– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gymorth i fyfyrwyr yn 2018-19 a chyhoeddi crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad ar weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Diamond, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Yn wir, mae’n deitl hir, Llywydd, ac mae'n mynd i fod yn ddatganiad eithaf hir hefyd. Llywydd, rwy'n falch iawn, heddiw, y gallwn gadarnhau ein bod ni yng Nghymru yn gallu trosi egwyddorion tegwch a rhagoriaeth yn ddiwygiadau radical a rhesymegol o gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch.
Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i adroddiad terfynol Diamond a lansiais ymgynghoriad ar ein dull gweithredu. Rwyf bellach yn gallu cyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion hynny i'r ymgynghoriad a chadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru; cadarnhau'r pecyn cymorth sydd ar gael i israddedigion amser llawn, israddedigion rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig o ddechrau blwyddyn academaidd 2018-19; cadarnhau uchafswm lefelau'r ffioedd dysgu y gall sefydliadau yng Nghymru eu codi am gyrsiau israddedig amser llawn; ac amlygu ymdrechion prifysgolion Cymru wrth i’n sector gadarnhau mai hwn fydd y cyntaf yn y DU i fod yn sector cyflog byw.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol am ein bwriad i gyflwyno, gyda dim ond mân addasiadau, y pecyn Diamond llawn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad, ac i'n rhanddeiliaid sydd wedi bod yn awyddus i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau yr wyf yn credu fydd yn feincnod ar gyfer cenhedloedd a systemau eraill. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gwaith i'w wneud wrth gyfathrebu’r system newydd. Yn benodol, mae'n rhaid i ni roi sicrwydd i rieni bod y newid sylfaenol i gefnogi myfyrwyr gyda chostau o ddydd i ddydd, yn hytrach nag ad-dalu ffioedd ar ôl graddio, yn mynd i'r afael â'r union bryderon y maent yn aml yn eu codi. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r prifysgolion, awdurdodau cyllid myfyrwyr ac eiriolwyr allweddol ar y mater hwn. Byddaf yn lansio ymgyrch gyfathrebu i hyrwyddo system newydd o gymorth yn yr hydref a byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelodau yma yn derbyn yr her honno. Mae copi o'r adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sydd hefyd yn cynnwys cadarnhad o’n cynigion terfynol, wedi cael ei roi yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar ôl trafod ein cynigion gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a Thrysorlys Ei Mawrhydi, rwy’n falch o gadarnhau, yn amodol ar reoliadau a wneir, y byddwn yn cyflwyno’r pecynnau canlynol o gymorth i fyfyrwyr sy'n cychwyn blwyddyn gyntaf eu cwrs yn y flwyddyn academaidd 2018-19. I fyfyrwyr israddedig amser llawn a rhan-amser, bydd system newydd decach a chynaliadwy o gymorth yn cael ei chyflwyno. Bydd cymorth ychwanegol ar gael i sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o arian i dalu am eu costau byw o ddydd i ddydd. Bydd gan bob myfyriwr yr hawl i gael cymorth sy’n gyfwerth â'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio. Bydd hyn yn golygu y bydd myfyrwyr llawn amser cymwys yn derbyn cymorth cynhaliaeth o £11,250 os ydynt yn astudio yn Llundain a £9,100 y flwyddyn yng ngweddill y DU.
Bydd cymorth grant yn cael ei dargedu at y rhai sydd â'r angen mwyaf, er y bydd pob myfyriwr yn cael isafswm grant o £1,000 waeth beth yw incwm y cartref. Bydd myfyrwyr o’r cartrefi incwm isaf yn derbyn y grant uchaf: hyd at £10,250 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU. Mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd un rhan o dair o fyfyrwyr amser llawn yn gymwys am y grant llawn. Incwm y cartref ar gyfartaledd i fyfyriwr yn y system bresennol yw tua £25,000. Dan y system newydd, bydd myfyriwr o'r fath yn derbyn oddeutu £7,000 y flwyddyn mewn grantiau nad ydynt yn ad-daladwy. Am y tro cyntaf, bydd myfyrwyr israddedig rhan-amser yn derbyn yr un cymorth ar gyfer costau cynhaliaeth ar sail pro rata i'w cymheiriaid llawn amser.
Hoffwn ddiolch i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu gwaith caled, eu diwydrwydd a’u dychymyg wrth inni gyrraedd y pwynt lle’r ydym wedi gallu cyflawni'r rhaglen sylweddol hon o ddiwygio. Rwy'n hyderus ein bod wedi sefydlu perthynas gref sy'n cyflawni dros Gymru a'n dinasyddion.
Fel y cyhoeddais yn flaenorol, rydym hefyd wedi derbyn argymhellion adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd y system newydd o gymorth, a fydd yn dod â’r un cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn academaidd 2019-20. Fodd bynnag, er mwyn cydnabod y bydd y newidiadau ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno yn hwyrach na’r newidiadau ar gyfer myfyrwyr israddedig, byddaf yn darparu cymorth gwell yn 2018-19, yn amodol ar y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud. Bydd hyn yn cael ei ffurfio o fenthyciad uwch o £13,000, a fydd ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn dewis astudio yn y DU. Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydliadau yng Nghymru, drwy CCAUC, i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n dewis astudio yng Nghymru, a disgwylir y bydd hyn yn cyfateb i tua £4,000 fesul myfyriwr.
