7. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:34, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n fy atgoffa o’ch rhagflaenydd Leighton Andrews, a oedd i fyny ac i lawr ar ei draed ar yr un prynhawn yn cyflwyno nifer o ddatganiadau i ni ar yr un pryd. Rwy’n gobeithio nad yw’r un dyfodol gwleidyddol yn eich disgwyl chi ag a oedd, yn amlwg, yn disgwyl y Gweinidog arbennig hwnnw,.

Ond rwyf yn croesawu eich datganiad. Yn amlwg, rydych chi wedi rhoi llawer iawn o egni personol, ac egni’r Llywodraeth i mewn i hyn—a hynny'n gwbl briodol, er tegwch i chi. Hefyd, eich dull draws-Llywodraeth—yn hytrach nag edrych arno o safbwynt unochrog, a meddwl, ‘Fi piau hwn, a fi fydd yn ei arwain.' Mae’r ffaith eich bod yn mynd ag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda chi i lawer o'r cyfarfodydd cyhoeddus yn rhoi ffydd bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn ar y cyd.

Gan fy mod yn credu ei bod hi’n deg dweud y gall llawer o gymunedau'r Cymoedd ddweud, mewn rhai achosion, y gallen nhw fod wedi clywed am hyn i gyd o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar weithgarwch economaidd, os edrychwch chi ar safonau addysg, ac ar lawer o'r dangosyddion allweddol, yn anffodus, nid ydym ni wedi gweld y gwelliannau y byddai pob un ohonom ni yn dymuno eu gweld. Yn fwy na dim, mae a wnelo hyn â chynyddu’r gweithgarwch economaidd hwnnw—yn y pump, 10, 15 mlynedd nesaf—fel eu bod nhw yn dod yn gynaliadwy, fel eu bod nhw yn creu eu dyfodol eu hunain ac, yn anad dim, eu bod nhw yn dod yn lleoedd y mae pobl yn gyffredinol eisiau byw a gweithio ynddyn nhw hefyd.

Rwy’n sylwi o’ch datganiad, Gweinidog, eich bod yn dweud y byddwch chi’n lansio’r cynllun blaenllaw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yr wythnos nesaf, ond yna mae'n rhaid i ni aros tan yr hydref tan y byddwn yn cael y dangosyddion perfformiad, neu sut y byddwch yn mesur eich hun, y soniasoch amdano yn rhan olaf eich datganiad. Meddwl oeddwn i: pam y datgysylltu? Oherwydd, does bosib, i wneud hwn yn gynllun cydlynol, rydych chi eisoes yn deall pa ddangosyddion yr ydych chi’n ceisio eu cyflawni. Felly, pam nad yw'r ddau yn gysylltiedig? Oherwydd er mwyn i ni fod yn hyderus bod y cynllun hwn yn fwy na geiriau ar bapur, mae angen i ni allu gweld y cynnydd a mesur y cynnydd, nid yn unig fel gwleidyddion, ond fel cymunedau o'r Cymoedd, fel y dywedais i, fel y gallan nhw fod yn ffyddiog eich bod chi’n symud i'r cyfeiriad cywir.

Rydych chi wedi crybwyll, yn eich sylwadau agoriadol, sut y cawsoch chi arweiniad gan y cymunedau eu hunain, a da o beth yw hynny. Byddwn yn awyddus i ddeall ble yr ydych chi’n credu bod swydd yn ddigon lleol i'w galw’n swydd sydd o fewn cymuned leol. Rydych chi’n cyffwrdd ar hynny yn eich datganiad yn y fan yma:

