<p>Grŵp 5: Dod i Rym (Gwelliant 8)</p>

Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 8:09 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 8:09, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 8. Bwriad ein gwelliant olaf yw sicrhau y cynhelir dadansoddiad llawn o wir effaith y Bil hwn cyn iddo ddod i rym. Yn ei hanfod, drwy gynnal asesiad o effaith Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gwneud dyfarniad mwy gwybodus am yr effaith y byddai'r Bil hwn yn ei chael, yn hytrach na’i ​​gyflwyno heb ddadansoddiad manwl dim ond er mwyn gwthio deddfwriaeth drwodd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid adolygu deddfwriaethol mewn meysydd eraill, yn arbennig yn ddiweddar yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Yn yr achos hwn, dim ond ym mis Mawrth 2017 y daeth llawer o ddarpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016 i rym, ac felly mae'n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr un cyfle i asesu cyn datblygu ei ddeddfwriaeth ei hun. Diolch.