Mae UCMC i'w longyfarch am roi’r ddadl dros fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, ac nid dim ond y myfyrwyr traddodiadol 18 oed. Mae'n amlwg i mi mai dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig yw her gyfoes ein difrifoldeb wrth ehangu mynediad. Mae'n anffodus bod gostyngiad o 14 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Wrth i ni nesáu’n gyflym at ddyfodol a gaiff ei ffurfio gan arloesi a diwydiant uwch-dechnoleg, mae'n ddyletswydd arnom i wella cyfleoedd rhan-amser ac ôl-raddedig.
Felly, ac yn unol â'r cyhoeddiad a gynhwysir yng nghyllideb Llywodraeth y DU, rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun benthyciadau doethuriaeth ôl-raddedig o 2018-19 ymlaen. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru yn gallu benthyg hyd at £25,000 fel benthyciad heb brawf modd. Ond, yn union fel yr wyf yn ddigon pragmatig i geisio manteision o fentrau Lloegr pan fydd yn gwneud synnwyr i wneud hynny, rwyf hefyd yn gwybod bod datblygiadau ar draws y ffin yn dod â chanlyniadau eraill i’n hamgylchedd gweithredu. Mae angen setliad cyllido addysg uwch sefydlog, cynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fydd ei angen fwyaf arnynt, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Gallaf felly gadarnhau oherwydd y gostyngiad yng ngwerth termau real ffioedd dysgu, y rhagolygon ar gyfer cyllidebau Llywodraeth Cymru, a'r pwysau ariannol a chystadleurwydd cymharol ein prifysgolion, y byddwn yn dychwelyd at y polisi a oedd yn bodoli cyn 2012 o uchafswm lefel y ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf. Bydd hyn, wrth gwrs, yn parhau i gael ei dalu drwy system benthyciad a gefnogir yn gyhoeddus gydag ad-daliadau sy'n amodol ar incwm yn cael eu gwneud dim ond ar ôl graddio.
Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi gosod her flaenorol i brifysgolion ar y cyflog byw a’u synnwyr o gyfrifoldeb dinesig. Felly, ar ôl cadarnhau bellach y bydd myfyrwyr yn cael cymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol, mae'n bleser gennyf gydnabod cyhoeddiad Prifysgolion Cymru y bydd holl brifysgolion Cymru yn dod yn gyflogwyr cyflog byw, ac maent hefyd wedi cadarnhau y byddant yn ymrwymo i god ymarfer y Llywodraeth ar gaffael moesegol a chyflogaeth. Mae hyn yn dangos yn glir bod ein system addysg yn seiliedig ar werthoedd ecwiti, rhagoriaeth a chyfrifoldeb dinesig, ac rwy'n disgwyl gweld datblygiadau pellach yn ymrwymiad y sector i genhadaeth ddinesig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Llywydd, mae ein system newydd flaengar a theg yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn cefnogi myfyrwyr a'n sefydliadau. Drwy fuddsoddi yn llwyddiant myfyrwyr amser llawn, rhan-amser ac ôl- raddedig, Cymru fydd yr unig wlad yn Ewrop i fod wedi gallu cymryd y cam mawr hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn dal potensial, a gwneud y mwyaf o botensial ein holl ddinasyddion a phob cwr o’n gwlad.
A gaf i ddweud diolch wrth Ysgrifennydd y Cabinet am roi rhybudd ymlaen llaw am ei datganiad, ac am gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, hefyd, i'r ymgynghoriad ar safbwynt Llywodraeth Cymru? Mae'n amserol iawn fod hyn yn cael ei wneud, yn enwedig cyn toriad yr haf, oherwydd, wrth gwrs, bydd pobl ifanc eisiau paratoi ar gyfer blynyddoedd academaidd y dyfodol, ac yn meddwl am eu dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar bod rhywfaint o eglurder wedi’i ddarparu heddiw o safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion, yn enwedig ynghylch cychwyn y drefn newydd yn 2018. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r uchelgais o allu cyflwyno'r system gymorth newydd erbyn y dyddiad penodol hwnnw.
A gaf i groesawu, hefyd, y gydnabyddiaeth barhaus fod angen yr un cymorth yn gyfan gwbl i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr amser llawn? Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, na chafwyd o'r blaen, ac rwy’n gwybod bod llawer o bobl, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr addysg uwch fel y Brifysgol Agored, wedi bod yn galw am yr eglurder a’r cydraddoldeb hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny hefyd.
Rwyf hefyd yn awyddus i groesawu’n fawr iawn y gefnogaeth sydd yn mynd i fod ar waith ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn hwyr iawn yn egluro ei threfniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi. Dim ond mis Chwefror eleni oedd hi, credaf, pan wnaethoch egluro’r trefniadau hynny, a oedd yn gwbl annerbyniol, â dweud y gwir, i bobl sydd am wneud cynlluniau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. Felly mae'n braf gwybod bod ychydig yn fwy o eglurder, yn sicr am sefyllfa 2018-19, ac y gall pobl ddechrau gwneud eu cynlluniau mewn cysylltiad â hynny. Ond tybed pam mae’r system newydd o gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig yn mynd i gael ei rhoi ar waith yn hwyrach nag i fyfyrwyr eraill. Pam ei bod 12 hyn hwyrach? Nid ydych yn esbonio hynny yn eich datganiad, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cael y rheswm am hynny ar gofnod.
