4. 3. Datganiad: Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018-19 a Chyhoeddi Crynodeb o Ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Weithredu Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Diamond

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:20, 11 Gorffennaf 2017

Diolch, Ysgrifennydd, am eich datganiad chi. Nid ydw i’n meddwl ei fod yn mynd â ni i gyfeiriad annisgwyl. Mae llawer o’r hyn rŷch chi wedi ei ddweud yn gadarnhad efallai o’r hyn rŷch chi wedi ei amlinellu i ni yn flaenorol. Ac mae yn dda cael y cadarnhad yna, yn enwedig gan fod prifysgolion a myfyrwyr, wrth gwrs, wedi bod yn chwilio am yr eglurder yna mewn pryd ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y misoedd sydd i ddod.

Wrth gwrs, y cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol fan hyn yw’r ffaith bod uchafswm y ffioedd dysgu nawr yn mynd i fod yn codi gyda chwyddiant, ac rŷch chi’n gwneud y cyhoeddiad yna er ei fod yn rhywbeth rŷch chi wedi ei wrthod yn y gorffennol, a byddwn i’n licio gofyn i chi felly esbonio beth sydd wedi newid, oherwydd, dim ond rhyw fis neu ddau yn ôl, roeddech chi’n dweud mai dyna oedd y polisi fan hyn yn y Siambr, a byddwn i’n licio gwybod beth sydd wedi newid eich meddwl chi. Oherwydd canlyniad hyn yw y bydd dyledion myfyrwyr yn cynyddu o’r lefelau echrydus o uchel rŷm ni’n eu gweld yn barod, ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod lefel y llog sy’n cael ei dalu ar y benthyciadau yma yn uwch nag unrhyw log mae nifer ohonom ni’n ei dalu ar forgeisi ar hyn o bryd.

Mae’r penderfyniad yma’n cael ei wneud ar adeg pan fo’r drafodaeth ynglŷn â holl ddyfodol y ffioedd dysgu yma yn fyw iawn, gyda’r Arglwydd Adonis hyd yn oed yn dweud bod ffioedd dysgu yn wleidyddol farw, yn ‘politically dead’, yn ei eiriau fe—wel, yn amlwg, nid yng Nghymru. Er bod gennym ni faniffesto gan y Blaid Lafur rai wythnosau yn ôl a oedd yn dweud y buasen nhw’n sgrapio ffioedd, mae nawr gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd yn cydsynio i weld lefel y ffioedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae meddwl eich bod chi’n hapus i roi’r baich ychwanegol yna ar fyfyrwyr yn siomedig a dweud y lleiaf. Rydw i’n nodi ac yn rhannu siom Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn hynny o beth, yn enwedig o gofio, wrth gwrs, fod yr IFS hefyd yn dweud wrthym ni fod dyledion mor uchel nawr na fydd tri chwarter o’r graddedigion fyth yn talu yn ôl yn llawn y ddyled. Felly, mae yna gwestiynau ehangach, rydw i’n meddwl, sydd angen eu hystyried yn fan hyn hefyd.

Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth roesoch chi i opsiynau amgen, yn hytrach na thaflu’r baich ychwanegol yma ar y myfyrwyr? Onid oedd yna unrhyw bosibilrwydd y byddai modd defnyddio HEFCW efallai i gwrdd â chostau cyrsiau drutach yn lle, fel rydw i’n dweud, daflu’r bach ar ysgwyddau’r myfyrwyr? Ac a gawn ni hefyd eglurder ynglŷn â phryd a phwy a fydd yn gorfod talu’r ffioedd ychwanegol yma? A ydyw e’n gynnydd a fydd yn cychwyn fel y bydd myfyrwyr yn cychwyn eu cyrsiau o 2018 ymlaen, neu a ydy hwn yn rhywbeth a fydd yn daladwy gan fyfyrwyr sydd eisoes yn y system ac eisoes yn ymgymryd â’u hastudiaethau? Mi fyddai eglurder yn help.

Rydw i’n croesawu’r ymrwymiad i gyflogau byw, wrth gwrs, yn ein prifysgolion ni, ond mae yna bach o eironi fan hyn, oherwydd dyma un o’r sectorau gyda’r bwlch mwyaf mewn cyflogau oddi mewn iddo fe, a thra ei bod hi’n iawn ein bod ni’n edrych ar lefel cyflogau’r rhai sydd ar waelod y ‘scale’, rydw i yn meddwl bod yn rhaid inni edrych ar ben arall y ‘scale’ hefyd a bod angen gwneud mwy i gau’r bwlch yna, a byddwn i yn licio clywed eich barn chi ynglŷn â hynny.

Rŷch chi wedi sôn yn flaenorol am ryw fath o beilot o safbwynt y gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr i sicrhau ei bod hi’n ‘portable’ ac yn drosglwyddadwy o fewn y Deyrnas Unedig, ond hefyd y tu hwnt, yn yr Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i hynny. Mi fyddwn i’n falch o ddiweddariad ynglŷn â lle rŷm ni arni ar hynny.

Nid oes cyfeiriad at y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fan hyn. Rydw i’n gwybod bod yna gymhellion, wrth gwrs, yn Diamond, ac rydw i’n gwybod bod yna waith yn digwydd ar y ffrynt yna, a byddwn i’n licio eglurder ynglŷn â phryd a gawn ni wybod mwy am newidiadau posibl o safbwynt ColegauCymru ac yn sicr cynaladwyedd ariannol—sori, Coleg Cymraeg ddylwn i ddweud, nid ColegauCymru.

Ac, wrth gwrs, ni fyddai dim un datganiad ynglŷn â Diamond yn gyflawn heb fy mod i’n holi ynglŷn â’r argymhelliad o fod â chynlluniau gerbron i annog graddedigion i aros neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio er mwyn sicrhau y gwerth gorau i economi Cymru o fuddsoddiad y trethdalwyr. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba ystyriaethau pellach rŷch chi wedi eu rhoi i hyn, a phryd y cawn ni fwy o fanylion mewn ymateb i’r argymhelliad a oedd yn Diamond ar y mater yma?