6. 5. Datganiad: Strategaeth y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:02, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau groesawu’r adroddiad hwn hefyd, a’r ffordd gyffredinol y mae’r Gweinidog wedi ei defnyddio i fynd i’r afael â hyn. Mae’r adroddiad yn gyfres o gamau mesuredig ac ymarferol, rwy’n credu, i gyfrannu at wireddu uchelgais terfynol o fod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond hoffwn hefyd ei ganmol am y ffordd huawdl y terfynodd ei ddatganiad drwy nodi’r rhesymau dros gefnogi'r Gymraeg a’i hymgorffori yn niwylliant pobl Cymru, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle mae hi wedi hen ddiflannu fel iaith feunyddiol y trigolion. Rwy'n credu mai dyna’n union yw’r ffordd o fynd i’r afael â hyn, ac mae'n ddefnyddiol, rwy’n credu, cael rhywun yn gwneud y swydd hon na chafodd ei fagu yn siarad Cymraeg gartref ac sydd wedi dysgu’r iaith. Her fawr y dyfodol fydd argyhoeddi carfan uniaith Saesneg y boblogaeth, sydd yn y mwyafrif llethol ar hyn o bryd, bod hon yn antur y mae'n rhaid i bob un ohonom ni gymryd rhan ynddi.

Felly, rwy’n cytuno â'r hyn y mae'r ddogfen yn ei dweud, yn enwedig na all strategaeth y Llywodraeth orfodi unigolion i ddefnyddio'r iaith, ac er mwyn i'r iaith wirioneddol ffynnu, rydym ni’n dibynnu ar bob un ohonom ni i gofleidio'r syniad o Gymru ddwyieithog. Felly, mae'n rhaid i ni gario'r bobl gyda ni a derbyn y farn gyhoeddus, ond hefyd arwain y farn honno. Fe hoffwn i hefyd, yn y cyd-destun hwn, ganmol cyfraniad Plaid Cymru, a drafodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf, yn y ddogfen hon, 'Cyrraedd y Miliwn', a phwysigrwydd, i ddechrau beth bynnag, sicrhau ein bod yn diogelu cadarnle cymdeithasol y Gymraeg yn y gogledd a’r gorllewin. Ond mae'n bwysig bod gennym ni strategaeth hefyd i ledaenu o'r broydd Cymraeg traddodiadol lle mae cyfran helaeth o’r bobl yn dal i fedru’r iaith, oherwydd nid ydym ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfyngu i raddau helaeth i’r hyn y gallem ni eu galw'n 'amddiffynfeydd' yn ein gwlad ein hunain.

Os ydym ni am lwyddo yn ein hamcan terfynol, mae angen i ni argyhoeddi pobl nad ydyn nhw’n clywed yr iaith Gymraeg yn feunyddiol yn y cartref neu yn eu cymunedau ei bod yn werth gwneud ymdrech i fod yn rhan o hyn. Yr her fawr yn awr fydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, mewn ardaloedd lle mae’r heriau mwy hyn yn codi, ac mae’n rhaid i ni yn sicr wneud ein gorau i osgoi'r math o wrthdaro a welsom ni, yn anffodus, yn Llangennech yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n rhaid i ni weithio'n galetach yn yr amgylchiadau hynny i argyhoeddi pobl na fydd dysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu eu bod o dan anfantais.

Mae’r hyn a ddywedodd Simon Thomas y diwrnod o’r blaen am werth dysgu iaith arall, boed honno yn Gymraeg neu’n unrhyw iaith arall, yn hollol wir. Yn yr ysgol, fe ddysgais i dair iaith—Almaeneg, Ffrangeg a Rwsieg—yn ogystal â'r Gymraeg, er y bu'n rhaid i mi roi'r gorau i’r Gymraeg er mwyn gwneud un o'r lleill. Nid ydym ni’n gwneud hynny heddiw. Nid wyf yn gwybod a yw hynny wedi fy ngwneud yn berson mwy deallus o ganlyniad, neu’n berson mwy huawdl, ond mae'n sicr wedi ychwanegu sawl dimensiwn at fy mywyd yr wyf yn falch eu bod gennyf. Ac felly, mae gwerth yn hyn y tu hwnt i'r dadleuon ymarferol am economeg yr ydym ni wedi eu clywed, sy'n bwysig, ond i fod yn onest, o ystyried mai Saesneg yw lingua franca y byd yn gyffredinol, mae'n mynd i fod yn broblem i bob iaith arall, ar ryw ystyr, gystadlu â hi ym myd masnach ryngwladol ac ym myd y rhyngrwyd. Mae'n rhaid i ni roi sicrwydd i rieni bod hyn yn rhywbeth sydd o werth i blant.

