<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:56, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf i wedi gwneud fy mhwynt ar hynny, ond mae 27 o aelod-wladwriaethau eraill yn y DU. Mae gennym ni ddiffyg masnach gyda bron pob un ohonyn nhw. Yn achos yr Almaen, er enghraifft, mae gennym ni ddiffyg masnach sy'n gyfystyr â £25 biliwn y flwyddyn. Mae un o bob 10 car sy’n cael ei wneud yn yr Almaen yn cael ei allforio i'r Deyrnas Unedig. Mae budd enfawr i’r Almaen mewn cadw'r fasnach rydd fwyaf posibl gyda Phrydain. Ceir diffyg enfawr yn y rhan fwyaf o gynhyrchion amaethyddol yn y DU, ac felly, unwaith eto, ceir cydfuddioldeb o gynnal y rhyddid mwyaf posibl, er enghraifft, i allforio gwin Ffrainc gan fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad lleiaf posibl. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff ef gymryd camau, ynghyd â'i gydweithwyr, i fynd at daith o gwmpas prifddinasoedd Ewrop i siarad â Llywodraethau’r aelod-wladwriaethau unigol, oherwydd ni fyddan nhw yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o drafod Brexit, er mwyn gweld pa gydfuddioldeb allwn ni ei feithrin yno er mwyn helpu i roi pwysau ar Gomisiwn yr UE, sydd, wrth gwrs, yn anetholedig, i gymryd yr agwedd fwyaf ryddfrydol tuag at fasnach rydd rhwng ein priod wledydd.