9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Mae’r grŵp cyntaf o welliannau ar gyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau o gyflogau yn y sector cyhoeddus. Gwelliant 1 yw’r prif welliant, a’r unig welliant yn y grŵp hwn, ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a siarad amdano—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf welliant 1. Mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio at gyfyngiadau ar gyflogwyr o ran didynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau. Mae Llywodraeth y DU wedi moderneiddio’r berthynas rhwng undebau llafur a'u haelodau. [Torri ar draws.] O, ydyn, maen nhw. [Torri ar draws.] Mae'r gwelliant hwn yn anelu at roi cyfle i weithwyr y sector cyhoeddus i wneud eu taliadau drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn annog peidio â didynnu’r holl daliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres. Drwy symud i leihau'r defnydd o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, mae Llywodraeth y DU wedi dod â mwy o dryloywder i weithwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws iddynt ddewis p'un ai talu tanysgrifiadau ai peidio a pha undeb i ymuno ag ef—dewis yw hynny.
Mae deddfwriaeth bresennol y DU yn atal nyrsys, athrawon a gweision sifil rhag talu tanysgrifiadau undeb llafur yn awtomatig o'u cyflogau. Fodd bynnag, bwriad Bil y Llywodraeth Lafur Cymru hon yw annog a chadw’r arfer hwn, sydd bellach yn hollol hen-ffasiwn ac yn eithaf diangen.
Llywydd, yn yr unfed ganrif ar hugain, ni ddylid defnyddio adnoddau cyhoeddus i gynnal y broses o gasglu tanysgrifiadau undeb llafur. Mae casglu—[Torri ar draws.] Mae casglu tanysgrifiadau’n rhywbeth y dylai’r undebau llafur ei wneud yn uniongyrchol ac, yn wir, mae llawer ledled y DU wedi newid yn barod; mae Unite, GMB, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, Undeb y Brigadau Tân, ac Undeb y Prifysgolion a Cholegau i gyd yn annog eu haelodau i newid i ddebyd uniongyrchol. Bellach, mae llawer o weithwyr yn cael eu camarwain fel mater o drefn ar delerau ymuno ag undeb llafur wrth wneud hynny drwy ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres. Er enghraifft, diffyg gwybodaeth am yr ardoll wleidyddol ddewisol. Drwy ddiweddu’r arfer hwn ac annog taliadau drwy ddebyd uniongyrchol, nid yn unig y mae cyflogwyr yn ei chael yn haws o ran tryloywder ac o ran dewis p'un ai talu tanysgrifiadau ai peidio, ond maent yn cael eu diogelu’n llawn gan y warant debyd uniongyrchol, sy'n cynnwys hysbysiad ymlaen llaw o unrhyw newidiadau i'r debyd uniongyrchol, a'r gallu i’w ganslo ar unrhyw adeg. Rwy’n cynnig.
Felly, dyma ni eto: yr un hen Dorïaid, yn ymladd brwydrau ddoe, gyda dadleuon ddoe, ar faterion ddoe, yn ddall at y ffaith bod y byd wedi symud ymlaen o rethreg gwrth-undeb yr 1970au a'r 1980au. Onid yw'n eironig, ar y diwrnod y mae Theresa May yn gwneud ple anobeithiol i bleidiau eraill i’w helpu allan o'r llanastr ofnadwy y mae hi wedi’i wneud o Brexit drwy gamsyniad affwysol i alw etholiad cyffredinol, ynghyd â'i goramcangyfrif enbyd ohoni ei hun a'i thanamcangyfrif enbyd o Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur, bod Torïaid Cymru yn ôl yma yn creu rhaniadau ac yn ymosod ar gynrychiolwyr gweithwyr? Mae'n ymddangos nad yw canlyniad yr etholiad cyffredinol wedi gwneud dim i dymheru eu rhagfarn reddfol wrth iddynt barhau i gefnogi ymosodiadau ar bobl sy'n gweithio yng Nghymru a'r rheini sy'n eu cefnogi.