Rydym ni wedi gweld lleihad mewn addysgu ieithoedd modern yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig yng Nghymru, yn y blynyddoedd diwethaf. Cynhaliodd y Cyngor Prydeinig arolwg dim ond dwy flynedd yn ôl a chanfod mai dim ond 22 y cant o ddisgyblion sy’n astudio ieithoedd ar wahân i’r Saesneg neu’r Gymraeg ar gyfer TGAU. Mae hynny, rwy’n credu, yn druenus, oherwydd y dybiaeth yw bod ieithoedd yn anodd. Wel, ymhlith yr ieithoedd yr wyf i wedi eu hastudio, mae’r Gymraeg yn iaith llai cymhleth i’w dysgu. Mae llai o eirfa; caiff geiriau eu defnyddio i wneud mwy o bethau yn y Gymraeg nag mewn ieithoedd eraill; nid oes gennym ni broblemau gyda chyflyrau a gorfod rhedeg geiriau ac ati. Fe ddylai’r Gymraeg felly, gydag ychydig o ymdrech, fod yn haws ei chaffael a’i dysgu na, dyweder, iaith fel Rwsieg, a grybwyllais yn gynharach.

Felly, mae hwn yn gam pwysig, ond ni ellir gorbwysleisio yr hyn a ddywedwyd hefyd am bwysigrwydd y blynyddoedd cynharaf, ac fe hoffwn i ganmol y gwaith y mae’r Mudiad Meithrin wedi ei wneud yn y cyswllt hwn. Yr uchelgais i weld 150 o gylchoedd newydd i blant tair a phedair oed yw gobaith mawr yr iaith, rwy’n credu, oherwydd peth diddorol arall a ddarganfyddais yn adroddiad Plaid Cymru oedd bod 18.8 y cant o blant tair a phedair oed yn siarad Cymraeg yn 2001. Roedd hynny wedi codi 5 y cant i 23.3 y cant yn 2011. Byddai'n ddiddorol gwybod, os yw’n bosib, beth yw'r ffigur erbyn hyn, ac i ba raddau yr ydym ni’n gwneud cynnydd yn hyn o beth. Mae’r uchelgais yn y ddogfen hon o fod â 35 y cant yn gam canolradd pwysig, rwy’n credu, ac felly rwy’n cymeradwyo agwedd y Gweinidog tuag at hynny.

Os ydym ni eisiau llwyddo yn yr amcan hwn, mae’n rhaid ymwreiddio’r iaith yn y blynyddoedd cynharaf pan fo ein gallu i gaffael iaith ar ei orau. Gallaf ddweud wrthych chi o’m profiad fy hun ei bod hi’n llawer anoddach cofio geirfa pan eich bod chi’n 68 oed, heb sôn am ddysgu geiriau newydd, nag yr arferai fod. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig i ni sylweddoli bod yna gytundeb unfrydol bron yn y Cynulliad ynglŷn â’r ffordd hon o wneud pethau, ond ni chaiff y cytundeb hwnnw ei adlewyrchu i'r un graddau y tu allan, ac felly mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan wrth annog pobl i gofleidio’r ymarferiad hwn. Yn sicr ar ran fy mhlaid fy hun, rwyf am ddweud y byddwn ninnau’n gobeithio chwarae ein rhan yn hyn hefyd, oherwydd rwy’n credu y gallwn ni fod yn ddefnyddiol i’r Llywodraeth yn y cyswllt hwn, gan gynrychioli rhan o'r gymuned nad yw’n gysylltiedig fel arfer â’r antur yr ydym ni i gyd erbyn hyn wedi cychwyn arni.