Credaf na ddylai fod yn syndod i ni ein bod wedi gweld gostyngiad o 14 y cant yn y nifer o ôl-raddedigion a addysgir yng Nghymru. Mae hynny oherwydd na fu unrhyw gefnogaeth iddynt hyd nes y flwyddyn academaidd hon. Ac, wrth gwrs, rydym wedi cael y diffyg eglurder hwnnw, fel yr wyf newydd ei nodi. Gwn nad yw hynny i gyd yn ystod eich gwyliadwriaeth chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n ffaith, ac felly nid yw'n syndod i mi ein bod yn colli ôl-raddedigion—neu rydym wedi bod yn eu colli yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n gobeithio y bydd eich cyhoeddiad heddiw yn golygu bod modd newid y sefyllfa, er fy mod yn credu y gall gymryd peth amser.
Rwyf hefyd yn falch iawn nad ydych yn syml yn gwrthod pethau sy'n digwydd dros y ffin, ond pan fydd pethau synhwyrol yn digwydd rydych hefyd yn ceisio eu hefelychu. Felly, roeddwn yn falch iawn o weld hynny hefyd.
Yn fy marn i mae’n bwysig cael rhywfaint o sefydlogrwydd i'r sefyllfa ffioedd dysgu. Sylwaf eich bod wedi dweud eich bod am fynd yn ôl at y polisi cyn 2012 o gysylltu ffioedd â chwyddiant. Ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych wedi meddwl am oblygiadau posibl hynny, pe digwydd bod newid sylweddol i ffioedd mewn mannau eraill yn y DU, naill ai i fyny neu i lawr—ac rwy’n amau mai i fyny sydd fwy tebygol. Ond os mai dyna fydd eich sefyllfa am dair blynedd, a ydych yn dal yn mynd i fod yn ymrwymedig i hynny os oes newid sylweddol mewn mannau eraill, a allai, wrth gwrs, yn y pen draw fod yn anfantais i brifysgolion Cymru?
Nodais yn sylwadau’r ymgynghoriad fod awgrym y gallai'r drefn newydd edrych ar hoelio’r system cymorth cynhaliaeth, nid i'r cyflog byw cenedlaethol ond o bosibl i ffigur y Living Wage Foundation o ran cefnogaeth. Tybed a allech chi egluro a oedd hynny'n rhywbeth yr ydych wedi’i ystyried fel rhan o'ch swydd; ac os ydych, pam nad ydych yn ceisio symud tuag at hynny dros gyfnod o amser?
Yn ogystal â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod rhai pethau nad ydych wedi cyfeirio atynt, ac rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cael rhywfaint o eglurder arnynt. Roedd llawer o ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cyfeirio at y canol gwasgedig—yr unigolion a allai fod ar yr ymylon o ran y lefel o incwm sydd ganddynt, ychydig dros y trothwy incwm efallai, neu'r unigolion hynny a allai fod â mwy nag un plentyn yn mynd drwy'r system brifysgolion ar yr un pryd, a'r anawsterau a'r heriau y gallai hynny beri iddynt hwy o ran cefnogi eu dibynyddion. Tybed a allech ddweud unrhyw beth ynghylch eich ystyriaeth o bobl yn y sefyllfa honno, ac a all fod cyfle i edrych eto ar y system gymorth, fel ei bod yn cydnabod yr anawsterau y gallai’r teuluoedd hynny fod ynddynt.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi cyfeirio at yr unigolion hynny a allai fod wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni a'u teuluoedd, ac felly byddai'n amhriodol rhoi ystyriaeth i’w hincwm teuluol nhw er mwyn penderfynu pa lefel o gymorth y gallai’r unigolion hynny ei chael. Nid ydych wedi cyfeirio at hynny o gwbl yn eich datganiad heddiw. Nid ydych wedi egluro eich safbwynt ar sut yr ydych yn bwriadu sicrhau y gallai unigolion sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd gael mynediad at addysg uwch drwy gyfrwng y drefn newydd, a byddai o gymorth pe gallech roi rhywfaint o eglurhad ar hynny inni.
Hefyd, cafwyd galwad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i chi ystyried pa gymorth y gallech fod yn gallu ei roi i bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n tangyflawni sydd â chynrychiolaeth isel a chyfran isel o unigolion sy'n mynd i'r brifysgol, a’r gymuned Sipsiwn / Teithwyr. Tybed a allech roi sylwadau ynghylch a allai fod cefnogaeth benodol wedi ei neilltuo y gallech chi fel Llywodraeth ei sicrhau fydd ar gael i unigolion yn y sefyllfaoedd hynny.
Grŵp arall sydd dan anfantais dan y system bresennol, wrth gwrs, yw'r rhai dros 60 oed, sy'n wynebu gwahaniaethu o ran eu gallu i gael gafael ar gymorth. Os ydynt yn mynd i fod yn cwblhau eu cyrsiau ar ôl eu pen-blwydd yn drigain oed, nid oes cymorth ar gael iddynt o gwbl. Tybed a allwch chi ddweud a ydych yn mynd i wneud unrhyw beth i fynd i'r afael â’r gwahaniaethu hwnnw yn erbyn pobl hŷn. Ac, yn olaf, mae’r cwestiwn am fwrsariaethau. Unwaith eto, roedd llawer iawn o sylwadau yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch bwrsariaethau y mae modd eu cael, yn enwedig bwrsariaethau nyrsio. Ond, wrth gwrs, rwy’n gwybod eich bod wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet yn edrych ar fwrsariaethau eraill y gallech fod yn gallu eu hymestyn. Tybed a allwch roi unrhyw eglurhad ar hirhoedledd bwrsariaethau nyrsio a pha fwrsariaethau eraill y gallech fod yn ystyried eu cyflwyno i'r drefn newydd. Diolch.
