6. 5. Datganiad: Strategaeth y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:51, 11 Gorffennaf 2017

Rydych chi wedi cyhoeddi dogfen bwysig iawn heddiw, ac mae o yn gam cychwynnol cadarnhaol ar y siwrnai i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r Llywodraeth wedi adnabod themâu allweddol y bydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, y glo mân, y rhaglen waith a’r manylion gweithredu, fydd yn bwysig wrth symud ymlaen. Mi fydd hefyd angen penderfyniad i oresgyn pa bynnag rwystrau a ddaw gerbron, a phenderfyniad ac ewyllys gwleidyddol cwbl gadarn dros gyfnod hir.

Rydw i’n dechrau drwy drafod y gymuned a’r economi ac yn falch o weld bod yna ddealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r economi a chymunedau yn y ddogfen yma. Rydych chi’n nodi fel hyn: mae angen mwy na swyddi i gadw pobl yn yr ardaloedd hyn a’u denu yn ôl. Ac rydych chi’n sôn yn fan hyn am y cymunedau efo dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud: mae angen hefyd yrfaoedd da i ganiatáu i bobl symud o swydd i swydd. Yn eich datganiad prynhawn yma rydych chi wedi dweud bod angen i’r Llywodraeth arwain drwy esiampl a dangos arweiniad os ydym am gyrraedd ein huchelgais.

Mi fyddai gweld arweiniad clir, felly, o ran swyddi a’r math o swyddi o ansawdd rydym ni eisiau eu gweld yn y bröydd Cymraeg yn arwydd clir gan eich Llywodraeth chi o’ch awydd chi i ddangos y ffordd a chreu esiampl. Fe ellid bod wedi sefydlu’r awdurdod cyllid newydd yn y gorllewin, ond ni wnaed hynny. Fe wnes i awgrymu ar y pryd, pan oeddem ni’n cael y drafodaeth honno, fod angen ailedrych ar feini prawf y Llywodraeth pan ddaw hi’n fater o wneud penderfyniadau ar leoli cyrff newydd, os ydy’r Llywodraeth o ddifri am gryfhau’r cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy: a fyddwch chi yn mynd ati’n fwriadol fel Llywodraeth i greu swyddi Llywodraeth newydd yn yr ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg? Ac a fyddwch chi’n mynd ati’n fwriadol i adleoli allan o goridor ffyniannus y de-ddwyrain pan fydd yna gyfleoedd yn codi?

I droi at y maes addysg, mae’r glo mân yn hollol bwysig yn fan hyn yn bendant, ac mae gennych chi rai targedau yn y rhaglen waith—ac nid wyf yn sôn am y strategaeth, ond y rhaglen waith, sydd yn hollbwysig—er enghraifft, cynnydd yn nifer yr athrawon cynradd sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,100 erbyn 2021, sef 200 yn fwy; cynnydd yn nifer yr athrawon uwchradd sy’n addysgu Cymraeg o 500 i 600 erbyn 2021—100 yn fwy; a’r nifer sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 2,200 erbyn 2021, sef 400. Rŵan, nid yw’r rheini, i fi, yn swnio’n rhyw symiau mawr. Nid yw’n swnio’n gynnydd mawr. A ydy o’n ddigon, neu ai fi sydd efallai ddim yn gweld lle mae hynny’n ffitio i mewn i weddill y strategaeth?

Mae gen i gwestiwn penodol hefyd ynglŷn â’r maes addysg, sef am y cynlluniau strategol addysg Gymraeg. Mi rydym ni angen gweld y rhain yn llawer mwy uchelgeisiol os ydym ni am gyrraedd y targed, ac, ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gweld llawer o gynnydd. Rwy’n gwybod eich bod cytuno efo hynny. Sut fydd arian cyllideb rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cynlluniau strategol mewn addysg ac i gefnogi datblygu cyfleusterau newydd?

Rydw i’n nodi bod eich rhaglen waith yn un pedair blynedd, a’r strategaeth i’w gweithredu dros gyfnod llawer hirach na hynny, wrth gwrs. Er mwyn cynnal y momentwm yna, mi fydd angen sefydlu corff hyd braich er mwyn sicrhau cysondeb, cynnal trosolwg a chadw cyfeiriad ar ôl 2021. Mae’r sector yn sicr yn cytuno efo hynny, ac, fel rhan o’r gyllideb bresennol, fe gytunwyd i symud ymlaen efo sefydlu corff hyd braich. Fy nghwestiwn olaf i ydy: beth ydy pwrpas y bwrdd cynllunio sydd wedi cwrdd yn ddiweddar, ac a fydd hwnnw yn datblygu i fod yn gorff hyd braich—y corff yma y mae ei angen—ac os bydd o, pryd fydd hynny’n digwydd? Diolch.