Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Cawsom graffu helaeth ar Fil Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn gynharach eleni. Janet sy’n cynnig y gwelliannau heddiw. Diddorol oedd clywed sylwadau Janet am y Bil ar y pryd, ac rwy'n meddwl ei bod weithiau'n dda cael llais anghydffurfiol yn ystod y cyfnod pwyllgor, oherwydd mae hynny’n rhoi prawf ar ddadleuon y Llywodraeth. Fodd bynnag, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, roeddwn ar y cyfan yn gefnogol i egwyddorion y Bil o gadw pethau fel y maent mewn cysylltiadau diwydiannol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni yn UKIP heddiw’n cefnogi'r Bil. Prif ddiben y diwygiadau, yn ein barn ni, yw ceisio andwyo’r Bil, felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant arbennig hwn ac, yn wir, pob un o'r gwelliannau. Diolch.