2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd yr adroddiad interim gan y comisiwn ar iechyd a gofal cymdeithasol ei ganfyddiadau heddiw. Y Llywodraeth sefydlodd y comisiwn hwn, yn amlwg, a disgwylir yr adroddiad terfynol ddiwedd y flwyddyn hon. Nid oes gan Lywodraethau Llafur blaenorol hanes da iawn pan ddaw i weithredu canfyddiadau manwl gan gomisiynau, fel comisiwn Williams er enghraifft. A allwch chi roi syniad i ni o ba bwys y mae’r Llywodraeth yn ei neilltuo i’r canfyddiadau gan y comisiwn, ac ai’r rhain fydd yr elfen ganolog i'r Llywodraeth hon, wrth symud ymlaen yn y Cynulliad hwn, yn y ffordd y mae'n llunio iechyd a gofal cymdeithasol—yr argymhellion y mae'r adroddiad yn eu gwneud?
Wel, ni fyddem wedi sefydlu'r adolygiad ar sail drawsbleidiol pe na byddem ni’n mynd i’w gymryd o ddifrif; yn amlwg. Rydym ni’n edrych ymlaen at yr adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi, a dyna fydd sail ein hystyriaethau ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n credu mai’r hyn sy'n bwysig i ni ei ddeall, er tegwch—. Ac rwy’n eich canmol am sefydlu'r adolygiad seneddol, oherwydd mae rhai o'r canfyddiadau y maen nhw wedi eu rhoi ar gael heddiw yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth, gan ddangos, yn amlwg, yn y ddwy flynedd nesaf, y byddwn yn gweld cynnydd o 44 y cant i nifer y bobl dros 65 oed, ac eto gostyngiad o 5 y cant i nifer y bobl o oedran gweithio, sy'n dangos bod heriau gwirioneddol i'w hwynebu. A phan y gellir wynebu’r heriau hynny yn drawsbleidiol, yn amlwg, bydd yr atebion hynny yn dod yn llawer haws. Ond mae'n hanfodol deall pa un a fydd y comisiwn hwn a'i argymhellion yn dioddef yr un ffawd â llawer o gomisiynau eraill y mae'r Llywodraeth wedi eu comisiynu—ac rwy’n defnyddio enghraifft comisiwn Williams eto—neu ai’r canfyddiadau hyn fydd elfen ganolog ystyriaethau’r Llywodraeth mewn gwirionedd wrth symud at ddiwedd y Cynulliad hwn yn 2022.
Mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs—. Mae'n crybwyll comisiwn Williams. Gwrthwynebwyd comisiwn Williams gan bleidiau eraill yn y Siambr hon; nid oedd fel pe byddai'r Llywodraeth wedi penderfynu ar ei liwt ei hun, er gwaethaf cefnogaeth pobl eraill, y byddai'r argymhellion yn symud yn eu blaenau.
O ran iechyd, mae hwn yn ymrwymiad mawr i ni ei wneud. Fe’i gwnaed gennym, wrth gwrs, yn rhan o'n rhaglen lywodraethu, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gwneud cymaint ag y gallwn i ddod o hyd i dir cyffredin o ran iechyd ar draws y pleidiau, er mwyn deall beth yw’r heriau, gan fod yr heriau yr un fath beth bynnag fo’r wleidyddiaeth, ac yna gweld sut y gellir ymateb i’r heriau hynny. Mae hynny'n sicr yn rhan o'n hystyriaethau. Fel y dywedais, byddwn yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad ac yn edrych ymlaen at weithredu ar gymaint ohono ag y gallwn.
