Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Fel y gwyddoch, efallai, Ysgrifennydd y Cabinet, mae ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws, rhan ddifreintiedig iawn o etholaeth Ogwr. Tybed pa mor glir yw hi y gellir defnyddio’r grant datblygu disgyblion i wella sgiliau dysgu Cymraeg, os mynnwch, ar gyfer disgyblion o gefndiroedd Saesneg eu hiaith, sydd mewn gwirionedd yn ei gwneud yn haws i’r teuluoedd hynny ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant, gan eu helpu i ddod yn ddwyieithog a rhoi mantais iddynt yn y gweithle yn ddiweddarach mewn bywyd.