<p>Dysgu Ieithoedd Newydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:14, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Canfu adroddiad diweddaraf 'Tueddiadau Iaith Cymru' bod yr athrawon yn hynod bryderus am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Mae gan fwy na thraean o ysgolion Cymru lai na 10 y cant o bobl ifanc 14 i 15 oed sy'n astudio iaith dramor fodern erbyn hyn. Yr ystadegyn yw bod gan 44 y cant o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio ieithoedd tramor ar safon UG, a bod gan 61 y cant lai na phum disgybl iaith dramor ar Safon Uwch. O gofio mai effaith gyfyngedig y mae Dyfodol Byd-eang yn ei chael, pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal y dirywiad difrifol o ran dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, os gwelwch yn dda?