Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn sicr, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gefnogaeth lawer symlach, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei nodi yn flaenorol i chi yn dilyn datganiadau blaenorol. A gaf i hefyd groesawu'r pwyslais parhaus ar ddull gwirioneddol draws-lywodraethol, yr wyf i yn ei ystyried yn hanfodol? Clywsom y geiriau hyn yn cael eu dweud yn y gorffennol, ond rwy’n gobeithio—ac rwy'n siŵr y daw hyn yn amlwg—y byddwn yn gweld y newid diwylliannol hwnnw’n digwydd yn awr yn ei hanfod wrth i’r cynigion newydd gael eu cyflwyno.
Nawr, mae croeso wrth gwrs i’r ffaith fod lefelau cyflogaeth wedi codi yng Nghymru, fel y dywedwch chi. Ond, fel yr ydych hefyd yn ei gydnabod, mae tlodi mewn gwaith, tangyflogaeth, contractau dim oriau a ffactorau eraill, wrth gwrs, yn parhau i fod yn achos pryder sylweddol. Rydym wedi egluro ein bod yn awyddus i weld sgiliau yn cael eu halinio â’r prinder sgiliau yn yr economi a bod y ddarpariaeth ohonynt ar gael i bobl o bob oed ledled Cymru fel bod yr un cyfle ar gael i bawb wella eu sgiliau a dysgu sgiliau newydd wrth i fywydau gwaith pobl ymestyn, wrth gwrs, a bod yn fwy ansicr yn y cyfnod ansicr hwn.
Ac wrth siarad am hynny, mae cyllid yn allweddol. Rydych chi’n dweud wrthym yn eich datganiad am y pecyn cyfannol personol, pwrpasol, a chymorth dwys a mentora. Nid yw’r rhain yn bethau rhad, a chafodd llawer o’r rhain eu hariannu drwy gyllid Ewropeaidd yn y gorffennol. Pan godais i hynny gyda chi rai misoedd yn ôl roeddech chi’n eithaf hyderus wrth i chi ddweud bod addewidion wedi eu rhoi a byddai’r arian yn dod. Nid wyf yn gweld yr un hyder ar hyn o bryd yn gyffredinol, yn ogystal ag yn y datganiad hwn. Tybed a allech ddweud ychydig wrthym am sut yr ydych yn bwriadu ariannu'r ddarpariaeth newydd? A fydd hynny’n adlewyrchu lefelau presennol, neu a ydych yn rhagweld y daw mwy o fuddsoddiad o rywle, o ystyried efallai, byddai rhai yn dweud, yr uchelgais cynyddol sy'n cael ei adlewyrchu yn eich datganiad? Neu sut ydych chi'n gweld y bydd hynny’n cael ei gyflawni?
Nawr, mae disgwyl y bydd y cynnig newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019 yn hytrach na mis Ebrill 2018. Mae'n amlwg y bydd rhai yn siomedig oherwydd nad ydym efallai yn cyrraedd y fan yr hoffem fod ynddi mor gyflym ag y byddem ni’n ei hoffi. Rwy'n siŵr eich bod o’r un farn â hynny i raddau, ond efallai y gallech egluro inni pam eich bod yn credu bod angen i ni aros tan hynny, mewn gwirionedd, cyn y gallwn weld gwaith yn cael ei gyflwyno’n fwy eang yng Nghymru.
Rydych yn sôn eich bod yn awyddus i ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i lywio'r dull cyflenwi newydd, ac mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Peth da bob amser yw treialu ac arbrofi, er y byddwn i’n dweud bod, mewn cyferbyniad, y cynnig gofal plant yn cael ei dreialu a'i roi ar brawf mewn llawer man mewn llawer o wahanol gyd-destunau. Tybed a ydych chi’n ystyried neu'n edrych ar gynlluniau peilot posibl neu bethau tebyg mewn, ddywedwn ni, ardaloedd gwledig o’u cymharu ag ardaloedd y Cymoedd, fel y gellir dysgu nifer ehangach o wersi o ran deddfu ar lawer o hyn.
Rydych chi’n dweud wrthym y bydd bwrdd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn llunio’r cynllun, ac y bydd bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol. A wnewch chi ddweud wrthym pwy sy'n gyfrifol am gyflawni hyn, felly, ar ddiwedd y dydd, a hefyd sut y byddwch yn eu dal yn atebol am gyflawni? Rhaid i mi ddweud eich bod yn cyfeirio yn eich datganiad at nifer o fyrddau, tasgluoedd, gweithgorau, comisiynau, ac, ynglŷn â sector sy'n cael ei hystyried yn eithaf cymhleth ac aml haenog, rwy’n amau a yw hynny efallai yn dweud rhywbeth wrthym ni hefyd. Ond, yn gyffredinol, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, i gefnogi'r cyfeiriad yr ydych yn symud iddo, ond mae’n rhaid inni fod yn siŵr y caiff hynny ei wneud yn iawn, mewn modd amserol, ac mewn ffordd gynaliadwy, yn yr ystyr ariannol yn benodol.