Rwy’n meddwl mai’r hyn a fyddai wedi rhoi mwy o ffydd i ni yw pe gallem ni fod wedi cael ateb mwy eglur a fyddai wedi dweud, 'Bydd, mi fydd hyn yn rhan o’n hystyriaethau yn y dyfodol—yr argymhellion', a’ch bod chi’n edrych ymlaen at gyflawni’r argymhellion hynny yn y pen draw, yn hytrach na dim ond yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad, ac yna penderfynu beth i'w wneud, gan fod amser yn brin. Fel y mae Mansel Aylward yn ei nodi, mae’r fom amser ddemograffig eisoes wedi ffrwydro. Mae rhan arall yr adroddiad yn sôn am yr argyfwng sgiliau yn y GIG a maes gofal cymdeithasol y mae angen rhoi sylw iddo nawr—mae'n sôn am nawr, nid yn y dyfodol, ond sydd yn digwydd mewn gwirionedd gyda'n gwaith cynllunio’r gweithlu ar hyn o bryd. Ac, yn bwysig, mae'n sôn am strwythurau a’r ffordd y bydd strwythurau yn— ac rwy'n meddwl mai’r geiriau y maen nhw’n eu defnyddio yw:
Mae maint yr heriau yn golygu bod y system yn dod yn ansefydlog, na ellir ei ddatrys trwy newidiadau bach, cam wrth gam.
Felly, ar y sail hon, felly, a ydych chi’n credu bod hynny'n arwain at y casgliad amlwg y bydd yn rhaid cael newid strwythurol llwyr yn y GIG yma yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol, neu a ydych chi’n credu y gall dull mwy graddol ddarparu’r atebion y mae’r adroddiad interim yn cyfeirio atynt ac y bydd yr argymhellion terfynol yn awgrymu angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddynt?
Mae'n rhaid cael newid—mae'n amlwg. Ni fyddwn yn defnyddio'r gair 'llwyr'. Rwy'n amharod i fynegi barn heb weld argymhellion yr adroddiad, am resymau amlwg, ond byddem yn dymuno rhoi cymaint ohono ar waith ag y gallwn a cheisio consensws ar draws y Siambr er mwyn gwneud hynny.
O ran sgiliau, nid oes amheuaeth y bydd unrhyw fath o gyfyngiad ar fudo yn gwneud y sefyllfa o ran sgiliau yn waeth oherwydd, wrth gwrs, mae’r sector gofal cymdeithasol yn recriwtio’n helaeth o'r tu allan i'r DU, fel, wrth gwrs, y mae’r proffesiynau meddygol a nyrsio. Mae honno’n effaith na allwn ei rheoli yn uniongyrchol yma. Ond os yw’n gofyn y cwestiwn i mi, 'Ai dim ond ymarfer yw hwn yr ydym ni’n ei gynnal heb fod terfyn eglur?', Yr ateb i hynny yw 'nage'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, gan weithio gyda phleidiau eraill ar draws y Siambr hon, y gallwn roi cymaint o'r argymhellion ar waith â phosibl. Mae'n rhaid i ni eu gweld nhw yn gyntaf er mwyn gwneud dyfarniad ynghylch pa un a allwn ni wneud hynny ar gyfer pob un o'r argymhellion, neu'r rhan fwyaf ohonynt.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae pob un o'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi galw am ymchwiliad annibynnol llawn i'r penderfyniadau yn ymwneud â phrosiect Cylchffordd Cymru. Yn wir, mae rhai ar eich meinciau cefn eich hun wedi dweud bod cwestiynau difrifol i'w hateb. Y cam cyntaf yn y broses honno fydd cyhoeddi eich adroddiad diwydrwydd dyladwy allanol eich hun, ac rydych chi wedi cytuno i gyhoeddi hwn, ond dim ond pan fydd y Cynulliad ar doriad. Nawr, i lawer ohonom ni, mae hyn yn edrych fel Llywodraeth sy'n ceisio gohirio craffu ar benderfyniad a ohiriwyd ei hun tan ar ôl yr etholiad. A all y Prif Weinidog ddweud a yw ei Lywodraeth wedi gofyn i'r cwmni a'r ymgynghorwyr allanol eto a ydynt yn hapus i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi? Ac o ran yr un darn o wybodaeth a roddwyd ar gael i'r cyhoedd, a ddisgrifiwyd gennych chi fel bod yn 'anffodus', a all y Prif Weinidog ein sicrhau ni nad oedd unrhyw un sy’n gysylltiedig â'r Llywodraeth yn gysylltiedig â’i ddatgeliad?