Dyna restr hir o gwestiynau, Llywydd, felly byddaf yn ceisio mynd drwyddynt mor gyflym â phosibl. Rwy'n credu mai’r cydraddoldeb rhwng y dulliau o astudio yw’r hyn sy'n gwneud y pecyn cymorth hwn mor bwysig ac unigryw, ac rwy’n credu y bydd yn destun y bydd cenhedloedd eraill yn edrych arno i weld beth mae Cymru wedi ei wneud. Yn wir, mae’r Alban eisoes wedi ymrwymo i adolygu eu system eu hunain ac yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. O ran pam mae’r rhaglen ôl-raddedig yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach, mae hynny oherwydd, er gwaethaf gwaith caled a diffuant iawn sydd wedi cael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, nid ydynt wedi gallu gwneud yr holl newidiadau angenrheidiol mewn pryd. Felly, mae cefnogaeth ôl-raddedig yn dod ar-lein i'r system ffurfiol flwyddyn yn ddiweddarach. Ond byddwch yn gweld o fy natganiad nad oeddwn yn barod i adael myfyrwyr ôl-raddedig mewn ansicrrwydd. Bydd benthyciadau ar gael o’r flwyddyn academaidd newydd, 2017, i fynd i'r afael â'r mater na fu dim cefnogaeth o'r blaen, a bod hynny wedi rhoi myfyrwyr Cymru dan anfantais. Rwyf wedi defnyddio'r cyfle cyntaf posibl, gan ymgymryd â’r swydd hon, i fynd i'r afael â hynny. Ond, ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn 2018-19, bydd arian yn cael ei gyfeirio drwy CCAUC i brifysgolion Cymru i gefnogi astudio ôl-raddedig. Yn bwysig iawn, bydd hynny ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis astudio mewn sefydliad yng Nghymru, a byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar yr effaith y bydd y polisi hwnnw yn ei chael ar beth arall yr hoffem ei wneud efallai i gymell myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru.
Mae hynny'n dod yn ôl at y pwynt y cyfeiriwyd ato gennych yn briodol wrth gloi, o ran bwrsariaethau. Byddwch yn ymwybodol fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi gweithio'n galed iawn i greu system bwrsariaeth ar gyfer nyrsys sy'n gwobrwyo’r bobl hynny sy'n astudio yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ymrwymo i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr enghraifft honno. Er enghraifft, rwy'n awyddus iawn i edrych ar fater llwybrau ADY i addysgu, os ceir ymrwymiad i hyfforddi yng Nghymru, ac yna i aros a gweithio yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio'r flwyddyn interim hon o gymorth ôl-raddedig i edrych ar y dystiolaeth ac i adeiladu ar yr hyn y gallem ei wneud yn hynny o beth.
Mae'n wir dweud, Darren, na allwn weithredu ar wahân i benderfyniadau sy'n cael eu cymryd ar draws y ffin, oherwydd y llif myfyriwr yn ôl ac ymlaen. Byddai’n dda gennyf pe byddai’n wahanol, ond mae'n rhaid i mi ymdrin â'r realiti yr wyf ynddo. Os oes newidiadau sylweddol i systemau cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch ar draws y ffin, yna, yn amlwg, byddaf yn cymryd hynny i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau am sefyllfaoedd yma. Ond byddai'n rhyfygus i feddwl nad ydym yn gweithredu yn y sector AU ar draws ffin Cymru a Lloegr, ac, mewn gwirionedd, yn cystadlu yn rhyngwladol, oherwydd natur y sector.
Mae’r cyflog byw—y math o gyflog byw a fydd yn cefnogi’r myfyrwyr—yn unol ag argymhellion Diamond. Dyna lle’r ydym yn symud ymlaen yn hynny o beth. Myfyrwyr annibynnol—os ydynt yn wirioneddol annibynnol ar eu teuluoedd, byddant yn cael eu barnu ar eu hincwm eu hunain. Bydd angen iddynt ddangos eu bod yn wirioneddol annibynnol. Ni fydd unrhyw gymorth penodol ar gyfer agweddau ar y gymuned BME neu'r Sipsiwn / Teithwyr ar hyn o bryd. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae hon yn system sy'n seiliedig, yn gyffredinol, ar incwm y cartref. Fel y dywedais yn fy natganiad, rydym yn rhagweld y bydd traean o fyfyrwyr Cymru, waeth o ble maent yn dod yng Nghymru, â’r hawl i gael taliad grant llawn. Yn wir, oherwydd y cyflogau cymharol isel yng Nghymru, bydd y myfyriwr Cymreig ar gyfartaledd yn derbyn grant o £7,000 y flwyddyn i'w helpu gyda'i gostau byw, na fydd yn rhaid iddo ei ad-dalu. Gyda golwg ar bobl dros 60 oed, mae’r polisi yn unol â'r hyn a ddilynir yn Lloegr.
Diolch, Ysgrifennydd, am eich datganiad chi. Nid ydw i’n meddwl ei fod yn mynd â ni i gyfeiriad annisgwyl. Mae llawer o’r hyn rŷch chi wedi ei ddweud yn gadarnhad efallai o’r hyn rŷch chi wedi ei amlinellu i ni yn flaenorol. Ac mae yn dda cael y cadarnhad yna, yn enwedig gan fod prifysgolion a myfyrwyr, wrth gwrs, wedi bod yn chwilio am yr eglurder yna mewn pryd ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y misoedd sydd i ddod.
