1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion gwledig? OAQ(5)0158(EDU)
Diolch, Janet. Mae ysgolion gwledig yn elwa ar yr ystod lawn o bolisïau sydd gennym ar waith ledled Cymru. Yn ogystal, ers ymgymryd â’r swydd, rwyf wedi cyflwyno grant newydd ar gyfer ysgolion bach a gwledig sy’n werth £2.5 miliwn y flwyddyn, ac yn fwy diweddar, rwyf wedi cychwyn ymgynghoriad gan gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.
Diolch. Fel rhan o’ch rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac yn unol â’r addewid y caent uno gydag Ysgol Dolgarrog, mae dwy ysgol wledig yn nyffryn Conwy yn fy etholaeth—Tal y Bont ac Ysgol Trefriw—wedi bod ar gau ers blwyddyn bellach. Do, cawsant eu cau gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd. Mae safle’r ysgol newydd yn Nolgarrog yn dal i aros am unrhyw fath o ailddatblygu. A allwch ddweud, fel y gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fy etholwyr, pryd y bydd y cyfnod o ailddatblygu’r safle hwn yn dechrau?
Diolch am eich cwestiwn. Mae’n bwysig fod yr Aelodau’n ymwybodol na fydd unrhyw newidiadau i’r cod trefniadaeth ysgolion yn cael eu rhoi ar waith yn ôl-weithredol, ac rwy’n awyddus i fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. O ran safle’r ysgol y cyfeiriodd yr Aelod ati, mewn gwirionedd, mater i’r cyngor lleol yw mynd ar drywydd y broses o adeiladau’r cyfleuster newydd hwnnw. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, ar ôl gwneud ymholiadau gyda fy nhîm ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ynglŷn â chynnydd y prosiect penodol hwnnw. Mae gennym y rhaglen fwyaf ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau ers y 1960au. Mae adnoddau ar gael, ac rwy’n awyddus i weld defnydd da’n cael ei wneud o’r adnoddau hynny, a’n bod yn darparu’r lleoliadau addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru y mae ein plant yn eu haeddu.
Ac, wrth gwrs, mae hyfywedd ysgolion gwledig yn dibynnu cymaint ar eu gallu nhw i ddarparu cwricwlwm cyfan, a gwneud hynny i’r safon addysgiadol orau er mwyn ennill hyder y rhieni a’r gymuned yn ehangach na hynny. A fedrwch chi, felly, Ysgrifennydd Cabinet, ychwanegu at yr hyn rydych chi eisoes wedi ei ddweud ynglŷn â gwneud yn siŵr bod ysgolion gwledig yn gysylltiedig drwy fand-eang o’r radd flaenaf, i wneud yn siŵr bod pob un o’r ysgolion hynny, felly, wedi ei rwydweithio ac yn gallu darparu’r dechnoleg fwyaf diweddar i ddisgyblion er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol ffyniannus i ysgolion gwledig?
Diolch yn fawr, Simon. Rydych yn llygad eich lle—hyfywedd addysgol ysgol a ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf mewn perthynas â dyfodol yr ysgol honno. Nid yw cadw ysgol ar agor yn ddigon da. Mae’n rhaid i’r addysg y mae’r ysgol honno yn ei darparu fod yn gyfle addysgol o’r radd flaenaf i’r plant hynny. Nid wyf am i blant gael llai o gyfle am eu bod yn mynychu ysgol fach wledig na phe baent yn mynychu unrhyw ysgol arall yng Nghymru. Mae technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyfle i ni fynd i’r afael â rhai o’r anfanteision logistaidd y gall ysgolion bach gwledig eu hwynebu weithiau, yn ogystal â’r arwahanrwydd proffesiynol y gallai’r athrawon yn yr ysgolion hynny ei wynebu o bryd i’w gilydd.
Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi sicrhau yn ddiweddar fod pob ysgol—er bod problemau o hyd gydag un ysgol yn etholaeth Ceredigion, oherwydd anawsterau gyda’r contractwr—bellach wedi cyrraedd targed y Llywodraeth ar gyfer pob cyflymder, ac rydym wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol y mae awdurdodau lleol unigol yn rhoi cynigion am gyfran ohono, i ddiweddaru i gyflymderau hyd yn oed yn uwch ar gyfer ysgolion eraill. Ond fel rhan o’r grant ysgolion gwledig, un o’r meysydd allweddol y byddem yn hoffi gweld y cynghorau’n defnyddio’r grant hwnnw ar ei gyfer yw annog arloesedd, a fyddai’n cynnwys ystafelloedd dosbarth rhithwir a buddsoddi mewn TGCh a ffyrdd arloesol o addysgu drwy rwydwaith rhithwir.