Mae ymchwiliad i ddatgeliad heb ganiatâd wedi cael ei gychwyn gan yr Ysgrifennydd Parhaol; bydd yn rhaid i hwnnw ddilyn ei gwrs. Yn ail, mae'r broses o siarad â'r sefydliadau dan sylw sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad diwydrwydd dyladwy wedi dechrau, gyda’r nod o’i gyhoeddi. Rydym ni eisiau cyhoeddi cymaint ohono â phosibl.
Un o'r rhesymau y galwyd am ymchwiliad annibynnol yw oherwydd cyfres o ddatganiadau camarweiniol a wnaed gan y Llywodraeth, yn ystod ymgyrchoedd etholiadol yn aml. Rwy'n siŵr mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny, Prif Weinidog.
Enwch nhw.
Gofynnwyd i chi ar 7 Ebrill 2016 pam y gwrthodwyd y cynnig y diwrnod cynt, a dywedasoch, ac rwy'n dyfynnu, 'Yr hyn a ddigwyddodd yn wreiddiol oedd eu bod nhw eisiau gwarant o £30 miliwn gennym ni, ac yna aeth i fyny i £357 miliwn.' Pan ofynnwyd i chi pryd y digwyddodd hynny, dywedasoch, a dyfynnaf: 'Yn y diwrnodau diwethaf' Dywedasoch, unwaith eto, wrth Wales Online ar 11 Ebrill, ac rwy’n dyfynnu eto:
Roedd yn ystod y diwrnodau diwethaf cyn hynny. Nid oeddem yn gwybod y byddai'r warant yn cael ei chwyddo.
Ac eto mae un o uwch-gyfarwyddwr Aviva investors, Mark Wells, yn mynd yn groes i'r hyn a ddywedasoch. Gwadodd fod Aviva wedi gofyn am danysgrifeniad o 100 y cant ychydig ddyddiau cyn y gwrthodiad. Dywed ac, unwaith eto, rwy’n dyfynnu:
lluniwyd y cytundeb hwn gyda Llywodraeth Cymru (trwy weision sifil) dros fisoedd lawer ac ni newidiodd unrhyw beth yn ein strwythur ariannu yn ystod y cyfnod cyn y cyhoeddiad hwn.
Prif Weinidog, dim ond un o'r ddau ohonoch chi all fod yn iawn. A allwch chi ddweud wrthym ni heddiw pa un ohonoch chi sy’n iawn a pha un ohonoch chi sy’n anghywir?
Dywedwyd wrthyf ar 5 Ebrill 2016.
Felly, nid oedd honno'n drafodaeth hirdymor, ai dyna ydych chi’n ei ddweud, nad oeddech chi wedi bod mewn trafodaethau hirdymor gyda'r cwmni hwnnw? A ydych chi’n gwadu hynny nawr? Dywedasoch ar BBC Wales ar 26 Ebrill eleni, yn y cyfnod cyn yr etholiad, dim ond ychydig ddyddiau ymlaen llaw, 'Rwyf eisiau i Gylchffordd Cymru weithio, dyna’i diwedd hi.' Ychwanegwyd gennych fod y model cyllido wedi newid ers y llynedd, yn eich geiriau chi: 'Mae hynny'n newid nawr; mae'r model yn well', meddech.
A allwch chi egluro beth newidiodd rhwng y datganiad hwnnw cyn yr etholiad, ac yna’r gwrthodiad fis yn ddiweddarach, ar ôl yr etholiad? Rydych chi wedi dweud wrthym yn y 10 diwrnod diwethaf, eich bod wedi eich hysbysu am y broblem ynghylch dosbarthiad y fantolen. Mae’n ymddangos bod llawer o bryderon wedi codi i chi, Prif Weinidog, yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae eich Llywodraeth wedi bod yn ystyried y prosiect hwn ers chwe blynedd gyfan. Pam na chodwyd y broblem ddosbarthu hon gennych chi unwaith ar y llawr hwn? Pam na chafodd ei chodi yn y 28 o wahanol gyfarfodydd a gawsoch chi gyda’r datblygwyr? Ac o ystyried y £10 miliwn neu fwy o arian cyhoeddus a roddwyd i’r prosiect hwn, gallai hynny gynyddu gan fod y cwmni y tu ôl i'r prosiect yn dweud bod hawliad cyfreithiol am gael ei wneud yn erbyn y Llywodraeth hon?