Llywydd, fel swyddog undeb llafur, treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gweithio yn ymladd ymosodiadau ar hawliau gweithwyr a deddfwriaeth gwrth-undebau llafur. Ni fydd cael fy ethol i'r Cynulliad hwn yn newid hynny. Byddaf yn parhau i frwydro yn erbyn unrhyw ymgais i geisio troi'r cloc yn ôl ar yr hawliau hynny. Felly, unwaith eto, rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid dull blaengar Llywodraeth Cymru o geisio sicrhau nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a’r bobl ymroddedig sy’n gweithio'n galed i ddarparu’r gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau dialgar a bychanfrydig a osodwyd gan Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n llongyfarch yn gynnes Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, am gyflwyno Bil yr Undebau Llafur (Cymru), y byddaf yn ei gefnogi. Byddaf yn gwrthwynebu pob un o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders, gan gynnwys y gwelliant cyntaf hwn, a fyddai'n cael yr effaith o osod cyfyngiadau ar drefniadau DOCAS cyflogwyr—sef didynnu cyfraniadau yn y ffynhonnell. Fe siaradaf yn fanylach am y cynnig penodol hwnnw yn y man, ond, am nawr, mae gen i ychydig o sylwadau cyffredinol yr hoffwn eu gwneud.
Yr hyn nad yw’r Torïaid wir yn ei hoffi am y Bil Undebau Llafur (Cymru) yw ei fod yn adlewyrchiad o ba mor llwyddiannus yw gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'n anathema llwyr iddynt bod y Llywodraeth a chyflogwyr yn gallu cydnabod llwyddiant partneriaethau cymdeithasol ag undebau llafur i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, a dangos tystiolaeth o hynny. Os daeth unrhyw beth allan o'r gyfres o ddigwyddiadau trasig diweddar ledled y wlad, ymroddiad rhyfeddol ein staff gwasanaeth cyhoeddus oedd hwnnw, i ymateb i'r digwyddiadau hynny, i helpu eraill, hyd yn oed pan oedd gwneud hynny’n golygu risg iddyn nhw eu hunain. Ac eithrio’r Prif Weinidog, o bosibl, daeth Gweinidogion Ceidwadol allan yn gyflym i ganmol gwaith y dynion a’r menywod rhyfeddol hynny, ond nid ydynt yn gweld yr eironi o wneud hynny ar yr un pryd ag y maen nhw'n ceisio tanseilio eu hawliau yn y gwaith.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi rhoi eu cefnogaeth i'r Bil hwn, ond mae ganddo hefyd gefnogaeth eang o’r tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a'r cyngor datblygu economaidd yn darparu fforymau amhrisiadwy i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr i ymgysylltu ag undebau llafur ar draws ystod eang o bolisïau Llywodraeth a materion cymdeithasol ac economaidd ehangach. Mae cynrychiolwyr cyflogwyr o amrywiaeth o gyrff, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a GIG Cymru, yn dod ynghyd fel partneriaid cyfartal gydag undebau llafur a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd pennaeth CLlLC:
‘Mae CLlLC wedi cefnogi a chofleidio'r cysyniad o bartneriaeth gymdeithasol...rydym yn cydnabod yn gadarn fel cyflogwyr bod ymgysylltu â'r gweithlu drwy'r undebau llafur cydnabyddedig yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau bod parhad y gwasanaeth wedi bod wrth wraidd rhai penderfyniadau anodd’.
Felly, mae pob ochr yn gallu cydnabod budd ymagwedd ar y cyd wrth negodi cytundebau, ymdrin â heriau, a datrys anghytundebau cyn iddynt ddod yn anghydfodau. Felly, mae pawb arall yn deall hyn, heblaw’r Torïaid.
Yr ymagwedd o gynhwysiant a pharch at ei gilydd wrth ymwneud ag undebau llafur yw’r hyn y mae’r Torïaid yn ymddangos yn anfodlon neu'n analluog i’w deall. Neu a yw hyn oherwydd nad ydynt yn deall undebau llafur a bod ganddynt ragfarn gynhenid ac anwybodus yn eu herbyn? Yn ôl pob tebyg, pob un o'r uchod.
Ond gadewch inni ddod yn ôl at fanylion y gwelliant cyntaf hwn. Ei effaith fyddai ei gwneud yn anoddach i gyflogwyr ddarparu DOCAS—didynnu cyfraniadau yn y ffynhonnell. Rwy’n dweud hynny oherwydd mae’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus eisiau gallu bod â’r gallu i gytuno ar gytundebau adeiladol ar gyfer didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig. Ond, wrth gwrs, nid gwir fwriad y Torïaid yw cosbi cyflogwyr, ond rhwystro undebau llafur rhag recriwtio a chadw aelodau, i’w gwneud yn anoddach i undebau gasglu eu tanysgrifiadau. Angenrheidiol? Nac ydy. Dialgar? Ydy.
