Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Wel, rwy’n credu ei bod hi’n hynod bwysig nad yw ein prifysgolion yn rhwystro eu hunain, o ran y ffordd y maen nhw’n cystadlu nid yn unig gyda'i gilydd— marchnad fach iawn yw Cymru—ond ar draws y byd. Ac mae'n rhaid i brifysgolion ystyried pa un a fyddai colli staff yn golygu nad ydynt yn gallu darparu gwasanaeth i’w myfyrwyr mwyach, a ddim bellach yn gallu denu incwm ychwanegol o ganlyniad o bosibl. Fel y dywedais wrth ateb yr Aelod dros Arfon, dylid ystyried dileu swyddi fel y dewis olaf ac nid cyntaf.