Prif Weinidog, penderfynasoch ohirio’r penderfyniad hwn tan ar ôl etholiad. Penderfynasoch ohirio’r cyhoeddiad diwydrwydd dyladwy hyd at adeg pan roedd y Cynulliad hwn mewn toriad. Pam na wnaethoch chi benderfynu gohirio'r penderfyniad terfynol fel y gallech chi o leiaf fod wedi cael Aviva a phawb arall o gwmpas y bwrdd i weld a ellid fod wedi datrys y problemau hyn a nodwyd yn ystod y dyddiau diwethaf?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi rhoi ateb uniongyrchol i gwestiwn a ofynnodd; cafodd ei tharo’n ôl ganddo yn llafar, yn amlwg. Ond gadewch i mi roi mwy o atebion uniongyrchol i chi: nid yw'r prosiect chwe blynedd yn ôl yr un prosiect â’r prosiect i ni ymdrin ag ef. Mae wedi newid sawl gwaith o ran ei strwythur ariannol. Roedd y prosiect a ystyriwyd gennym ni yn brosiect yr oeddem ni wedi ei weld yn ddiweddar yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'n brosiect, wrth gwrs, a oedd yn seiliedig ar y warant sy'n allan yna’n gyhoeddus. Fe wnaethom edrych ar y strwythur ariannol a gynigiwyd, aethom drwy'r diwydrwydd dyladwy, a datgelodd y diwydrwydd dyladwy bod risg uchel iawn y byddai’r gost neu’r warant yn cael ei ystyried fel bod ar y fantolen. Nid wyf yn gwybod os yw hi'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu, ond mae ‘ar y fantolen’ yn golygu y bydd yn cael ei drin fel pe byddem ni wedi rhoi arian i’r cwmni nawr. Byddai'n golygu y byddem ni’n dod o hyd i werth £157 miliwn o ostyngiadau cyfalaf yn y flwyddyn ariannol hon—dyna'r risg a gymerwyd gennym. Fe wnaethom ni weithio gyda'r cwmni i weld beth allem ni ei wneud i helpu. Bu cyfarfod rhwng y cwmni a swyddogion ar ôl y penderfyniad. Eglurwyd i'r cwmni beth oedd y problemau, ac fe wnaethant dderbyn hynny. Maen amlwg nad ydynt wedi siarad â hi gan fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny. A gaf i awgrymu ei bod hi, efallai, yn siarad gyda’r cwmni i gael eu safbwynt nhw ar hyn?
Un peth nad yw Plaid Cymru erioed wedi ei ddweud yw pa un a oeddent yn cytuno â'r penderfyniad ai peidio. Tan y byddwn ni’n gwybod a ydyn nhw’n cytuno ai peidio, fel y gallwn ni asesu a ydyn nhw’n meddwl y dylid cymryd risgiau uchel gyda gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yna, wrth gwrs, ni allaf dderbyn pregeth gan arweinydd Plaid Cymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Llywydd, rwy’n cytuno 100 y cant gyda phopeth y mae arweinydd Plaid Cymru newydd ei ddweud— [Torri ar draws.] Ceir adegau pan all UKIP fod yn eciwmenaidd. Er budd pobl Cymru, mae hon yn un ohonynt, ac mae'n rhywbeth y gallwn, o bosibl, barhau i’w drafod yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, os nad mewn ymchwiliad cyhoeddus, os na chaiff hynny ei ganiatáu.
