4. 3. Datganiad: Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018-19 a Chyhoeddi Crynodeb o Ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Weithredu Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Diamond

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:59, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wir, mae’n deitl hir, Llywydd, ac mae'n mynd i fod yn ddatganiad eithaf hir hefyd. Llywydd, rwy'n falch iawn, heddiw, y gallwn gadarnhau ein bod ni yng Nghymru yn gallu trosi egwyddorion tegwch a rhagoriaeth yn ddiwygiadau radical a rhesymegol o gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch.

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i adroddiad terfynol Diamond a lansiais ymgynghoriad ar ein dull gweithredu. Rwyf bellach yn gallu cyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion hynny i'r ymgynghoriad a chadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru; cadarnhau'r pecyn cymorth sydd ar gael i israddedigion amser llawn, israddedigion rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig o ddechrau blwyddyn academaidd 2018-19; cadarnhau uchafswm lefelau'r ffioedd dysgu y gall sefydliadau yng Nghymru eu codi am gyrsiau israddedig amser llawn; ac amlygu ymdrechion prifysgolion Cymru wrth i’n sector gadarnhau mai hwn fydd y cyntaf yn y DU i fod yn sector cyflog byw.

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol am ein bwriad i gyflwyno, gyda dim ond mân addasiadau, y pecyn Diamond llawn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad, ac i'n rhanddeiliaid sydd wedi bod yn awyddus i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau yr wyf yn credu fydd yn feincnod ar gyfer cenhedloedd a systemau eraill. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gwaith i'w wneud wrth gyfathrebu’r system newydd. Yn benodol, mae'n rhaid i ni roi sicrwydd i rieni bod y newid sylfaenol i gefnogi myfyrwyr gyda chostau o ddydd i ddydd, yn hytrach nag ad-dalu ffioedd ar ôl graddio, yn mynd i'r afael â'r union bryderon y maent yn aml yn eu codi. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r prifysgolion, awdurdodau cyllid myfyrwyr ac eiriolwyr allweddol ar y mater hwn. Byddaf yn lansio ymgyrch gyfathrebu i hyrwyddo system newydd o gymorth yn yr hydref a byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelodau yma yn derbyn yr her honno. Mae copi o'r adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sydd hefyd yn cynnwys cadarnhad o’n cynigion terfynol, wedi cael ei roi yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar ôl trafod ein cynigion gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a Thrysorlys Ei Mawrhydi, rwy’n falch o gadarnhau, yn amodol ar reoliadau a wneir, y byddwn yn cyflwyno’r pecynnau canlynol o gymorth i fyfyrwyr sy'n cychwyn blwyddyn gyntaf eu cwrs yn y flwyddyn academaidd 2018-19. I fyfyrwyr israddedig amser llawn a rhan-amser, bydd system newydd decach a chynaliadwy o gymorth yn cael ei chyflwyno. Bydd cymorth ychwanegol ar gael i sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o arian i dalu am eu costau byw o ddydd i ddydd. Bydd gan bob myfyriwr yr hawl i gael cymorth sy’n gyfwerth â'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio. Bydd hyn yn golygu y bydd myfyrwyr llawn amser cymwys yn derbyn cymorth cynhaliaeth o £11,250 os ydynt yn astudio yn Llundain a £9,100 y flwyddyn yng ngweddill y DU.

Bydd cymorth grant yn cael ei dargedu at y rhai sydd â'r angen mwyaf, er y bydd pob myfyriwr yn cael isafswm grant o £1,000 waeth beth yw incwm y cartref. Bydd myfyrwyr o’r cartrefi incwm isaf yn derbyn y grant uchaf: hyd at £10,250 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU. Mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd un rhan o dair o fyfyrwyr amser llawn yn gymwys am y grant llawn. Incwm y cartref ar gyfartaledd i fyfyriwr yn y system bresennol yw tua £25,000.  Dan y system newydd, bydd myfyriwr o'r fath yn derbyn oddeutu £7,000 y flwyddyn mewn grantiau nad ydynt yn ad-daladwy. Am y tro cyntaf, bydd myfyrwyr israddedig rhan-amser yn derbyn yr un cymorth ar gyfer costau cynhaliaeth ar sail pro rata i'w cymheiriaid llawn amser.

