Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Ceidwadwyr Cymru am ei eiriau caredig a’i groeso i'r datganiad y prynhawn yma. A gaf i ddweud wrtho—? Pan ofynodd y Prif Weinidog i mi ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gydlynu ac arwain y gwaith hwn, roeddwn i’n glir iawn, iawn nad ydym ni, wrth greu tasglu i’r Cymoedd, eisiau creu cwango arall nac ychwaith eisiau creu math arall o beiriant cyflawni ynddo'i hun, ond yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud oedd cyfuno swyddogaethau presennol y Llywodraeth a sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni yng Nghymoedd y de. Mae'r tasglu ei hun wedyn yn creu pwyslais ac mae’n gatalydd ar gyfer gweithredu i alluogi’r pethau hynny i ddigwydd. Yn sicr, does dim angen unrhyw strwythurau cyflenwi cymhleth eraill arnom ni, a does arnom ni ddim eisiau dyblygu. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw canolbwyntio clir ar Gymoedd y de. Felly, roedd y Prif Weinidog yn glir iawn, iawn—ac roedd yn amlwg yn cytuno bod angen tasglu arnom ni er mwyn sbarduno’r gwaith hwn yn ei flaen, yn hytrach na’i fod yn cyflawni ei hun. Ac felly bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyflawni’r gweithio traws-lywodraethol a'r uchelgeisiau a'r amcanion sydd gennym ni, ac fe gaiff y rhain eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu er mwyn cyflawni ei rhaglenni presennol. Ond mae hefyd yn gweithredu fel catalydd i alluogi eraill i ddarparu ac i ddod â phobl eraill at ei gilydd. Felly, rwy’n glir iawn, iawn—ac rwy’n croesawu ei gydnabyddiaeth o hynny—fod hyn yn rhywbeth i'r Llywodraeth gyfan ei gyflawni.
Bu, wrth gwrs, nifer o wahanol fentrau ar gyfer y Cymoedd. Rwy'n cofio eistedd wrth ochr Robin Walker mewn digwyddiad cyn y Nadolig, ac roedd yn trafod y gwaith y bu ei dad yn ei wneud yn y Cymoedd rai blynyddoedd yn ôl. Soniodd am gymaint yr oedd ei dad wedi mwynhau’r gwaith hwnnw, a sut yr oedd yn teimlo fod ganddo’r awydd a’r angen i gyfrannu at ddyfodol economaidd y Cymoedd. Felly, mae angen i ni ddysgu o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol, a chydnabod bod angen pwyslais llawer ehangach ar y Cymoedd na fu gennym ni erioed o’r blaen o bosib.
Rwyf hefyd yn cytuno bod angen ffydd ar y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd i wybod bod hyn yn fwy na dim ond geiriau, ac y byddwn yn cyflawni’r addewidion a'r ymrwymiadau yr ydym ni yn eu gwneud. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod gennym ni gynllun cyflawni—cynllun cyflawni gyda thargedau clir, gyda chamau gweithredu clir ac amserlenni clir. I mi, mae'n gwbl hanfodol fel Gweinidog fy mod yn cael fy nwyn i gyfrif am yr addewidion a wnaf, i'r lle hwn ac mewn mannau eraill, a bod pobl yn gallu fy nwyn i gyfrif drwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd i alluogi pobl eraill i’n dwyn i gyfrif, a bod gennym ni dargedau clir ac amserlenni clir. Mae hynny'n golygu y gallwn ni gael dadl llawer fanylach am yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud, yn y tymor Cynulliad hwn ac wedi hynny. Felly, byddwn yn cyhoeddi cynllun cyflawni yn yr hydref. Byddaf yn sicrhau y bydd amser y Llywodraeth ar gael ar gyfer datganiad neu ddadl bellach i sicrhau bod yr Aelodau'n cael y cyfle i’n holi ni ynghylch hynny, a byddaf yn sicrhau y bydd yr holl wybodaeth ar gael yn gyhoeddus er mwyn galluogi’r atebolrwydd hwnnw i fod yn ddadl drylwyr am y ffordd yr ydym ni’n symud ymlaen â’r maes polisi hwn, ac nid dim ond math mwy gelyniaethus, efallai, o atebolrwydd a welwn ni yn llawer rhy aml.
