Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch. Fel rhan o’ch rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac yn unol â’r addewid y caent uno gydag Ysgol Dolgarrog, mae dwy ysgol wledig yn nyffryn Conwy yn fy etholaeth—Tal y Bont ac Ysgol Trefriw—wedi bod ar gau ers blwyddyn bellach. Do, cawsant eu cau gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd. Mae safle’r ysgol newydd yn Nolgarrog yn dal i aros am unrhyw fath o ailddatblygu. A allwch ddweud, fel y gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fy etholwyr, pryd y bydd y cyfnod o ailddatblygu’r safle hwn yn dechrau?