Ond hoffwn ofyn am y cyfarfod y mae’r Prif Weinidog ar fin ei gael gyda Michel Barnier, prif drafodwr yr UE ar Brexit, yr wyf yn deall sy’n digwydd ddydd Iau. A yw’n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn i ategu strategaeth negodi Llywodraeth y DU neu i geisio ei thanseilio? Credaf fod y Prif Weinidog yn derbyn ein bod ni’n mynd i adael y farchnad sengl, ac mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn mynd i adael yr undeb tollau. Mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu sy’n agored i’w negodi. Rwy’n darllen ei fod yn mynd i ddweud wrth Michel Barnier ei bod yn hanfodol er budd swyddi yng Nghymru ein bod ni’n parhau, os nad yn aelodau o'r farchnad sengl, â mynediad dilyffethair ati o leiaf, ond onid yw'n derbyn, pan fyddwch chi’n dechrau negodi, fel Michel Barnier ei hun, y dylech chi chwarae gêm galed, nid gêm feddal. Os byddwch chi’n mynd i mewn i drafodaeth gan dderbyn amcanion sylfaenol dadleuon yr ochr arall, yna nid ydych chi’n debygol o gael y cytundeb yr ydych chi ei eisiau, ond un gwaeth. Felly, yr hyn y dylai ei esbonio i Michel Barnier ddydd Iau yw manteision cydfuddioldeb yma, i'r Ewropeaid ac i’r Prydeinwyr, o gael y fasnach rydd fwyaf posibl rhyngom ni. Mae ei ddefnyddio dim ond fel cyfle i sefyll yn erbyn strategaeth negodi Llywodraeth y DU yn debygol o fethu beth bynnag, ond ni fydd ychwaith yn gwneud unrhyw ddaioni i Lywodraeth Cymru wrth iddi ymwneud â Llywodraeth y DU gartref.
Wel, rwy’n ddiolchgar am ei arddangosiad o delepathi, yn dweud wrthyf beth rwy'n mynd i'w ddweud ddydd Iau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei gyngor ar hynny. Gallaf ddweud nad wyf i'n mynd yno i negodi; rwy’n mynd yno i esbonio’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd fel Llywodraeth yn ein Papur Gwyn, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, ac mae ein safbwynt yn eglur iawn yn gyhoeddus, sef, er ein bod yn gadael yr UE, mae’r telerau yr ydym ni’n gadael yr UE yn unol â nhw yn hynod bwysig. O ran tanseilio strategaeth negodi y DU, nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw honno. Tan y bydd gennym ni well syniad o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ei hun ar y pethau hyn, yn hytrach na gwahanol leisiau—Boris Johnson eto heddiw, Michael Gove yn dweud rhywbeth gwahanol, David Davis yn dweud rhywbeth gwahanol, Y Prif Weinidog yn dweud rhywbeth y mae hi wedi ei ailadrodd sawl gwaith y mae hi wedi ei weld ar ddarn o bapur—. Rydym ni angen gwybod beth yn union yw safbwynt Llywodraeth y DU. Nid ydym ni’n gwybod hynny.
Mae’r Prif Weinidog yn cymylu pethau yma. Mae'n gwybod yn iawn bod nod Llywodraeth y DU yr un fath â nod Llywodraeth Cymru, sef sicrhau’r graddau mwyaf posibl o fasnach rydd rhwng y DU a'r UE. Ond proses ddwyochrog yw hon. Os nad ydym yn cael masnach rydd gydag Ewrop, ni fyddwn yn caniatáu i’r UE gael masnach rydd gyda ni, ac, o ystyried bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o £61 biliwn y flwyddyn gyda ni, mae gymaint er eu lles nhw ag y mae er ein lles ni—fel y mae o ran masnach fyd-eang—ein bod ni’n lleihau rhwystrau i gyfnewid nwyddau a gwasanaethau yn rhydd. Felly, os bydd yn defnyddio'r cyfle hwn ddydd Iau i atgyfnerthu'r neges honno, efallai y bydd yn gwneud ychydig o ddaioni iddo’i hun gyda Llywodraeth y DU trwy fynd gyda'r graen. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn a ddywedodd yn gynharach am Weinidogion DEFRA ddim yn cyfarfod â Gweinidogion Cymru. Rwy’n credu bod hynny'n amharchus ac yn ddi-fudd, ond mae'n bosibl bod agwedd Llywodraeth y DU tuag at Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr agwedd y mae ef a’i gydweithwyr wedi ei chymryd at y trafodaethau Brexit. Efallai eu bod nhw’n meddwl, 'Beth yw’r pwynt cyfarfod â nhw, oherwydd y cwbl maen nhw’n mynd i’w wneud yw anghytuno â ni?'
