9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 8:09 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Y grŵp nesaf, a’r grŵp olaf, o welliannau yw’r un sy’n ymwneud â dod i rym. Gwelliant 8 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 8. Bwriad ein gwelliant olaf yw sicrhau y cynhelir dadansoddiad llawn o wir effaith y Bil hwn cyn iddo ddod i rym. Yn ei hanfod, drwy gynnal asesiad o effaith Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gwneud dyfarniad mwy gwybodus am yr effaith y byddai'r Bil hwn yn ei chael, yn hytrach na’i gyflwyno heb ddadansoddiad manwl dim ond er mwyn gwthio deddfwriaeth drwodd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid adolygu deddfwriaethol mewn meysydd eraill, yn arbennig yn ddiweddar yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Yn yr achos hwn, dim ond ym mis Mawrth 2017 y daeth llawer o ddarpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016 i rym, ac felly mae'n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr un cyfle i asesu cyn datblygu ei ddeddfwriaeth ei hun. Diolch.
Mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 8 yng ngrŵp 5, sydd wedi cael ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, oherwydd mae o’n cyfyngu’r Llywodraeth rhag cychwyn y Bil tan i asesiad effaith gael ei gyflawni a’i adrodd yn ôl i’r Cynulliad. Ymgais gwbl amlwg ydy hwn gan y Ceidwadwyr i rwystro’r Bil rhag pasio cyn y bydd Deddf Cymru yn weithredol. O dan y model pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae hawl gan y Cynulliad i basio’r Bil sydd gerbron y Cynulliad heddiw, ond pan fydd Deddf Cymru’n weithredol, mi fydd y model pwerau newydd yn golygu na fydd gan y Cynulliad hwn y pwerau i wneud hynny oherwydd bydd cysylltiadau diwydiannol yn fater sydd dan reolaeth San Steffan.
Pan bleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn Bil Cymru ym mis Ionawr o’r flwyddyn yma, fe wnaethom ni hynny oherwydd ein bod ni o’r farn y buasai’r Ddeddf honno yn dwyn grym o’r Cynulliad. Yn anffodus, mae’r ffaith ein bod ni’n gorfod pasio’r Bil undebau llafur cyn i’r Ddeddf honno ddod yn weithredol yn profi ein bod ni’n iawn yn hynny o beth. Felly, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant yma heddiw, ac mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn ac yn gwrthwynebu unrhyw ymgais yn y dyfodol gan y Ceidwadwyr yn San Steffan i ddwyn rhagor o bwerau oddi wrth ein Senedd genedlaethol ni.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Felly, Llywydd, mae cynigydd y gwelliant yn dweud na fu dim dadansoddiad manwl y tu ôl i’r Bil hwn. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau yn y fan yma am y ddadl gyfan a gynhaliwyd yn y Cynulliad diwethaf; yr ymdrechion a wnaeth y Prif Weinidog i berswadio Gweinidogion y DU i beidio â bwrw ymlaen drwy dresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig; y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad hwn, i geisio gwrthod grym i Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd nad oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb drostynt. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau yn y fan yma am ymrwymiadau maniffesto mwy nag un blaid yma yn y Cynulliad hwn, yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol flwyddyn yn ôl ac yn yr etholiad cyffredinol diweddar.
Rydym wedi clywed yr ymgais arferol gan y Torïaid y prynhawn yma, Llywydd, i awgrymu rywsut mai’r cymhelliant y tu ôl i’r Bil hwn, yn syml, yw’r berthynas rhwng fy mhlaid i a'r mudiad undebau llafur, perthynas yr ydym yn falch iawn ohoni. Ond yr hyn sydd y tu ôl i'r Bil mewn gwirionedd yw'r ymrwymiadau maniffesto y gwnaethom sefyll arnynt, a gafodd eu cymeradwyo gan bobl yma yng Nghymru, a rennir gan fwy nag un blaid yn y Cynulliad hwn, ac sy’n rhoi’r mandad democrataidd a'r awdurdod inni i roi’r Bil hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Beth am dystiolaeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar weithwyr asiantaeth? Beth am y dystiolaeth gyson a ddarparwyd i'r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1? Beth am yr wybodaeth a nodir yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad o effaith rheoleiddiol a ddarparwyd ac a ddiwygiwyd cyn y ddadl Cyfnod 3? Ac yn fwy na hynny i gyd, Llywydd, beth am y dystiolaeth o sut y mae cysylltiadau diwydiannol wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus yma yng Nghymru?