Hoffwn ddiolch i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu gwaith caled, eu diwydrwydd a’u dychymyg wrth inni gyrraedd y pwynt lle’r ydym wedi gallu cyflawni'r rhaglen sylweddol hon o ddiwygio. Rwy'n hyderus ein bod wedi sefydlu perthynas gref sy'n cyflawni dros Gymru a'n dinasyddion.

Fel y cyhoeddais yn flaenorol, rydym hefyd wedi derbyn argymhellion adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd y system newydd o gymorth, a fydd yn dod â’r un cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn academaidd 2019-20. Fodd bynnag, er mwyn cydnabod y bydd y newidiadau ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno yn hwyrach na’r newidiadau ar gyfer myfyrwyr israddedig, byddaf yn darparu cymorth gwell yn 2018-19, yn amodol ar y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud. Bydd hyn yn cael ei ffurfio o fenthyciad uwch o £13,000, a fydd ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn dewis astudio yn y DU. Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydliadau yng Nghymru, drwy CCAUC, i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n dewis astudio yng Nghymru, a disgwylir y bydd hyn yn cyfateb i tua £4,000 fesul myfyriwr.

Mae UCMC i'w longyfarch am roi’r ddadl dros fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, ac nid dim ond y myfyrwyr traddodiadol 18 oed. Mae'n amlwg i mi mai dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig yw her gyfoes ein difrifoldeb wrth ehangu mynediad. Mae'n anffodus bod gostyngiad o 14 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Wrth i ni nesáu’n gyflym at ddyfodol a gaiff ei ffurfio gan arloesi a diwydiant uwch-dechnoleg, mae'n ddyletswydd arnom i wella cyfleoedd rhan-amser ac ôl-raddedig.

Felly, ac yn unol â'r cyhoeddiad a gynhwysir yng nghyllideb Llywodraeth y DU, rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun benthyciadau doethuriaeth ôl-raddedig o 2018-19 ymlaen. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru yn gallu benthyg hyd at £25,000 fel benthyciad heb brawf modd. Ond, yn union fel yr wyf yn ddigon pragmatig i geisio manteision o fentrau Lloegr pan fydd yn gwneud synnwyr i wneud hynny, rwyf hefyd yn gwybod bod datblygiadau ar draws y ffin yn dod â chanlyniadau eraill i’n hamgylchedd gweithredu. Mae angen setliad cyllido addysg uwch sefydlog, cynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fydd ei angen fwyaf arnynt, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

Gallaf felly gadarnhau oherwydd y gostyngiad yng ngwerth termau real ffioedd dysgu, y rhagolygon ar gyfer cyllidebau Llywodraeth Cymru, a'r pwysau ariannol a chystadleurwydd cymharol ein prifysgolion, y byddwn yn dychwelyd at y polisi a oedd yn bodoli cyn 2012 o uchafswm lefel y ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf. Bydd hyn, wrth gwrs, yn parhau i gael ei dalu drwy system benthyciad a gefnogir yn gyhoeddus gydag ad-daliadau sy'n amodol ar incwm yn cael eu gwneud dim ond ar ôl graddio.

Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi gosod her flaenorol i brifysgolion ar y cyflog byw a’u synnwyr o gyfrifoldeb dinesig. Felly, ar ôl cadarnhau bellach y bydd myfyrwyr yn cael cymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol, mae'n bleser gennyf gydnabod cyhoeddiad Prifysgolion Cymru y bydd holl brifysgolion Cymru yn dod yn gyflogwyr cyflog byw, ac maent hefyd wedi cadarnhau y byddant yn ymrwymo i god ymarfer y Llywodraeth ar gaffael moesegol a chyflogaeth. Mae hyn yn dangos yn glir bod ein system addysg yn seiliedig ar werthoedd ecwiti, rhagoriaeth a chyfrifoldeb dinesig, ac rwy'n disgwyl gweld datblygiadau pellach yn ymrwymiad y sector i genhadaeth ddinesig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Llywydd, mae ein system newydd flaengar a theg yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn cefnogi myfyrwyr a'n sefydliadau. Drwy fuddsoddi yn llwyddiant myfyrwyr amser llawn, rhan-amser ac ôl- raddedig, Cymru fydd yr unig wlad yn Ewrop i fod wedi gallu cymryd y cam mawr hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn dal potensial, a gwneud y mwyaf o botensial ein holl ddinasyddion a phob cwr o’n gwlad.