Wel, aeth Prif Weinidog y DU i mewn i'r etholiad cyffredinol ar sail cael mandad i adael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau a gadael awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop. Methodd ar bob un o'r pwyntiau hynny. Fe fethodd. Nid oedd pobl Prydain yn cefnogi'r farn honno, ac felly mae'n ddyletswydd arnom ni nawr i ddod o hyd i ffordd sy'n cynnig y lefel fwyaf o gonsensws. Ydym, rydym ni’n gadael. Nac oes, does neb eisiau i reolau WTO gael eu defnyddio, ond byddant yn cael eu defnyddio oni bai fod cyfnod pontio o leiaf, oherwydd ni fydd cytundeb erbyn mis Mawrth 2019. Ni all neb, does bosib, gredu hynny, o ystyried—. Rwyf i wedi siarad â negodwyr masnach ac maen nhw’n dweud wrthyf ei bod hi’n cymryd 18 mis i gytuno ar yr hyn yr ydych chi’n mynd i siarad amdano, heb sôn am gael cytundeb. Mae'r pethau hyn, o ran eu natur, yn gymhleth dros ben, felly mae'n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar drefniadau pontio.
Rydym ni wedi cyflwyno ein barn: mae yn y Papur Gwyn. Mae'n eglur iawn. Pa un a yw pobl yn cytuno ag ef ai peidio, gall pobl weld ei fod yno o leiaf. Does gen i ddim syniad beth yw safbwynt presennol Llywodraeth y DU erbyn hyn. Nid yw hynny o fudd i neb, ac mae'n hynod bwysig eu bod nhw’n gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd yno. Nid ydym yn dechrau o sefyllfa o geisio tanseilio Llywodraeth y DU. Byddwn yn huawdl, yn gyhoeddus, os ydym ni’n anghytuno â'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ond nid dyna lle’r ydym ni’n dechrau. Ond, yn anffodus, ni allwn hyd yn oed gyrraedd y pwynt hwnnw oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cau’r siop i ni a'r Alban ar hyn o bryd. Nawr, nid yw honno'n ffordd synhwyrol ymlaen os ydym ni’n mynd i gael cytundeb Brexit sy'n denu cefnogaeth ar draws y DU.
Wel, rwyf i wedi gwneud fy mhwynt ar hynny, ond mae 27 o aelod-wladwriaethau eraill yn y DU. Mae gennym ni ddiffyg masnach gyda bron pob un ohonyn nhw. Yn achos yr Almaen, er enghraifft, mae gennym ni ddiffyg masnach sy'n gyfystyr â £25 biliwn y flwyddyn. Mae un o bob 10 car sy’n cael ei wneud yn yr Almaen yn cael ei allforio i'r Deyrnas Unedig. Mae budd enfawr i’r Almaen mewn cadw'r fasnach rydd fwyaf posibl gyda Phrydain. Ceir diffyg enfawr yn y rhan fwyaf o gynhyrchion amaethyddol yn y DU, ac felly, unwaith eto, ceir cydfuddioldeb o gynnal y rhyddid mwyaf posibl, er enghraifft, i allforio gwin Ffrainc gan fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad lleiaf posibl. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff ef gymryd camau, ynghyd â'i gydweithwyr, i fynd at daith o gwmpas prifddinasoedd Ewrop i siarad â Llywodraethau’r aelod-wladwriaethau unigol, oherwydd ni fyddan nhw yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o drafod Brexit, er mwyn gweld pa gydfuddioldeb allwn ni ei feithrin yno er mwyn helpu i roi pwysau ar Gomisiwn yr UE, sydd, wrth gwrs, yn anetholedig, i gymryd yr agwedd fwyaf ryddfrydol tuag at fasnach rydd rhwng ein priod wledydd.
