<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:53, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Prif Weinidog yn cymylu pethau yma. Mae'n gwybod yn iawn bod nod Llywodraeth y DU yr un fath â nod Llywodraeth Cymru, sef sicrhau’r graddau mwyaf posibl o fasnach rydd rhwng y DU a'r UE. Ond proses ddwyochrog yw hon. Os nad ydym yn cael masnach rydd gydag Ewrop, ni fyddwn yn caniatáu i’r UE gael masnach rydd gyda ni, ac, o ystyried bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o £61 biliwn y flwyddyn gyda ni, mae gymaint er eu lles nhw ag y mae er ein lles ni—fel y mae o ran masnach fyd-eang—ein bod ni’n lleihau rhwystrau i gyfnewid nwyddau a gwasanaethau yn rhydd. Felly, os bydd yn defnyddio'r cyfle hwn ddydd Iau i atgyfnerthu'r neges honno, efallai y bydd yn gwneud ychydig o ddaioni iddo’i hun gyda Llywodraeth y DU trwy fynd gyda'r graen. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn a ddywedodd yn gynharach am Weinidogion DEFRA ddim yn cyfarfod â Gweinidogion Cymru. Rwy’n credu bod hynny'n amharchus ac yn ddi-fudd, ond mae'n bosibl bod agwedd Llywodraeth y DU tuag at Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr agwedd y mae ef a’i gydweithwyr wedi ei chymryd at y trafodaethau Brexit. Efallai eu bod nhw’n meddwl, 'Beth yw’r pwynt cyfarfod â nhw, oherwydd y cwbl maen nhw’n mynd i’w wneud yw anghytuno â ni?'