2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog unigolion i ddysgu ieithoedd newydd? OAQ(5)0724(FM)
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar addysgu a dysgu pob iaith: Cymraeg, Saesneg, neu ieithoedd tramor modern. Fel enghraifft o hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Dyfodol Byd-eang, cynllun pum mlynedd i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern mewn ysgolion.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol o ffair iaith yr Alban, sydd am ddim i’r cyhoedd ac yn derbyn cefnogaeth swyddogol gan Lywodraeth yr Alban. Cynhelir y digwyddiad ar gyfer unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn ieithoedd ac mae’n cynnwys seminarau, dosbarthiadau blasu iaith, a pherfformiadau diwylliannol mewn dathliad anhygoel o ieithoedd y byd. Mae’n ddathliad bywiog, egnïol, a chyffrous, sy’n gosod ieithoedd lleiafrifol ochr yn ochr ag ieithoedd mawr honedig y byd. Yn dilyn y llwyddiant yma, a ydy Llywodraeth Cymru yn agored i’r syniad o gynnal a chefnogi ffair ieithoedd yma yng Nghymru?
Wel, mae’n wir i ddweud y byddem ni’n agored i’r syniad. Byddai’n rhaid, wrth gwrs, ystyried ym mha ffordd mae hynny’n gweithio yn yr Alban. A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, un o’r pethau sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref yw bod sefydliadau ieithoedd Ffrainc, yr Almaen, a Sbaen yn mynd i agor swyddfeydd yng Nghymru? Mae hwnnw’n gam mawr ymlaen achos, wrth gwrs, bod yn rhaid inni sicrhau bod digon o athrawon ar gael i ddysgu ieithoedd modern hefyd. So, mae hynny’n hollbwysig. Ond mae’r syniad yn un sy’n werth ei ystyried.
Canfu adroddiad diweddaraf 'Tueddiadau Iaith Cymru' bod yr athrawon yn hynod bryderus am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Mae gan fwy na thraean o ysgolion Cymru lai na 10 y cant o bobl ifanc 14 i 15 oed sy'n astudio iaith dramor fodern erbyn hyn. Yr ystadegyn yw bod gan 44 y cant o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio ieithoedd tramor ar safon UG, a bod gan 61 y cant lai na phum disgybl iaith dramor ar Safon Uwch. O gofio mai effaith gyfyngedig y mae Dyfodol Byd-eang yn ei chael, pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal y dirywiad difrifol o ran dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, mae 'Dyfodol Byd-eang', cofiwch, yn gynllun pum mlynedd sydd â'r nod o wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, bydd y dyfarniad ar hwnnw ar ôl pum mlynedd. Nid oes unrhyw gwestiwn y bydd angen i'n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ieithoedd tramor yn y dyfodol. Un o'r materion sy'n gysylltiedig â Brexit nad yw wedi cael ei ddeall na’i archwilio’n llawn eto yw mai Saesneg, fel y cyfryw, yw ail iaith pobl yn yr Undeb Ewropeaidd. Os bydd y DU yn gadael, mae dylanwad y Saesneg yn dechrau lleihau. Beth mae hynny’n ei olygu? Gallai olygu dim byd, ond nid ydym yn gwybod beth fydd hynny’n ei olygu o ran ieithoedd eraill yn dod yn fwy blaenllaw wedyn o fewn Ewrop a'r angen i’n plant a’n pobl ifanc ein hunain ddysgu’r ieithoedd hynny o ganlyniad. Dyna pam, wrth gwrs, y cyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' ym mis Hydref 2015 gyda’r nod, wrth gwrs, o wella'r sefyllfa yn sylweddol erbyn 2020.