Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Wel, diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. O ran datblygu sgiliau priodol ar gyfer busnes a chyflenwi busnes, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi sefydlu tair partneriaeth sgiliau ranbarthol ledled Cymru. Maen nhw ar eu trydedd flwyddyn erbyn hyn. Eleni, byddant yn cynhyrchu eu hadroddiadau blynyddol yn manylu ar wybodaeth a deallusrwydd am y farchnad lafur yn eu hardal, ac yn amlinellu'r sgiliau y mae eu hangen ar y cyflogwyr yn yr ardal honno. Ac, eleni, byddwn yn ariannu datblygiad sgiliau yn yr ardaloedd hynny yn ôl y cynlluniau datblygu rhanbarthol. Felly, caiff ei arwain i raddau helaeth gan fusnesau yn yr ardaloedd hynny, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif calon. Rydym wedi mynd i'r afael â hynny drwy sefydlu a chryfhau partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Ac, fel y crybwyllais yn y datganiad, rydym wedi ailgyflunio bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru er mwyn cael cynrychiolaeth well o’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny ar gyfer cael golwg dros Gymru gyfan, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan y cyflogwyr a’r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn y bwrdd hwnnw gydag asiant cyflwyno. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â’r agenda honno, ac rydym yn cydnabod hynny’n sicr.
Yn yr un modd, ar faterion yn ymwneud â rhyw, bydd yr Aelod yn gwybod bod hynny wedi bod yn destun pregeth gennyf i ers cryn amser. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r wybodaeth gywir i ferched ifanc a dynion ifanc ynglŷn â diwydiannau nad ydynt wedi eu hystyried yn addas ar eu cyfer yn draddodiadol—felly, yn benodol, meysydd fel gofal i ddynion ifanc, a meysydd fel peirianneg a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i ferched ifanc, oherwydd, os edrychwch ar y dosbarthiad rhyw, fel arall y maen nhw. Ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor gyrfaoedd cywir allan yno er mwyn y bobl ifanc eu hunain a hefyd er mwyn y rhieni a’r neiniau a’r teidiau—y rhai sy’n ffurfio barn, mewn geiriau eraill—y plant ifanc hynny. A byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phobl sydd eisoes yn y diwydiant fel eu bod yn esiampl ac yn rhoi arweiniad yn hynny o beth.
O ran anabledd ac amrywiaeth, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n cyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn gyflogwyr hyderus wrth ymdrin ag anabledd, a’u bod mewn gwirionedd yn deall nad yw mor anodd â hynny gyflogi rhywun sy’n anabl, ac yn y blaen. Byddwn yn gwthio’r agenda hon fel rhan o'r hyn yr oeddwn yn sôn amdano o ran paratoi busnesau at dwf a chyfle, a bydd hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym yn eu helpu i’w ystyried.
O ran Gyrfa Cymru, os oes gan yr Aelod ysgol benodol sydd â phroblem gyda materion sy’n ymwneud â phrofiad gwaith, byddwn yn ddiolchgar iawn iddo pe byddai’n ysgrifennu ataf i ynglŷn â hynny. Mae 'na lawer iawn o wybodaeth anghywir yn bodoli ynghylch pa wiriadau iechyd a diogelwch sy’n angenrheidiol mewn gwirionedd i roi pobl ifanc yn y gweithle. Mae gan y rhan fwyaf o weithleoedd sy’n cymryd plant ar brofiad gwaith y gwiriadau iechyd a diogelwch yn eu lle yn barod, felly, os oes gan yr Aelod fater penodol ynglŷn â hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai’n ysgrifennu ataf.
O ran capasiti, cafodd Gyrfa Cymru ei drosglwyddo yn ddiweddar o bortffolio addysg fy nghydweithiwr Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i fy mhortffolio i. Y rheswm am hynny yw ei fod yn cydfynd yn well â chymorth busnes ac anghenion yr economi. Felly, gwneir cyhoeddiadau eto am sut yr ydym yn cynyddu’r capasiti ar gyfer twf yn y sector hwnnw.