<p>Ysgolion Gwledig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:31, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae’n bwysig fod yr Aelodau’n ymwybodol na fydd unrhyw newidiadau i’r cod trefniadaeth ysgolion yn cael eu rhoi ar waith yn ôl-weithredol, ac rwy’n awyddus i fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. O ran safle’r ysgol y cyfeiriodd yr Aelod ati, mewn gwirionedd, mater i’r cyngor lleol yw mynd ar drywydd y broses o adeiladau’r cyfleuster newydd hwnnw. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, ar ôl gwneud ymholiadau gyda fy nhîm ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ynglŷn â chynnydd y prosiect penodol hwnnw. Mae gennym y rhaglen fwyaf ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau ers y 1960au. Mae adnoddau ar gael, ac rwy’n awyddus i weld defnydd da’n cael ei wneud o’r adnoddau hynny, a’n bod yn darparu’r lleoliadau addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru y mae ein plant yn eu haeddu.