Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich sylwadau caredig ac am y croeso a roesoch i’r datganiad, ac i’r dull a’r cywair yr ydym ni wedi eu defnyddio wrth symud y polisi hwn yn ei flaen. Rydych chi’n disgrifio'r strategaeth fel antur. Mae'n sicr yn daith, ac mae'n daith gyffrous. Mae'n daith gyffrous am nad ni yn y Siambr hon a fydd yn penderfynu ar ei llwyddiant. Y rhieni a fydd yn gwneud penderfyniadau unigol fydd yn gwneud hynny, y rhiant sy'n penderfynu defnyddio'r Gymraeg gyda'i blentyn i drosglwyddo'r iaith drwy'r cenedlaethau, y rhiant sy'n penderfynu anfon ei blentyn drwy'r system cyfrwng Cymraeg, y rhiant sy'n helpu ei blentyn i wneud ei waith cartref Cymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg, y bobl sy'n newid yr iaith maen nhw’n ei defnyddio pan fyddant mewn clwb rygbi, tafarn neu ym mha le bynnag arall y byddont, neu’r bobl sydd mewn gwirionedd yn gwneud ymdrech i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd ac i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ei defnyddio. Gobeithiaf, wrth wneud hynny, y bydd y wlad ei hun, sydd wedi bod ar un daith gyda’r iaith, yn mynd ar daith arall i gyfeiriad gwahanol gyda'r iaith.
Symudodd fy nheulu fy hun i Dredegar ar droad y ganrif ddiwethaf, ac roedden nhw’n deulu cwbl Gymraeg eu hiaith pan symudasant o Aberystwyth i weithio ym mhyllau glo’r de. Collasant yr iaith a bu farw’r iaith yn y teulu cyn yr ail ryfel byd. Nawr, rydym ni’n gweld fy mhlant—wyrion a wyresau fy rhieni—yn dysgu ac yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac yn adennill yr iaith. Mae’r iaith wedi ei haileni yn y teulu. Rwy’n gobeithio, yn yr un modd, y byddwn ni’n gallu gweld hynny mewn llawer o deuluoedd ac mewn llawer o wahanol rannau o Gymru. Rwy’n gwybod y bu’r iaith ar daith debyg iawn yn nheulu’r Ysgrifennydd dros Addysg. Gobeithiaf, yn y ffordd honno, na fyddwn ni’n gweld yr iaith yn ddim mwy nag ennill sgil, ond y byddwn ni hefyd yn ennill calonnau a meddyliau pobl ledled y wlad, ac y byddwn yn cefnu ar y syniad, 'Os byddwch chi’n ennill, byddaf i’n colli'—gêm o naill ai ennill neu golli y gwelsom ni ormod o lawer ohoni yn y gorffennol—sy’n golygu os ydym ni’n siarad Cymraeg, yna rydym ni’n eithrio pobl sy'n siarad dim ond Saesneg, a bod polisi dwyieithog yn golygu gorfodi siaradwyr Cymraeg i siarad Saesneg. Felly, mae angen i ni gefnu ar wrthddywediadau o’r fath, ac ar yr agwedd honno a’r cywair hwnnw o drafod.
Wrth wneud hynny, mae'n daith y byddwn ni’n cychwyn arni fel gwlad. Rwyf eisoes wedi bod yn siarad, drwy ein swyddogion, gydag awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â’u cynlluniau strategol eu hunain ar gyfer y Gymraeg. Fel y dywedais i wrth ateb cwestiwn blaenorol, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â hynny, ac yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rwy’n gobeithio y byddwn ni’n rhoi sicrwydd i rieni, ond hefyd yn ysbrydoli rhieni ac yn ysbrydoli pobl i ddysgu’r Gymraeg, i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i beidio â phoeni am gael pob treiglad yn iawn a phob manylyn gramadegol yn gywir, ond i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i deimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg, ac i deimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny yn gymdeithasol yn ogystal ag yn broffesiynol. Rydym ni’n dechrau hynny yn y blynyddoedd cynnar, ac rwy’n gobeithio y bydd y profiad y caiff rhieni, neu’r profiadau da y caiff eu plentyn o ddysgu dwy iaith yn gynnar yn ei fywyd, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda nhw ac yn cyfoethogi eu bywydau yn yr un ffordd ag y mae wedi fy nghyfoethogi i a fy nheulu yn ein bywydau ni.