythefnos yn ôl a oedd yn ffeithiol anghywir ac yn honni bod plant a oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o dan ryw fath o anfantais o gymharu â’u cymheiriaid sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
Er mwyn i’r Llywodraeth gyrraedd yr 1 filiwn, mae’n rhaid wrth newid agwedd tuag at y Gymraeg yn gyffredinol, fel ydym ni wedi clywed, ac i bobl Cymru gymryd perchnogaeth o’r amcan hon yn llawn hyder. Hyrwyddo—’Danfonwch eich plant i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mi ddaw’r plentyn allan yn rhugl mewn dwy iaith, nid dim ond mewn un.’ Mae hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan annatod yn hynny i gyd. Mae’r hyrwyddo yn allweddol bwysig. Nid oes dim i’w ofni yn fan hyn, dim ond gwella sgiliau eich plant, a chredwn ni fod angen asiantaeth hyd braich i arwain ar yr hyrwyddo yna. Diolch yn fawr.