Rwyf wedi clywed Torïaid yn dadlau bod didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ar waith yn y sector cyhoeddus yn ddiarwybod i aelodau unigol o undebau llafur. Am hurt. Mae hynny'n nonsens llwyr a chyfan gwbl. Mae’n rhaid i bob aelod unigol arwyddo ffurflen aelodaeth ar gyfer yr undeb penodol y maen nhw’n ymuno ag ef, fel eu bod yn gwbl ymwybodol o ba undeb y maen nhw’n ymuno ag ef. Ac yn rhan o'r cais, mae’n rhaid iddynt awdurdodi unrhyw ddidyniad o'u cyflog yn unigol, yn union fel y byddai'n rhaid iddynt ei wneud ar gyfer unrhyw ddidyniad anstatudol arall, fel, er enghraifft, elusen neu undeb credyd.
Ond fel yr wyf wedi’i ddweud, yn aml y cyflogwr sy'n gefnogol i gytundebau o'r fath. Er enghraifft, dywedodd Cyngor Sir y Fflint, unwaith eto mewn tystiolaeth i'r pwyllgor cydraddoldeb:
‘Mae hwn yn drefniant busnes sy’n fuddiol i bob un o’r tri pharti. Does dim rheswm ymarferol i roi’r gorau i ddefnyddio’r trefniant.’
Ac yna mae’r Torïaid yn dweud, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei sylwadau agoriadol, ‘Beth am gost trefniadau DOCAS i'r trethdalwr?’ Wel, yn yr oes sydd ohoni o systemau cyflog awtomataidd modern, mae cost trefniadau DOCAS yn fach iawn, yn enwedig wrth ei gweithredu ochr yn ochr â threfniadau didyniadau tebyg ar gyfer pethau fel cynlluniau gofal plant, cynlluniau beicio i'r gwaith, cyfraniadau undebau credyd, a didyniadau elusennol. Dydw i ddim yn clywed y Torïaid yn galw am godi tâl ar y rhain. Wel, gadewch imi ddweud wrth yr anwybodus bod y rhan fwyaf o undebau yn y sector cyhoeddus yn talu am ddarparu’r gwasanaeth hwn. Yn GIG Cymru, er enghraifft, mae hyn yn tua 2 y cant o'r holl danysgrifiadau a gesglir—sy’n cynhyrchu incwm sylweddol i'r cyflogwr.
Llywydd, does dim diben defnyddiol i’r gwelliant hwn, ar wahân i geisio rhwystro trefn undebau, fel gweithred ddialgar yn erbyn pobl sy'n gweithio sy'n dewis ymuno ag undeb llafur, ac rwy’n gofyn i bob Aelod bleidleisio yn ei erbyn.
Cawsom graffu helaeth ar Fil Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn gynharach eleni. Janet sy’n cynnig y gwelliannau heddiw. Diddorol oedd clywed sylwadau Janet am y Bil ar y pryd, ac rwy'n meddwl ei bod weithiau'n dda cael llais anghydffurfiol yn ystod y cyfnod pwyllgor, oherwydd mae hynny’n rhoi prawf ar ddadleuon y Llywodraeth. Fodd bynnag, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, roeddwn ar y cyfan yn gefnogol i egwyddorion y Bil o gadw pethau fel y maent mewn cysylltiadau diwydiannol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni yn UKIP heddiw’n cefnogi'r Bil. Prif ddiben y diwygiadau, yn ein barn ni, yw ceisio andwyo’r Bil, felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant arbennig hwn ac, yn wir, pob un o'r gwelliannau. Diolch.
Byddaf yn gryno iawn—dim ond i ddweud yn syml ei bod yn ddiddorol nad yw UKIP wedi eu hargyhoeddi gan ddadleuon y Ceidwadwyr. Nid wyf yn credu bod ailadrodd y dadleuon am y trydydd tro yn gwella dim arnynt. Mae hon yn broses mor rhad a syml—didynnu cyflogau o'r ffynhonnell—fel y mae fy nghydweithiwr, Dawn Bowden, eisoes wedi’i ddweud. Nid yw hyn yn ddim gwahanol na didynnu'r rhodd elusennol neu ad-daliad benthyciad am feic neu beth bynnag y gallai fod, a pheiriant sy’n gwneud y cyfan—nid yw'n costio dim. Felly, yn amlwg mae’r undebau llafur yn gwneud cyfraniad elusennol i'w cyflogwyr. Ni chawsom ddim tystiolaeth gan neb o'r tystion y cawsom dystiolaeth ganddynt, wrth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau graffu ar hyn, ac, a dweud y gwir, dywedodd sefydliad cyflogwyr y GIG ei fod yn galluogi cyflogwyr i ddeall nifer yr aelodau mewn unrhyw un undeb a chael gwybod am aelodaeth gymharol o’r undeb llafur ar draws y sefydliad.
