<p>Diswyddiadau Staff ym Mhrifysgolion Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:38, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru; mae tua 5 y cant o economi Cymru o ganlyniad i weithgarwch prifysgolion yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, os ydych chi’n colli staff o brifysgol, staff profiadol a drud y mae'r brifysgol yn ceisio eu symud ymlaen yn gyntaf yn aml iawn. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan y sector prifysgolion na fydd hynny’n tanseilio'r cyfle i'r sector berfformio'n arbennig o dda o ran ei gyfraniad at economi Cymru, yn enwedig os yw nifer sylweddol o staff yn mynd i gael eu diswyddo o ganlyniad i ostyngiadau o ran cyrsiau penodol ac incwm?