Wel, yn gyntaf oll, fe’i gwnaed yn gwbl eglur, ac nid oes unrhyw wrthwynebiad ymhlith 27 yr UE am hyn, na all trefniant y DU yn y dyfodol fod mor fuddiol ag aelodaeth o'r UE. Am resymau amlwg, maen nhw o’r farn na allwch chi ei chael hi bob ffordd, i ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw. Dyna'r peth cyntaf i'w gofio. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gryfach ac yn fwy unedig erbyn hyn nag y bu erioed, mae’n debyg. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus dros ben nad yw hwnnw'n undod yn erbyn y DU, ac mae'n rhaid defnyddio diplomyddiaeth i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Nid trafodaeth rhwng dwy ochr gyfartal yw hon. Mae'r UE wyth gwaith yn fwy na’r DU. Mae ei farchnad yn llawer, llawer mwy. Mae'n llawer mwy deniadol i fuddsoddwyr tramor ac allforwyr nag y mae’r DU, oherwydd bod ganddo lawer mwy o ddefnyddwyr nag yn y DU. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried hyn o safbwynt realistig.
Mae'n gwneud y pwynt am yr UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei wneud i'r UE o ran niferoedd. Wel, byddai'n rhyfedd pe na byddai, o ystyried y ffaith ei fod wyth gwaith yn fwy; wrth gwrs ei fod yn mynd i allforio mwy o ran arian a niferoedd. Ond, os edrychwch chi ar ganrannau, rydym ni, mewn gwirionedd, yn allforio llawer mwy o'n hallforion i mewn i'r farchnad Ewropeaidd na chynhyrchion UE sy'n dod i mewn i'r DU. Rwy'n credu bod tua 8 y cant o allforion y 27 yr UE yn mynd i mewn i'r DU. O safbwynt Cymru, mae'n 67 y cant y ffordd arall. Felly, mewn gwirionedd, fel canran, rydym ni’n sefyll i golli llawer mwy nag y mae Ewrop. Cofiwch, wrth gwrs, bod yr UE newydd lofnodi cytundeb masnach rydd gyda Japan. Bydd gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn llygadu hynny’n farus dros ben, gan y byddant yn edrych ar y cytundeb masnach rydd hwnnw gyda Japan fel cyfle enfawr iddyn nhw mewn marchnad sydd ddwywaith maint y DU, dyna’r gwir plaen—ddwywaith maint y DU. Mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen eisoes wedi dweud, o’u safbwynt nhw, y byddent yn dymuno i'r DU aros i mewn. Nid ydyn nhw’n mynd i bwyso ar eu Llywodraeth eu hunan am ryw fath o gytundeb arbennig i’r DU, ac mae'r Almaenwyr yn gwerthfawrogi'r UE a'i undod yn fwy na dim byd arall. Mae hynny wedi bod yn eglur iawn yn ystod y misoedd diwethaf. Nid yw BMW yn un o aelod-wladwriaeth’r UE, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei gofio.
Rydym ni yn realistig. Mae cydfuddioldeb yn bwysig. Mae cytundeb da i bawb yn bwysig, ond, wrth gwrs, rydym ni’n wynebu sefyllfa nawr gyda Phrif Weinidog y DU a aeth i mewn i etholiad gyda rhaglen eglur o'r hyn yr oedd hi eisiau ei wneud a cholli, neu fethu—methodd ag ennill yr etholiad o ganlyniad i hynny. A dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i ddod i safbwynt ar Brexit y gallwn ni i gyd geisio ei gefnogi. Ond hyd yn hyn, caewyd y drws.