<p>Dysgu Ieithoedd Newydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae 'Dyfodol Byd-eang', cofiwch, yn gynllun pum mlynedd sydd â'r nod o wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, bydd y dyfarniad ar hwnnw ar ôl pum mlynedd. Nid oes unrhyw gwestiwn y bydd angen i'n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ieithoedd tramor yn y dyfodol. Un o'r materion sy'n gysylltiedig â Brexit nad yw wedi cael ei ddeall na’i archwilio’n llawn eto yw mai Saesneg, fel y cyfryw, yw ail iaith pobl yn yr Undeb Ewropeaidd. Os bydd y DU yn gadael, mae dylanwad y Saesneg yn dechrau lleihau. Beth mae hynny’n ei olygu? Gallai olygu dim byd, ond nid ydym yn gwybod beth fydd hynny’n ei olygu o ran ieithoedd eraill yn dod yn fwy blaenllaw wedyn o fewn Ewrop a'r angen i’n plant a’n pobl ifanc ein hunain ddysgu’r ieithoedd hynny o ganlyniad. Dyna pam, wrth gwrs, y cyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' ym mis Hydref 2015 gyda’r nod, wrth gwrs, o wella'r sefyllfa yn sylweddol erbyn 2020.