<p>Dysgu Ieithoedd Newydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 11 Gorffennaf 2017

Wel, mae’n wir i ddweud y byddem ni’n agored i’r syniad. Byddai’n rhaid, wrth gwrs, ystyried ym mha ffordd mae hynny’n gweithio yn yr Alban. A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, un o’r pethau sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref yw bod sefydliadau ieithoedd Ffrainc, yr Almaen, a Sbaen yn mynd i agor swyddfeydd yng Nghymru? Mae hwnnw’n gam mawr ymlaen achos, wrth gwrs, bod yn rhaid inni sicrhau bod digon o athrawon ar gael i ddysgu ieithoedd modern hefyd. So, mae hynny’n hollbwysig. Ond mae’r syniad yn un sy’n werth ei ystyried.