<p>Grŵp 5: Dod i Rym (Gwelliant 8)</p>

Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 8:10 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 8:10, 11 Gorffennaf 2017

Mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 8 yng ngrŵp 5, sydd wedi cael ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, oherwydd mae o’n cyfyngu’r Llywodraeth rhag cychwyn y Bil tan i asesiad effaith gael ei gyflawni a’i adrodd yn ôl i’r Cynulliad. Ymgais gwbl amlwg ydy hwn gan y Ceidwadwyr i rwystro’r Bil rhag pasio cyn y bydd Deddf Cymru yn weithredol. O dan y model pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae hawl gan y Cynulliad i basio’r Bil sydd gerbron y Cynulliad heddiw, ond pan fydd Deddf Cymru’n weithredol, mi fydd y model pwerau newydd yn golygu na fydd gan y Cynulliad hwn y pwerau i wneud hynny oherwydd bydd cysylltiadau diwydiannol yn fater sydd dan reolaeth San Steffan.

Pan bleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn Bil Cymru ym mis Ionawr o’r flwyddyn yma, fe wnaethom ni hynny oherwydd ein bod ni o’r farn y buasai’r Ddeddf honno yn dwyn grym o’r Cynulliad. Yn anffodus, mae’r ffaith ein bod ni’n gorfod pasio’r Bil undebau llafur cyn i’r Ddeddf honno ddod yn weithredol yn profi ein bod ni’n iawn yn hynny o beth. Felly, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant yma heddiw, ac mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn ac yn gwrthwynebu unrhyw ymgais yn y dyfodol gan y Ceidwadwyr yn San Steffan i ddwyn rhagor o bwerau oddi wrth ein Senedd genedlaethol ni.