Felly, mae'n ymddangos i mi ei fod yn darparu tryloywder ac yn ei gwneud yn haws trosglwyddo'r arian. Does dim byd o'i le ar ddebyd uniongyrchol, ond y rheswm pam mae’r undebau llafur yn annog aelodau i newid i ddebyd uniongyrchol yw oherwydd, mewn rhannau eraill o'r DU, bydd yn rhaid i bob aelod wneud hynny. Felly, mae'n anodd iawn gweld sut, yng Nghymru, y mae angen inni wneud hynny yn ein sector cyhoeddus pan fo pawb, gan gynnwys yr holl gyflogwyr, yn ymddangos yn gwbl fodlon i ddidynnu tanysgrifiadau undeb o'r ffynhonnell.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn hwn, y cylch diweddaraf ym mhenderfyniad y Llywodraeth hon, a phenderfyniad Aelodau eraill y Cynulliad hwn, i wrthsefyll ymyrraeth ddieisiau Llywodraeth y DU â chyfrifoldebau datganoledig ac i atal eu penderfyniad i orfodi eu barn nhw am gysylltiadau diwydiannol ar y Cynulliad hwn ac ar y model partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi cael ei saernïo mor ofalus yma yn y cyfnod datganoli.
Mae'r dystiolaeth gan bartneriaid cymdeithasol ar y grŵp hwn o welliannau’n gwbl glir: bod cyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn ddiangen, bod y gost i bwrs y wlad yn ddibwys a'i fod yn gwahaniaethu heb gyfiawnhad rhwng tanysgrifiadau aelodaeth o undeb llafur a mathau eraill o ddidyniadau cyflogres. Fel yr ydych wedi’i glywed gan Dawn Bowden ac eraill, mae'n debyg nad oes dim anhawster i'r Blaid Geidwadol ddefnyddio'r math hwn o dalu ar gyfer aelodaeth o glwb chwaraeon, gwneud rhoddion i elusen, manteisio ar gynlluniau beicio i'r gwaith nac ar gyfer gwneud tanysgrifiadau i undeb credyd. Yn unigryw, mae'n debyg, dylid neilltuo aelodaeth o undeb llafur fel rhywbeth na fydd ar gael ar gyfer y math hwn o weithgaredd.
Llywydd, ymunais ag undeb llafur am y tro cyntaf pan oeddwn yn 17 mlwydd oed, felly bydd bron yn 50 mlynedd cyn bo hir. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf wedi talu tanysgrifiadau undeb llafur mewn arian parod; rwyf wedi ysgrifennu siec; rwyf wedi manteisio ar ddidyniadau cyflogres, ac, y dyddiau hyn, rwy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Nid oes dim byd o gwbl yn atal aelodau undebau llafur rhag gwneud eu tanysgrifiadau mewn ffyrdd eraill. Beth fyddai hyn yn ei wneud fyddai gosod cyfyngiadau ar eu gallu i ddefnyddio didyniadau cyflogres, a heb reswm da o gwbl. Nid yw cyflogwyr yn cael eu gorfodi i gynnig didyniadau cyflogres, na’u gorfodi i’w ddarparu heb gost, ac nid yw undebwyr llafur yn cael eu gorfodi i dalu eu tanysgrifiadau drwy'r dull hwn. Mae'r gwelliant yn ceisio datrys problem nad yw’n bodoli.
