<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n ddiolchgar am ei arddangosiad o delepathi, yn dweud wrthyf beth rwy'n mynd i'w ddweud ddydd Iau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei gyngor ar hynny. Gallaf ddweud nad wyf i'n mynd yno i negodi; rwy’n mynd yno i esbonio’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd fel Llywodraeth yn ein Papur Gwyn, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, ac mae ein safbwynt yn eglur iawn yn gyhoeddus, sef, er ein bod yn gadael yr UE, mae’r telerau yr ydym ni’n gadael yr UE yn unol â nhw yn hynod bwysig. O ran tanseilio strategaeth negodi y DU, nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw honno. Tan y bydd gennym ni well syniad o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ei hun ar y pethau hyn, yn hytrach na gwahanol leisiau—Boris Johnson eto heddiw, Michael Gove yn dweud rhywbeth gwahanol, David Davis yn dweud rhywbeth gwahanol, Y Prif Weinidog yn dweud rhywbeth y mae hi wedi ei ailadrodd sawl gwaith y mae hi wedi ei weld ar ddarn o bapur—. Rydym ni angen gwybod beth yn union yw safbwynt Llywodraeth y DU. Nid ydym ni’n gwybod hynny.