O ran swyddi lleol a beth mae hynny'n ei olygu, yn amlwg, bydd metro de Cymru yn fodd o sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r cyfle i bobl deithio i chwilio am waith pan fo angen, i gael cyfleoedd gwahanol am waith a sgiliau, ac i gael addysg a gwasanaethau. Ond hefyd, mae angen i ni sicrhau bod gennym ni’r swyddi hynny ar gael iddyn nhw yn y lle maen nhw’n byw ynddo hefyd. Un o'r cyfleoedd gwych a welaf yn natblygiad prosiect deuoli'r A465 yw nad ydym ni ddim ond yn adeiladu ffordd osgoi ar gyfer trefi Blaenau'r Cymoedd, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn coridor gogleddol, os mynnwch chi, lle bydd gennym ni, a lle mae angen i ni gael cynllun datblygu economaidd i greu ac i ysgogi datblygiad economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd, sef yr ardaloedd sydd wedi elwa lleiaf, os mynnwch chi, ar raglenni buddsoddi economaidd eraill. Fe allwn ni felly greu ac ysgogi gwaith lleol ac economïau lleol ym Mlaenau'r Cymoedd, yn ogystal ag ymhellach i’r de.
O ran swyddi lleol, un o'r dadleuon a gafwyd yn y lle hwn, ac y bu nifer o wahanol Aelodau ar lawer ochr i'r Siambr yn arwain arni, yw lle a swyddogaeth economi sylfaenol yn y dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gweld mwy o fuddsoddi ynddo dros y blynyddoedd nesaf. Roedd yr astudiaeth drylwyr o Dredegar, a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, yn amlinellu sut mae modd i’r economi sylfaenol, wrth gwrs, helpu i gynnal gwaith—fe all gynnal swyddi—ond hefyd sicrhau bod cyfoeth yn aros o fewn cymuned benodol hefyd, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni ddysgu gwersi o hynny a chymhwyso'r dull hwnnw o wneud pethau i rai o'r pethau y byddwn ni yn eu gwneud yn y dyfodol. Ond rwyf hefyd yn gobeithio, trwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth, y byddwn yn gallu ailgysylltu’r Cymoedd a Chaerdydd er mwyn sicrhau bod gennym ni un ardal economaidd lle y gall pobl symud ar gyfer gwaith, os dyna yw eu dewis, ond lle mae gwaith hefyd ar gael yn llawer agosach at gartref pan fo angen hynny a phan ei fod yn angenrheidiol. Felly, mae'n ddewis o ba un a ydym ni’n teithio i'r gwaith, ac nid rheidrwydd, ac nad yw’n rhywbeth y mae pobl yn cael eu gorfodi i’w wneud. Byddwn yn creu cyfleoedd newydd a byddwn yn dweud yn y rhaglen hon y bydd rhan o'r cyfleoedd hynny yn swyddi yn y sector cyhoeddus yr ydym ni yn dymuno eu creu yn y Cymoedd, ac rydym ni eisoes wedi dechrau’r broses honno.
Bydd y canolfannau strategol eu hunain yn wahanol mewn gwahanol leoedd; ni fydd yr hyn a allai weithio yng Nglynebwy o reidrwydd yn gweithio yn rhywle arall. Ac felly byddwch yn gweld adeiladu canolfan strategol, sy'n adlewyrchu uchelgais y lle hwnnw ac yn adlewyrchu anghenion yr ardal a’r rhanbarth hwnnw. Gallai fod yn wahanol mewn gwahanol leoedd—mewn gwirionedd, bydd yn wahanol mewn gwahanol leoedd. Bydd y buddsoddiad y byddwn ni’n ei gynhyrchu o Lywodraeth Cymru yn y gwahanol ganolfannau strategol yn fuddsoddi gwahanol mewn gwahanol leoedd a bydd ar ffurf wahanol. Yr hyn sy'n amlwg yw y bydd angen i ni wneud y buddsoddiad hwnnw mewn modd amserol er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau a'r uchelgeisiau yr ydym ni’n eu gosod i'n hunain.
Rwy’n gwybod fy mod yn trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—