Y prynhawn yma, Llywydd, byddaf yn dibynnu’n rheolaidd ar yr adroddiad a ddarparodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad hwn ar ddiwedd Cyfnod 1—adroddiad a gefnogir gan saith o'r wyth aelod o'r pwyllgor hwnnw ac a luniwyd ar ôl proses ofalus iawn o gasglu tystiolaeth gan y pwyllgor i graffu ar gynnig y Llywodraeth. Dyma beth ddywedodd y pwyllgor ynglŷn â didynnu tanysgrifiadau undeb llafur:
‘rydym yn credu bod darpariaethau Deddf 2016’—
Deddf y DU—
‘sy'n ceisio cyfyngu ar wasanaethau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn ddiangen ac yn ddireswm. Maent hefyd yn gwahaniaethu rhwng tanysgrifiadau undeb llafur a thaliadau eraill a wneir gan gyflogwyr ar ran gweithwyr. Ni welwn ddim rheswm dilys i gymhwyso’r darpariaethau i awdurdodau datganoledig Cymru yng Nghymru. Drwy ansefydlogi'r bartneriaeth gymdeithasol, gallai’r darpariaethau gael effaith andwyol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol yng Nghymru.’
Dylai Aelodau wrthod y cynnig hwn.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i’r ddadl.
Diolch. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud y bydd yn amlwg i lawer na all Llafur gefnogi unrhyw newidiadau i'r Bil rhag ofn iddynt dramgwyddo eu meistri undeb. Mae ymgyrch etholiadol 2017 yn dystiolaeth glir o hyn; daeth £4 miliwn o £4.5 miliwn o roddion ymgyrchu ym mis Mai yn uniongyrchol gan yr undebau. Mae hynny’n 91 y cant, a byddwn yn galw ar yr Aelodau hynny yma heddiw i ddatgan yr un buddiannau ag a wnaethoch yn ystod y cyfnod pwyllgor. Gadewch i'r bobl allan yna wybod yn union sut yr ydych wedi gwneud yn dda ar gefn yr undebau Llafur.
Llywydd, mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru’n awgrymu bod cost didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn fach iawn ac yn nodi gyda hi, yn annefnyddiol, tabl anghysylltiedig sy’n rhoi manylion yr arbedion costau ar gyfer y trothwy 40 y cant. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, nid yw’r gost flynyddol i drethdalwyr y DU am helpu i ariannu taliadau i undebau’n un ddibwys. Ym mis Mawrth, fel rhan o bwyllgor craffu ar is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi ar y Rheoliadau Undebau Llafur (Didynnu Tanysgrifiadau Undebau o Gyflogau yn y Sector Cyhoeddus) 2017 drafft, dywedodd Swyddfa'r Cabinet fod y gost bresennol i'r sector cyhoeddus am ddarparu gwasanaethau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres tua £12.5 miliwn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, dim ond tua £2.74 miliwn y mae undebau llafur yn ei ddarparu am y gwasanaeth hwn, felly mae cost ychwanegol heb ei chasglu i'r trethdalwr o £9.7 miliwn y flwyddyn. Nawr, os ydym yn cymryd bod 5 y cant o'r gost hon yn dod o Gymru, mae hyn yn costio £485,000 y flwyddyn i bwrs cyhoeddus Cymru—bron i £0.5 miliwn.
Mae hwn yn swm sylweddol o arian, ond, unwaith eto, efallai na fydd y rheini sydd wedi cael rhoddion mawr yn ystod adeg yr etholiad yn meddwl hynny, ac mae’n rhywbeth na chafodd ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet na gan lawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth ar y mater hwn. Ymhellach, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn yr egwyddor o ganiatáu i ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres barhau os yw’r undeb yn talu’r gost ac os ceir cytundeb â’r cyflogwr i wneud hynny. Y bwriad yw caniatáu i gyflogwr yn y sector cyhoeddus wneud didyniadau o gyflog ei weithwyr i dalu tanysgrifiadau undeb llafur, ond dim ond os yw’r gweithwyr hynny’n cael dewis talu eu tanysgrifiadau undeb llafur drwy ddulliau eraill, neu os oes trefniadau wedi’u gwneud i'r undeb i wneud taliadau rhesymol i'r cyflogwr am wneud y didyniadau.
Mae'r Bil yn tanseilio patrymau gweithio modern, hyblyg ac yn mynd yn ôl i oes o gam-drin undebau llafur, wedi’i ategu’n sinigaidd gan eu cysylltiadau â'r Blaid Lafur. Felly, i gloi, Llywydd, unig ddiben y gwelliant hwn yw sicrhau tryloywder llawn i weithwyr, hyblygrwydd a diogelwch o ran talu tanysgrifiadau, ac arbed tua £0.5 miliwn i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rwy’n annog ac yn cymell yr holl Aelodau i'w gefnogi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Ac, felly, fe wrthodwyd gwelliant 1.