2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyflogadwyedd yng Nghymru? OAQ(5)0713(FM)
Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gwneud datganiad yn nodi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyflogadwyedd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd hwnnw’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiad 'Symud Cymru Ymlaen' i ad-drefnu cymorth cyflogadwyedd er mwyn galluogi unigolion i gaffael a chadw cyflogaeth gynaliadwy.
Diolch i chi am hynna. Fel y byddwch yn gwybod, mae Rhaglen Gwaith ac Iechyd Llywodraeth y DU yng Nghymru yn destun proses dendro ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd yn cyrraedd 16,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd, neu'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers mwy na dwy flynedd, er bod 270,000 o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru, ac eithrio myfyrwyr a phensiynwyr, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru. Sut y gwnewch chi roi sylw i bryderon a fynegwyd i mi na ragwelir y bydd rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, y byddwn yn clywed mwy amdanynt yn ddiweddarach, ar hyn o bryd, rydym yn deall, yn dechrau tan fis Ebrill 2019, ar ôl llithro flwyddyn ar ei hôl hi, ac, ymhellach, mai dim ond un prif gontractwr sy’n gweithredu fydd ar ôl yng Nghymru, er gwaethaf datganiad Llywodraeth Cymru ei bod eisiau defnyddio cyflenwyr lluosog, ac os na fydd yn gweithredu nawr, y bydd yn cael ei gorfodi i ddibynnu ar gwmnïau allanol yn dod i mewn i Gymru i ddarparu’r gwasanaethau hynny? Yn olaf, yn y cyd-destun hwn, i roi sylw i'r datganiad i'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol heddiw gan Sefydliad Bevan fod, o ran cyflogadwyedd, angen siop un stop arnom, gyda chynlluniau wedi eu trefnu y tu ôl i'r llenni mewn gwasanaeth di-dor, pa un a ydynt yn rhai DU, Cymru, neu’r trydydd sector.
Bydd y Gweinidog, fel y dywedais, yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni’n bwriadu dechrau gweithredu ein rhaglen newydd ym mis Ebrill 2019. Wrth i ni drosglwyddo i’r rhaglen—y rhaglen newydd, yn hytrach—rydym ni’n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud nawr i gynorthwyo unigolion yn well i gael gwaith. Bydd y trefniadau pontio hynny yn canolbwyntio ar wneud diwygiadau i'r rhaglenni cyflogadwyedd presennol ar gyfer y cyfnod interim hyd at Ebrill 2019 er mwyn cael mwy o effaith. Rydym ni’n profi ac yn treialu’r dulliau hyn i gefnogi agenda tasglu’r Cymoedd. Unwaith eto, bydd datganiad ar hynny, os cofiaf yn iawn, y prynhawn yma, a bydd hwnnw’n llywio datblygiad wedyn y cynllun cyflawni cyflogadwyedd.
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn cynnwys ymrwymiad i ad-drefnu cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy'n barod am swyddi ac i’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Mae'n bwysig cydnabod nad yw cyflogadwyedd yn golygu swyddi a sgiliau yn unig, mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar bolisi addysg y Llywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau—yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pobl i mewn i swyddi cynaliadwy. Prif Weinidog, beth mae cymeradwyaeth pobl Cymru i Lafur Cymru yn yr etholiadau Cynulliad, lleol a chyffredinol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei ddweud am farn pobl ar ein cynlluniau ar gyfer cynyddu cyflogadwyedd yn ein gwlad?
Wel, a gaf i ddweud ei fod yn dangos bod pobl Cymru yn ymddiried yn Llafur Cymru i gyflawni’n economaidd, yn gymdeithasol, ac ar gyfer eu cymunedau? Ac, wrth gwrs, gwelsom hynny eto y mis diwethaf.