o fewn cyrraedd eu cymunedau lleol yw'r geiriau yr ydych chi’n sôn amdanyn nhw. Eto i gyd, mae llawer o'r dulliau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi eu defnyddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicr wedi creu cyflogaeth ar hyd y llain arfordirol hwn—yn enwedig yn y de—sydd wedi arwain, yn amlwg, at lawer o bobl yn symud allan o'r Cymoedd i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth hynny. Felly, fe hoffwn i ddeall: a ydych chi’n gweld y cyfleooedd cyflogaeth hyn fel rhai ar gyfer y de yn ei gyfanrwydd, neu a ydych chi’n canolbwyntio'n benodol ar greu swyddi lleol yn y cymunedau eu hunain? A sut ydych chi'n llwyddo i wneud hynny? Oherwydd rydych chi yn cyfeirio at greu 7,000 o swyddi ychwanegol yn y cyfnod hwn hyd at 2021, rwy’n credu eich bod yn siarad amdano. A yw'r swyddi hynny yr ydych chi’n gobeithio eu creu yn rhai gwirioneddol newydd—felly yn ychwanegol at y rhai sy’n bodoli yn y Cymoedd yn barod—neu a ydyn nhw’n ddim mwy na swyddi a fyddai’n llenwi swyddi sydd eisoes yn bodoli, naill ai yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r sector gwirfoddol? A allwn ni wir fod yn edrych ymlaen at gael 7,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn bodoli yn y Cymoedd?

Rydych chi’n cyffwrdd hefyd ar y chwe chanolfan strategol yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu yn y Cymoedd. Buaswn yn hoffi deall sut yr ydych chi’n datblygu’r cysyniad hwnnw, beth yn union maen nhw’n eu cynrychioli—a ydyn nhw’n ddim mwy nac ardaloedd menter bychain? Oherwydd rydych chi’n cyfeirio at yr un sydd gennych chi ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, a ddatblygodd o'r cyhoeddiad Cylchdaith Cymru fel model. Wel, mae hwnnw'n fodel thematig sy’n seiliedig ar y sector modurol. Felly, wrth gyflwyno'r pum canolfan y byddai gennych chi’n weddill yn y cysyniad hwn, beth ydych chi'n ei olygu mewn gwirionedd? Yn ddaearyddol, sut y cânt eu lledaenu ar draws ardal y Cymoedd? Yn arbennig, faint o gyllideb a gaiff ei neilltuo i greu'r cyfleoedd? Yn amlwg, ym Mlaenau Gwent, rydych chi wedi nodi £100 miliwn dros 10 mlynedd ar gyfer y ganolfan benodol honno. A all y pum canolfan arall ddisgwyl cael yr un faint o gyllid? Oherwydd, unwaith eto, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig deall pa adnoddau mae Llywodraeth Cymru yn eu buddsoddi yn y cysyniad hwn. Rwyf yn rhybuddio rhag cofleidio’r athroniaeth 'adeiladwch o ac fe ddaw’r bobl', oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni wedi gweld nad yw’r athroniaeth honno’n gweithio. Ac felly, os mai hynny fydd sail eich gweithgaredd economaidd, rhowch rywfaint o fanylion ychwanegol fel y gallwn ni ddeall beth y gallwn ni ei ystyried fel bod yn llwyddiant a beth fydd y cysyniad yn ei gyflenwi.

Wrth gloi, rwyf yn croesawu'r cyfeiriad at yr amgylchedd naturiol—[Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio bod arweinydd y tŷ yn iawn. Roeddwn i braidd yn bryderus y byddai'n rhaid i mi ddod draw a rhoi cusan bywyd chi. [Torri ar draws.] Gallaf weld fod wyneb arweinydd y tŷ yn goch. Ai pwl o wres yw hwnna?

Wrth gloi, carwn longyfarch y Gweinidog am gyfeirio at amgylchedd naturiol y Cymoedd. Fel rhywun sydd o gefndir amaethyddol, rwyf yn credu na wnaed hanner digon o ddefnydd o’r adnodd hwn yn y Cymoedd. Bûm yn siarad, yn ddiweddar, ar sail drawsbleidiol, gyda Hefin o Gaerffili, ac â'r Aelod dros Gwm Cynon hefyd, ac Aelodau eraill o’r Siambr, am y tiroedd comin sydd ar ben y Cymoedd—mae yna fannau agored enfawr sy’n ffurfio cyfleuster economaidd pwysig ar gyfer amaethyddiaeth. Ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan bwysig yn amgylchedd naturiol y Cymoedd, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch sut y mae'r Gweinidog yn gweld yr amgylchedd naturiol hwnnw yn chwarae rhan wirioneddol yn y dadeni yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn y Cymoedd, a hynny ar draws pob un o’r Cymoedd.