<p>Y Diwydiant Ffermio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:30, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae 'Panorama' yr wythnos hon yn edrych ar sut y gallai Brexit effeithio ar ein ffermwyr ni yma yng Nghymru. Nawr, fel y dywedodd Mr Jacob Anthony o'ch etholaeth chi ar y rhaglen, mae gan yr UE un polisi amaethyddol sydd i fod yn addas i bob un o’r 28 gwlad...gwledydd sy’n ffermio ceirw yng Nghylch yr Arctig yr holl ffordd i lawr i ffermwyr ym Môr y Canoldir yn tyfu olifau.

Sut ydych chi, felly, yn gweithio gydag Ysgrifennydd amgylchedd y DU, ac eraill, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, tuag at ddatblygu’r cytundeb gorau posibl i’n ffermwyr sy'n fwy addas i Gymru, ac a wnewch chi egluro eich ymateb i ddogfen bolisi Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ‘The Vision for the Future of Farming: A New Domestic Agricultural Policy’?