<p>Grantiau Datblygu Disgyblion yn Etholaeth Ogwr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:35, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae’r Aelod yn llygad ei le. Oni bai ein bod yn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i lesiant plentyn, ni fyddant yn elwa ar y cyfleoedd addysgol a ddarparwn ar eu cyfer. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n bwriadu cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o ‘Cymwys am Oes’, a gobeithiaf y bydd yn falch o weld mater llesiant yn cael ei gydnabod pan fydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

O ran y camau penodol rwyf yn eu cymryd, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros blant. Rydym yn cydariannu cyfres o gynlluniau peilot sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r effaith y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod eu cael ar lesiant plentyn. Ac ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, rydym ar fin lansio cynlluniau peilot sy’n ymwneud â sut y gallwn gefnogi ysgolion yn well drwy sicrhau bod staff gwasanaeth iechyd sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed yn fwy cyffredin yn ein hysgolion. Ac rydym yn gobeithio cyhoeddi manylion y cynllun peilot hwnnw cyn bo hir.