Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Wel, yn gyntaf oll, fe’i gwnaed yn gwbl eglur, ac nid oes unrhyw wrthwynebiad ymhlith 27 yr UE am hyn, na all trefniant y DU yn y dyfodol fod mor fuddiol ag aelodaeth o'r UE. Am resymau amlwg, maen nhw o’r farn na allwch chi ei chael hi bob ffordd, i ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw. Dyna'r peth cyntaf i'w gofio. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gryfach ac yn fwy unedig erbyn hyn nag y bu erioed, mae’n debyg. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus dros ben nad yw hwnnw'n undod yn erbyn y DU, ac mae'n rhaid defnyddio diplomyddiaeth i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Nid trafodaeth rhwng dwy ochr gyfartal yw hon. Mae'r UE wyth gwaith yn fwy na’r DU. Mae ei farchnad yn llawer, llawer mwy. Mae'n llawer mwy deniadol i fuddsoddwyr tramor ac allforwyr nag y mae’r DU, oherwydd bod ganddo lawer mwy o ddefnyddwyr nag yn y DU. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried hyn o safbwynt realistig.
Mae'n gwneud y pwynt am yr UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei wneud i'r UE o ran niferoedd. Wel, byddai'n rhyfedd pe na byddai, o ystyried y ffaith ei fod wyth gwaith yn fwy; wrth gwrs ei fod yn mynd i allforio mwy o ran arian a niferoedd. Ond, os edrychwch chi ar ganrannau, rydym ni, mewn gwirionedd, yn allforio llawer mwy o'n hallforion i mewn i'r farchnad Ewropeaidd na chynhyrchion UE sy'n dod i mewn i'r DU. Rwy'n credu bod tua 8 y cant o allforion y 27 yr UE yn mynd i mewn i'r DU. O safbwynt Cymru, mae'n 67 y cant y ffordd arall. Felly, mewn gwirionedd, fel canran, rydym ni’n sefyll i golli llawer mwy nag y mae Ewrop. Cofiwch, wrth gwrs, bod yr UE newydd lofnodi cytundeb masnach rydd gyda Japan. Bydd gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn llygadu hynny’n farus dros ben, gan y byddant yn edrych ar y cytundeb masnach rydd hwnnw gyda Japan fel cyfle enfawr iddyn nhw mewn marchnad sydd ddwywaith maint y DU, dyna’r gwir plaen—ddwywaith maint y DU. Mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen eisoes wedi dweud, o’u safbwynt nhw, y byddent yn dymuno i'r DU aros i mewn. Nid ydyn nhw’n mynd i bwyso ar eu Llywodraeth eu hunan am ryw fath o gytundeb arbennig i’r DU, ac mae'r Almaenwyr yn gwerthfawrogi'r UE a'i undod yn fwy na dim byd arall. Mae hynny wedi bod yn eglur iawn yn ystod y misoedd diwethaf. Nid yw BMW yn un o aelod-wladwriaeth’r UE, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei gofio.
Rydym ni yn realistig. Mae cydfuddioldeb yn bwysig. Mae cytundeb da i bawb yn bwysig, ond, wrth gwrs, rydym ni’n wynebu sefyllfa nawr gyda Phrif Weinidog y DU a aeth i mewn i etholiad gyda rhaglen eglur o'r hyn yr oedd hi eisiau ei wneud a cholli, neu fethu—methodd ag ennill yr etholiad o ganlyniad i hynny. A dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i ddod i safbwynt ar Brexit y gallwn ni i gyd geisio ei gefnogi. Ond hyd yn hyn, caewyd y drws.