Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Ers eich cyhoeddiad ddoe am gynyddu ffioedd dysgu, rydw i wedi derbyn nifer fawr o negeseuon gan fyfyrwyr sy’n astudio ym Mangor yn ogystal â gan ddisgyblion ysgol sydd yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol. Yn ystod yr etholiad, fe gafodd miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc ar draws y wlad eu hysbrydoli gan wleidyddiaeth unwaith eto, yn rhannol am eu bod nhw wedi gweld rhai o’r pleidiau gwleidyddol yn fodlon cyflwyno polisïau a oedd yn cydfynd efo’u gwerthoedd nhw. Yn dilyn eich cyhoeddiad chi ddoe, a ydych chi’n cytuno fod gwleidyddion wedi codi gobeithion cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc, dim ond i’w chwalu nhw yn rhacs ychydig wythnosau yn ddiweddarach?