Wrth gwrs, y cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol fan hyn yw’r ffaith bod uchafswm y ffioedd dysgu nawr yn mynd i fod yn codi gyda chwyddiant, ac rŷch chi’n gwneud y cyhoeddiad yna er ei fod yn rhywbeth rŷch chi wedi ei wrthod yn y gorffennol, a byddwn i’n licio gofyn i chi felly esbonio beth sydd wedi newid, oherwydd, dim ond rhyw fis neu ddau yn ôl, roeddech chi’n dweud mai dyna oedd y polisi fan hyn yn y Siambr, a byddwn i’n licio gwybod beth sydd wedi newid eich meddwl chi. Oherwydd canlyniad hyn yw y bydd dyledion myfyrwyr yn cynyddu o’r lefelau echrydus o uchel rŷm ni’n eu gweld yn barod, ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod lefel y llog sy’n cael ei dalu ar y benthyciadau yma yn uwch nag unrhyw log mae nifer ohonom ni’n ei dalu ar forgeisi ar hyn o bryd.
Mae’r penderfyniad yma’n cael ei wneud ar adeg pan fo’r drafodaeth ynglŷn â holl ddyfodol y ffioedd dysgu yma yn fyw iawn, gyda’r Arglwydd Adonis hyd yn oed yn dweud bod ffioedd dysgu yn wleidyddol farw, yn ‘politically dead’, yn ei eiriau fe—wel, yn amlwg, nid yng Nghymru. Er bod gennym ni faniffesto gan y Blaid Lafur rai wythnosau yn ôl a oedd yn dweud y buasen nhw’n sgrapio ffioedd, mae nawr gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd yn cydsynio i weld lefel y ffioedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae meddwl eich bod chi’n hapus i roi’r baich ychwanegol yna ar fyfyrwyr yn siomedig a dweud y lleiaf. Rydw i’n nodi ac yn rhannu siom Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn hynny o beth, yn enwedig o gofio, wrth gwrs, fod yr IFS hefyd yn dweud wrthym ni fod dyledion mor uchel nawr na fydd tri chwarter o’r graddedigion fyth yn talu yn ôl yn llawn y ddyled. Felly, mae yna gwestiynau ehangach, rydw i’n meddwl, sydd angen eu hystyried yn fan hyn hefyd.
Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth roesoch chi i opsiynau amgen, yn hytrach na thaflu’r baich ychwanegol yma ar y myfyrwyr? Onid oedd yna unrhyw bosibilrwydd y byddai modd defnyddio HEFCW efallai i gwrdd â chostau cyrsiau drutach yn lle, fel rydw i’n dweud, daflu’r bach ar ysgwyddau’r myfyrwyr? Ac a gawn ni hefyd eglurder ynglŷn â phryd a phwy a fydd yn gorfod talu’r ffioedd ychwanegol yma? A ydyw e’n gynnydd a fydd yn cychwyn fel y bydd myfyrwyr yn cychwyn eu cyrsiau o 2018 ymlaen, neu a ydy hwn yn rhywbeth a fydd yn daladwy gan fyfyrwyr sydd eisoes yn y system ac eisoes yn ymgymryd â’u hastudiaethau? Mi fyddai eglurder yn help.
Rydw i’n croesawu’r ymrwymiad i gyflogau byw, wrth gwrs, yn ein prifysgolion ni, ond mae yna bach o eironi fan hyn, oherwydd dyma un o’r sectorau gyda’r bwlch mwyaf mewn cyflogau oddi mewn iddo fe, a thra ei bod hi’n iawn ein bod ni’n edrych ar lefel cyflogau’r rhai sydd ar waelod y ‘scale’, rydw i yn meddwl bod yn rhaid inni edrych ar ben arall y ‘scale’ hefyd a bod angen gwneud mwy i gau’r bwlch yna, a byddwn i yn licio clywed eich barn chi ynglŷn â hynny.
Rŷch chi wedi sôn yn flaenorol am ryw fath o beilot o safbwynt y gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr i sicrhau ei bod hi’n ‘portable’ ac yn drosglwyddadwy o fewn y Deyrnas Unedig, ond hefyd y tu hwnt, yn yr Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i hynny. Mi fyddwn i’n falch o ddiweddariad ynglŷn â lle rŷm ni arni ar hynny.
Nid oes cyfeiriad at y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fan hyn. Rydw i’n gwybod bod yna gymhellion, wrth gwrs, yn Diamond, ac rydw i’n gwybod bod yna waith yn digwydd ar y ffrynt yna, a byddwn i’n licio eglurder ynglŷn â phryd a gawn ni wybod mwy am newidiadau posibl o safbwynt ColegauCymru ac yn sicr cynaladwyedd ariannol—sori, Coleg Cymraeg ddylwn i ddweud, nid ColegauCymru.
Ac, wrth gwrs, ni fyddai dim un datganiad ynglŷn â Diamond yn gyflawn heb fy mod i’n holi ynglŷn â’r argymhelliad o fod â chynlluniau gerbron i annog graddedigion i aros neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio er mwyn sicrhau y gwerth gorau i economi Cymru o fuddsoddiad y trethdalwyr. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba ystyriaethau pellach rŷch chi wedi eu rhoi i hyn, a phryd y cawn ni fwy o fanylion mewn ymateb i’r argymhelliad a oedd yn Diamond ar y mater yma?
