Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid archwilio mewn i’r posibilrwydd o benodi diwydiannwr profiadol i sicrhau, os bydd rhwystredigaethau i ffermio ar ffurf tariffs uchel i gael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd, y gallwn ni achub beth gallwn ni o amaeth Cymru trwy sicrhau bod llawer mwy o fwyd Cymru yn cael ei ‘procure-io’ i’n hysgolion a’n hysbytai, hyd yn oed os bydd hynny’n costio ychydig yn fwy o arian, ac y gallai’r diwydiannwr yma hefyd fod yn gyfrifol am ddatblygu gwell cydweithrediad rhwng ffermwyr i sicrhau bod bwyd Cymru sydd o ansawdd uchel yn gallu cael ei gyflenwi mewn ffordd ddibynadwy i archfarchnadoedd dros Brydain i gyd?