Mae'n cymryd llawer o hyfdra i fod yn Aelod Ceidwadol o'r Cynulliad hwn gan fod yn barod i ddadlau bod hanes cysylltiadau diwydiannol yma yng Nghymru—dim diffoddwyr tân ar streic; dim athrawon ar streic; dim nyrsys ar streic; dim meddygon ar streic; dim ffisiotherapyddion ar streic; dim therapyddion galwedigaethol ar streic, yr holl bobl hynny y mae eu plaid wedi llwyddo i’w sbarduno i weithredu diwydiannol yn Lloegr ac mae ein hanes ni yma yng Nghymru yn darparu pob darn o dystiolaeth y byddai ei hangen ar unrhyw berson rhesymol i ddangos nid yn unig mai’r dull yr ydym wedi’i ddefnyddio yma yng Nghymru yw'r un cywir, ond mai hwn yw'r un llwyddiannus hefyd. Llywydd, rwyf wedi ceisio, yn ystod y prynhawn yma, ymateb i sylwedd y gwelliannau a roddwyd gerbron y Cynulliad mewn grwpiau blaenorol, ond gadewch imi ddweud, o ran y grŵp hwn, nid yw’n ddim mwy nag ymgais i ddifetha’r Bil. Yn syml, ymgais drwy’r drws cefn i wneud yn siŵr bod y pethau yr ydym wedi dadlau o’u plaid ar yr ochr hon, gydag eraill yn y Cynulliad, gyda chefnogaeth gyson yn ystod hynt y Bil—ar y funud olaf, bydd ymgais i wrthdroi hynny i gyd â dyfais sy'n dryloyw i unrhyw un a ddymunai edrych arni. Mae'n ymgais olaf i geisio sicrhau na allwn barhau i wneud pethau yma yng Nghymru yn y modd y mae’r Cynulliad hwn wedi’i gymeradwyo ac y mae undebwyr llafur a chyflogwyr wedi dod gerbron y Cynulliad i ddweud wrthym mai dyma un o lwyddiannau'r cyfnod datganoli. Gadewch inni drechu’r gwelliant hwn hefyd, a rhoi’r Bil hwn ar y llyfr statud.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Nid oedd llawer o'r atebion, wrth gwrs, gan yr Ysgrifennydd Cabinet a'r rheini a roddodd dystiolaeth yng Nghyfnodau 1 a 2 y Bil hwn, yn syml, yn seiliedig ar ddigon o dystiolaeth inni wneud asesiad annibynnol o effaith y Bil hwn. Er enghraifft, i fynd yn ôl at welliant 1, dywedwyd wrthym yn barhaus bod cost didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn fach iawn, heb i neb allu darparu ffigur pendant. Ac eto rydym yn gwybod o ddadansoddiad Swyddfa'r Cabinet ei fod yn costio £9.7 miliwn net yn flynyddol ledled y DU, sy'n cyfateb i tua £0.5 miliwn yma yng Nghymru. Hefyd, mae'r memorandwm esboniadol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru—. Felly, ceir cwmpas yn sicr ar gyfer dadansoddiad pellach o ran costau ac effaith y Bil hwn a Deddf y DU. Mae adolygu a chraffu yn hanfodol i greu deddfwriaeth dda, o ran dadansoddi’r hyn sydd eisoes ar waith, ac o ran rhoi gwell sail i’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud.
O ystyried y rhuthr i wthio’r Bil penodol hwn drwodd, rwy’n meddwl bod angen inni oedi ac ystyried yr effeithiau hirdymor yn y fan yma, ac mae asesu Deddf y DU yn hanfodol i hyn. Ymhellach, bydd hyn yn caniatáu eglurder llwyr o ran cymhwysedd deddfwriaethol, rhywbeth nad wyf fi na fy nghydweithwyr ar y meinciau hyn yn teimlo ei fod gennym eto. Mae'n deg i ddweud y bu rhywfaint o amwysedd yn y maes hwn. Wrth i Fil y DU wneud ei ffordd drwy Senedd San Steffan, honnodd Llywodraeth Cymru na ddylai rhai o'i ddarpariaethau ymestyn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan addo cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i ddatgymhwyso'r darpariaethau hynny yng Nghymru cyn gynted a phosibl—fel pe byddai hynny’n brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth Cymru hon pan eich bod yn ystyried sefyllfa ein gwasanaeth iechyd, y safonau gwael yn ein haddysg—sef lle'r ydym ni ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth y DU wedi parhau i ddadlau nad yw cyfraith undebau llafur wedi’i datganoli, ac felly mae'n debygol iawn y bydd trydydd darn o ddeddfwriaeth o Gymru yn cyrraedd y Goruchaf Lys drwy atgyfeiriad gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn wastraff drud o arian trethdalwyr ar gyfer deddfwriaeth sy'n ddiangen, yn hen-ffasiwn ac yn ddim mwy na phrosiect balchder i Lywodraeth Cymru. Mae’n drueni gweld miloedd o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio ar achos llys dros gymhwysedd, dim ond i sylweddoli pa mor ddi-glem yw Llywodraeth Lafur Cymru oherwydd inni fod ar gymaint o frys i basio'r Bil hwn. Llywydd, mae Deddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU yn dangos natur flaengar gweddill y DU. Yn y cyd-destun hwn, ni ellir gweld Cymru fel bod yn mynd tuag yn ôl.
Gallaf ddweud wrthych yn awr, nid yw'n cymryd hyfdra i fod yn Geidwadwr Cymreig; mae'n cymryd gonestrwydd, dewrder, argyhoeddiad, egwyddor a moesau. Rwy'n hynod falch o fod yn Geidwadwr Cymreig, ac rwy'n hynod o falch i herio’r ddeddfwriaeth hon a chraffu arni, a byddwn yn gwneud hynny ar unrhyw bryd, mewn unrhyw le, ac unwaith eto. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 8.
Rydym felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth cyfnod 3 o Fil yr Undebau Llafur (Cymru) ac rydw i’n datgan y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben a thrafodion y dydd i ben.