Diolch yn fawr iawn, Llyr, am y cwestiynau yna. O ran pennu lefelau ffioedd, yr hyn yr wyf bob amser wedi’i ddweud yn gyson yn y Siambr hon yw y byddaf yn cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth wrth fynd i'r afael â’r pwynt hwnnw. Mae’r ffactorau hynny wedi cynnwys sefyllfa cyllid Llywodraeth Cymru ei hun, yr effaith ar fyfyrwyr, ac, yn wir, sefyllfa cyllid y sector yn ei gyfanrwydd. Dim ond yn gynharach heddiw, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, cawsom un o'ch cydweithwyr yn siarad am yr heriau ym Mangor, a’r posibilrwydd o golli swyddi ym Mangor. Mae eich cydweithiwr sy’n eistedd nesaf atoch chi, Simon Thomas, yn aml yn pryderu—yn briodol felly—am golledion swyddi yn y sector addysg uwch yn ei ardal ei hun, ac rwyf wedi gorfod ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys penderfyniadau a wnaed ar draws y ffin yn Lloegr, gyda golwg ar lefelau ffioedd. Ond yr hyn sy'n bwysig ei gofio, yn fy marn i, yw bod benthyciadau ffioedd ond yn daladwy ar ôl graddio, a dim ond pan fydd y graddedigion yn ennill £21,000, ac y cânt yn wir eu dileu ar ôl 30 mlynedd. Felly, y bobl hynny sy'n elwa fwyaf yn economaidd o fynd ymlaen i gwrs addysg uwch sy’n talu'r mwyaf yn ôl. Mae myfyrwyr o Gymru hefyd yn unigryw yn yr ystyr eu bod yn gymwys i hyd at £1,500 i gael ei ddileu oddi ar falans eu benthyciadau pan fyddant yn dechrau ar raglen ad-dalu. Mae hynny’n unigryw i Gymru, ac mae'n fwriad gennyf barhau i wneud hynny.
Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch gwaith yr UCM gyda golwg ar ‘Y Bunt yn Eich Poced', a'r pryderon y mae myfyrwyr wedi’u mynegi, teuluoedd wedi’u mynegi, mai’r costau byw o ddydd i ddydd yw’r rhwystr pennaf i’r rheini sy'n mynd ymlaen i astudio ar lefel addysg uwch ac, yn hollbwysig, yn aros mewn addysg uwch. Os ydych yn edrych ar y sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr, lle nad oes grantiau ar gael—waeth beth yw eich cefndir, nid oes unrhyw gymorth ariannol ar gyfer costau byw o ddydd i ddydd—myfyrwyr o gefndir tlotach sy'n anghymesur yn gadael ar ôl eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Nid wyf i byth—byth—eisiau gweld myfyriwr Cymraeg sy'n gallu cynnal i hunan yn academaidd ar gwrs addysg uwch yn gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd costau byw o ddydd i ddydd. Rydym yn unigryw—yn unigryw—yn y system yr ydym yn ei chyflwyno i fyfyrwyr o Gymru heddiw.
O ran y maniffesto Llafur, nid yw'n fater i mi i amddiffyn maniffesto’r Blaid Lafur. Ond roedd maniffesto Llafur Cymru yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd yn dweud na fyddai myfyrwyr o Gymru yn cael eu rhoi dan anfantais ac y byddent yn well eu byd na myfyrwyr yn Lloegr, ac mae’r ymrwymiad maniffesto hwnnw, ynghyd ag ymrwymiad maniffesto ein plaid ni, yn cael ei anrhydeddu yma heddiw. Bydd ffioedd Cymru yn dal i fod yn is mewn prifysgolion yng Nghymru na'r rhai y mae myfyrwyr o Gymru yn eu talu mewn sefydliadau yn Lloegr ac y mae myfyrwyr o Gymru yn eu talu i fynychu prifysgolion yr Alban. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch hynny.
Llyr, fe wnaethoch chi ddyfynu’r IFS. Wel, gadewch i mi fod yn glir ynghylch yr hyn y mae'r IFS wedi'i ddweud am gyllid i fyfyrwyr, a dyfynnaf:
byddai dod â grantiau cynhaliaeth yn ôl yn fantais gan y byddai’n caniatáu i’r llywodraeth dargedu myfyrwyr neu gyrsiau penodol sydd â manteision ehangach i gymdeithas ... dylai’r llywodraeth— roeddent yn cyfeirio at San Steffan— roi mwy o bwysau ar yr olaf yn hytrach na'r cyntaf, h.y. lleihau ffioedd. Dyna'r dull y dylent ei gymryd wrth lunio polisïau. Rydym yn gwneud yn union yr hyn y mae’r arbenigwyr annibynnol yn dweud y mae angen i ni ei wneud yn y wlad hon.
Gyda llaw, o ran ffioedd cysylltiedig â chwyddiant, dyna'n union yr hyn a wnaeth eich plaid pan oeddech chi mewn Llywodraeth yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyna'n union yr hyn a wnaethoch. [Torri ar draws.] Mae'n union yr hyn—[Torri ar draws.] Mae'n union yr hyn a wnaethoch. [Torri ar draws.] Gwir, Simon. Gwir. Gwir iawn, Simon. Mae'n wir iawn, iawn. Y lefel ffi— [Torri ar draws.] Ac rwy'n siŵr, Simon, pan oeddech chi’n gynghorydd arbennig yn y Llywodraeth, gwnaethoch chi hynny am yr un rhesymau ag yr wyf fi’n ei wneud heddiw, i gefnogi'r sector.
