<p>Y Diwydiant Ffermio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'n gywir i ddweud bod un ateb i bawb yn Ewrop a dweud y gwir; ceir amrywiadau ar draws Ewrop, wrth gwrs. Ac ni ddylai fod yn wir ychwaith y dylai fod un ateb i bawb, ac ni ddylai fod yn wir y dylai fod un ateb i bawb yn y DU o ran hynny, gan fod ein ffermio yn dra gwahanol. Mae strwythur ein ffermio yn dra gwahanol, er enghraifft, i’r strwythurau mewn sawl rhan o Loegr. Byddem yn fwy na pharod i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig pe byddai ond yn trafferthu i gyfarfod â ni, oherwydd un o'r pethau a wnaeth oedd canslo ei gyfarfodydd pedrochr gyda Lesley Griffiths, y Gweinidog, a chyda’r Alban, ar gyfer y mis diwethaf a’r mis hwn. Felly, byddem yn fwy na pharod i gyfarfod ag ef. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn edrych ymlaen at wneud hynny. Rwy'n deall y bydd yn y Sioe Frenhinol. Efallai y gwnaiff ef gyfarfod â ni bryd hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, yn gwbl eglur, yw nad yw'n argoeli'n dda pan mai cam cyntaf Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yw canslo cyfarfodydd gyda gweinyddiaethau datganoledig, ac, yn ail, mae'n hynod bwysig, pan fydd y Bil diddymu yn cael ei gyhoeddi, bod cydnabyddiaeth na ddylai Llywodraeth y DU gymryd y pwerau a ddylai ddod i Gymru oddi wrth Frwsel a’u cadw nhw yn Llundain. Ni fyddwn yn cefnogi hynny o dan unrhyw amgylchiadau.