Bydd y ffioedd— [Torri ar draws.] Bydd y ffioedd— [Torri ar draws.]Pe cawn fwrw ymlaen i ateb gweddill cwestiynau Llyr, bydd y ffioedd yn berthnasol i'r garfan gyfan o 2018-19 ymlaen. O ran y cyflog byw, a gaf i ddweud fy mod yn falch iawn o gyhoeddiad Prifysgolion Cymru ddoe mai Cymru fydd y sector addysg uwch cyntaf i fod yn gyflogwr cyflog byw? Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd, hyd yn hyn, ac eithrio Prifysgol Caerdydd a'r Brifysgol Agored, nid oedd hynny'n wir. Mae hyn yn newyddion da i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y sector sy'n gweithio yn y sefydliadau ar hyd a lled Cymru, ac nid yw ond yn iawn ein bod yn gwneud hynny. Ni allwn ddadlau dros gyflog byw ar gyfer myfyrwyr pan nad yw’r bobl sy'n glanhau’r darlithfeydd, y neuaddau preswyl a’r toiledau yn cael eu trin yn yr un ffordd. Rwyf wrth fy modd—rwyf wrth fy modd, wrth fy modd—bod Prifysgolion Cymru wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn pan nad ydynt wedi bod yn barod i wneud hynny. Ond mae rhagor i'w wneud—mae rhagor i'w wneud yn ddiamod—o ran tryloywder â'r lefelau cyflog uwch yn y sefydliadau, ac rwy’n dal i gael deialog gynhyrchiol iawn â Phrifysgolion Cymru am bwysigrwydd y mater hwn, tryloywder ar y mater hwn, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn ôl yn y Siambr cyn bo hir i wneud cyhoeddiad cadarnhaol arall yn hynny o beth. Byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda nhw.
Mae’r Aelod yn sôn am ddyfodol y coleg. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rwyf wedi tynnu’r gyllideb ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol allan o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eleni er mwyn diogelu cyllid ar gyfer y gwaith pwysig iawn y mae’r coleg yn ei wneud, oherwydd fy mod yn poeni, yn sgil y pwysau ar gyllid AU, efallai y gallai gwaith y coleg gael ei danseilio. Felly, rydym wedi cymryd camau penodol i ddiogelu’r arian hwnnw yn y flwyddyn hon, ac rwy’n disgwyl yn eiddgar am adroddiad Delyth Evans a fydd yn rhoi cyngor annibynnol i’r Llywodraeth hon ar ddyfodol y coleg, a sut y dylai swyddogaeth y coleg gael ei datblygu yn y dyfodol.
Gyda golwg ar y mater hwn o gael pobl i ddod yn ôl i Gymru, mae pethau y tu allan i fy mhortffolio y mae angen i ni eu gwneud. Mae angen cyfleoedd swyddi fel y gall y bobl hynny ddod yn ôl i Gymru. Mae angen tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru, fel y gall pobl ddod yn ôl a fforddio prynu tai a magu eu teuluoedd yno. Ond mae ein hymrwymiad i hyn yn gwbl glir wrth inni sefydlu ein mesurau benthyciadau ôl-raddedig interim. Bydd y benthyciadau ôl-raddedig—. Nid benthyciadau, mae’n ddrwg gen i; gall pawb gael benthyciad. Bydd y mesurau grantiau ôl-raddedig ar gael yn unig i'r bobl hynny sy'n dod yn ôl i astudio yng Nghymru. Ac mae hynny’n ymrwymiad ac yn arwydd o sut yr wyf yn dymuno gallu defnyddio adnoddau cyhoeddus i gymell y rhai a fydd yn dod yn ôl ac yn cyfrannu. Fel y dywedais wrth ateb Darren Millar, rydym eisoes yn gweithio gyda Vaughan Gething yn hynny o beth o ran nyrsys. Rwy’n bwriadu edrych i mewn i hyn o ran anghenion dysgu ychwanegol a chyfleoedd eraill.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi cyhoeddi y caiff myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn eu trin yr un fath, a hefyd israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig. Hoffwn fynegi fy niolch i hefyd, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am ymladd y frwydr gyfiawn ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig am gyfnod mor hir. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynnig y dylid cefnogi astudiaethau doethuriaeth. Fodd bynnag, ni allaf weld sut mae cynnig £1,000 am bob myfyriwr, waeth beth yw’r incwm, yn gam cadarnhaol ymlaen. Efallai fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y gallwn fod yn siarad am swm cymharol fach o arian yma, ond gellid gwario’r arian hwnnw mewn mannau eraill yn y system addysg, fel gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i ysgol wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno yn gyson nad ydynt yn cael digon o arian, eto gallwch ddod o hyd i'r arian i roi'r rhodd hon i fyfyrwyr o deuluoedd ar incwm uwch. Er nad wyf o reidrwydd yn erbyn yr egwyddor o system fenthyciadau i fyfyrwyr, rwy’n gochel rhag rhoi baich dyled ar fyfyrwyr Cymreig ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae graddedigion bellach yn wynebu dyledion sydd ar yr un lefel â fy morgais cyntaf. Ai dyma’r hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer myfyrwyr Cymru?
Byddwn yn croesawu eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet o sut mae hi'n sicrhau bod myfyrwyr a graddedigion yn llwyddo i gael gwasanaeth gyrfa o ansawdd a fydd yn eu helpu i wneud y penderfyniadau gorau ynghylch pa gwrs i'w astudio a faint o ddyled i’w hysgwyddo. Ar ddiwedd y dydd, bydd y bobl hyn yn ysgwyddo dyledion. Mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn deall lefel y ddyled, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i dalu’r ddyled, a bod hynny mewn gwirionedd yn fuddsoddiad priodol a theilwng yn eu dyfodol, cyn eu bod yn mynd i ddyled. Heb gyngor gyrfaoedd o ansawdd, rydym mewn perygl o weld myfyrwyr Cymru yn mynd i ddyled heb reswm da, fel y dywedais. Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi colli'r cyfle i gymell myfyrwyr i astudio pynciau fel gwyddoniaeth a pheirianneg, y mae eu gwir angen yn ein heconomi, drwy ddarparu hyfforddiant am ddim a grantiau prawf modd ar gyfer y pynciau hynny.
Rwyf hefyd yn pryderu am y chwyddiant posibl i gostau myfyrwyr, o ran rhenti ac ati, wrth i landlordiaid ac eraill ddeall bod gan fyfyrwyr fenthyciadau a mwy o arian o bosib. Gwelsom hyn yn digwydd pan gyflwynwyd benthyciadau i fyfyrwyr eu yn y 1990au. Aeth y rhent ar gyfer llety myfyrwyr i’r entrychion i ddechrau. Felly, beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet am y chwyddiant o ran costau i fyfyrwyr, yn sgil y mesurau a gyhoeddwyd heddiw? Diolch.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiwn? Rwy’n credu bod addysg uwch yn ymdrech ar y cyd, yn un lle mae’r unigolyn yn cael budd, ond hefyd lle’r ydym ni fel cymdeithas yn cael budd hefyd. A dyna pam y byddwn yn bwrw ymlaen â’r grant cyffredinol o £1,000, a gafodd ei argymell gan Diamond yn ei adolygiad annibynnol. Mae'r Llywodraeth yn credu yn yr egwyddor o roi’r un manteision i bawb o fewn y system flaengar honno, a dyna pam y byddwn yn cyflawni'r argymhelliad gan Diamond. Mae'n amhriodol fod yr Aelod yn dadlau ar y naill law na ddylai’r £1,000 gael ei dalu, ond ar y llaw arall, wedyn yn siarad am faterion ynghylch dyled myfyrwyr a benthyciadau dysgu. Yr hyn a wyddom yw bod diddymu benthyciadau dysgu, ac nid cefnogi costau cychwynnol myfyriwr unigol, yn fwy o fudd i'r dosbarth canol a'r mwyaf cefnog. Ni allwch ei chael hi bob ffordd.
Mae’r Aelod yn gywir, er hynny—a dylwn fod wedi ymdrin â hyn wrth ateb Llyr Gruffydd, ac ymddiheuraf am beidio â gwneud hynny, Llyr—am y mater ynghylch y cyfraddau llog. Rwy’n pryderu am gyfraddau llog, a sut y maent yn cael eu cymhwyso i fenthyciadau myfyrwyr. O ganlyniad i'r pryder hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwnnw, ac wedi mynegi fy nghefnogaeth i adolygiad o’r cyfraddau llog a chadw’r cyfraddau mor isel â phosibl. Ac rwyf wedi egluro i Jo Johnson, y Gweinidog yn Llywodraeth San Steffan, fod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar y mater penodol hwn. Felly, nid wyf wedi anghofio am y pwynt hwn; mae’n bwynt pwysig, ac rydym yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â hyn ar lefel y DU.
Mae’r Aelod hefyd yn iawn i siarad am gyngor gyrfaoedd, a byddwn yn annog pawb sy’n ystyried gwneud cais i fynd i brifysgol i edrych ar yr arolwg deilliannau addysg hydredol diweddaraf. Bydd yr arolwg hwn yn dweud wrthych beth yw’r tebygolrwydd y bydd yr hyn yr ydych yn ei astudio yn arwain at swydd, a chyfraddau cyflog y swyddi hynny. Mae'n ddiddorol iawn. Ac os ydych yn gwneud hynny, rwy’n tybio y byddwn yn gweld myfyrwyr yn rhuthro i wneud cais am le ar y cwrs cyfrifiadureg yn Abertawe, gan fod y cwrs yn arwain at lefelau uchel o gyflogaeth, gyda lefelau da iawn o gyflog. Felly, rydych chi'n iawn; mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfaoedd priodol cyn gwneud cais i fynd i brifysgol. Ac mae angen i’r athrawon sy'n eu cynghori fod yn ymwybodol o'r holl wybodaeth sydd yno ar gael i fyfyrwyr, i'w helpu i wneud y dewisiadau hynny. Oherwydd nid yw ymgymryd â chwrs gradd yn rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn. Mae'n rhywbeth sydd angen ei ystyried o ddifrif, ac mae edrych ar y rhagolygon ar y diwedd yn ffactor pwysig i'w ystyried.
O ran cymorth i bynciau penodol, rwy’n deall bod hynny yn bolisi gan UKIP. Edrychodd Diamond ar gymorth i bynciau penodol, yn hytrach na system gyffredinol, a phenderfynodd ochri â’r system gyffredinol, a gwrthod y cynigion am gymorth i bynciau penodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.